Twyll buddsoddi
Beth yw twyll buddsoddi?
Twyll buddsoddi yw pan fyddwch chi’n symud eich arian i gronfa sy’n digwydd bod yn un ffug yn y pen draw.
Efallai y cewch chi eich targedu gan alwyr digroeso neu’n gweld cyfleoedd buddsoddi ffug yn cael eu hyrwyddo ar beiriannau chwilio a’r cyfryngau cymdeithasol. Yn aml, bydd pwysau’n cael ei roi arnoch chi i weithredu’n gyflym. Efallai y gofynnir i chi ddarparu eich manylion personol hefyd i drefnu bod rhywun yn eich ffonio’n ôl.
Yn aml, gall y rhain ymddangos yn rhai go iawn oherwydd tystebau neu gymeradwyaeth gan enwogion, yn honni eu bod wedi cael llawer o elw. Mewn gwirionedd, mae’r honiadau hyn yn ffug.
Yn aml, mae troseddwyr yn sefydlu gwefannau ffug yn honni eu bod yn gwmnïau buddsoddi cyfreithlon. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn anfon gwaith papur gyda brand swyddogol i gefnogi eu sgam ymhellach. Efallai y byddwch chi hefyd yn cael taliad cychwynnol neu hyd yn oed sawl taliad gydag “enillion” ar eich buddsoddiad i’ch perswadio i fuddsoddi mwy o arian.
Mae troseddwyr yn treulio oriau yn ymchwilio i chi ar gyfer eu sgamiau, a gallan nhw roi manylion i chi am fuddsoddiadau a chyfranddaliadau blaenorol sydd gennych chi.
Mae’r sgamiau hyn yn cynnwys eich perswadio i fuddsoddi mewn marchnadoedd fel:
- aur
- eiddo
- carbon
- cryptoarian, gan gynnwys bitcoin
- gwin
Efallai y bydd troseddwyr yn cysylltu yn honni eu bod yn gynghorwyr ariannol. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi lawrlwytho meddalwedd sgrin fel y gallan nhw wneud buddsoddiadau ar eich rhan. Drwy lawrlwytho’r feddalwedd, maen nhw’n cael mynediad i’ch gwybodaeth ariannol.
Sut i nodi twyll buddsoddi:
- Rydych yn gweld hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, a gymeradwyir gan enwogion weithiau, yn cynnig elw uchel ar fuddsoddiadau.
- Mae rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl dros y ffôn, drwy e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch cyfle buddsoddi.
- Efallai y byddwch chi’n cael cynnig elw uchel ar eich buddsoddiad heb fawr o risg, os o gwbl, yn ôl pob golwg.
- Rydych chi’n cael gwybod bod y cyfle buddsoddi yn un sy’n arbennig i chi.
- Ar gyfer rhai mathau o fuddsoddiad, mae pwysau’n cael ei roi arnoch i benderfynu heb unrhyw amser i chi ei ystyried.