Polisi Cynaliadwyedd
Cyhoeddwyd: 26 Mawrth 2026
Cyflwyniad
Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, mae gweithredu'n gyfrifol yn ein gwaed. Felly, mae Principality wedi ymrwymo i gynnal ei busnes mewn ffordd sy'n amddiffyn yr amgylchedd, yn sicrhau iechyd a diogelwch ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid, ac yn ychwanegu gwerth at y cymunedau a wasanaethwn.
Diben y polisi hwn yw nodi sut y byddwn yn sicrhau bod ein gweithrediadau'n lleihau unrhyw niwed i'r amgylchedd.
Ein polisi yw ceisio gwelliant parhaus drwy gydol ein gweithrediadau busnes er mwyn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd lleol a byd-eang drwy warchod ynni, dŵr ac adnoddau naturiol eraill, lleihau cynhyrchu gwastraff, ailgylchu a lleihau ein defnydd o ddeunyddiau gwenwynig. Rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth amgylcheddol ac atal llygredd, gan fodloni neu ragori ar bob gofyniad rheoleiddio amgylcheddol.
Datganiad Polisi
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob person a gyflogir gan y Gymdeithas gan gynnwys cydweithwyr, ymgynghorwyr a chontractwyr tymor penodol. Ein polisi yw:
- Cydymffurfio â'r holl ofynion a rhwymedigaethau amgylcheddol cymwys a chydnabod a glynu wrth unrhyw ofynion perthnasol cysylltiedig eraill sy'n ymwneud â'n heffeithiau amgylcheddol a osodir arnom.
- Ymrwymo'n ffurfiol i ddiogelu'r amgylchedd, gyda'r rheolaethau canlynol:
- Mae targedau sero net yn cael eu gosod a'u cymeradwyo gan y Bwrdd.
- Caiff ôl troed carbon y gorfforaeth ei fesur a'i gofnodi'n flynyddol.
- Rydym yn cymryd cyfrifoldeb am ein hallyriadau drwy ariannu prosiectau lleihau/lliniaru carbon.
- Mae diogelu'r amgylchedd a chyflawni sero net wedi'i ymgorffori yn Strategaeth Effaith y Gymdeithas.
- Mae'r Strategaeth Effaith wedi'i halinio â Nod Datblygu Cynaliadwy 13, Gweithredu ar Hinsawdd a Nodau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Darparu fframwaith Caffael sy'n cefnogi cadwyn gyflenwi gynaliadwy, gan gynnwys asesu risg cyflenwyr hollbwysig, pwysig ac allweddol ar eu heffaith amgylcheddol, cyn gwneud penderfyniad i wneud busnes â nhw.
- Monitro ein defnydd o ynni o fewn cwmpas 1 a 2 gyda'r nod o leihau ein heffaith amgylcheddol.
- Cefnogi addasiadau i brosesau sy'n lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff, gan gynnwys:
- Mae gennym brosiect aml-flwyddyn parhaus i leihau faint o bapur a ddefnyddiwn yn ein gweithrediadau.
- Arwyddion clir ynghylch gwaredu gwastraff ac ailgylchu ar gyfer ein cydweithwyr.
- Mynd ati i hyrwyddo ymwybyddiaeth, ymddygiadau a gweithredoedd amgylcheddol cadarnhaol ar gyfer pob cydweithiwr gan gynnwys:
- Rydym yn gweithredu rhwydwaith Cyfeillgar i'r Blaned dan arweiniad cydweithwyr sy'n darparu arweiniad a hyfforddiant i gydweithwyr ar sut i leihau eu hôl troed carbon gartref ac yn y gwaith.
- Mae pob cydweithiwr yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth carbon gorfodol ac mae deunydd ar gael iddynt ei adnewyddu'n rheolaidd os ydynt yn dymuno.
- Cynhelir digwyddiadau rheolaidd a chyfathrebiadau corfforaethol i addysgu cydweithwyr ymhellach.
- Mae cydweithwyr yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn amrywiol fforymau a gweithgorau i addysgu eraill a, lle bo modd, ddylanwadu ar benderfynwyr gwleidyddol.
- Asesu, ymlaen llaw, yr effeithiau amgylcheddol sy'n deillio o'n gweithgareddau busnes ac effeithiau amgylcheddol unrhyw ddatblygiad sylweddol ac addasu ein cynlluniau yn unol â hynny.
- Mae effeithiau amgylcheddol wedi'u hymgorffori yn y broses asesu risg ar gyfer unrhyw waith adeiladu sy'n cael ei wneud.
- Ystyrir effeithiau amgylcheddol mewn perthynas â phob dewis a phryniant cyflenwyr.
- Mae angen newidiadau i brosesau i sicrhau nad oes unrhyw bapur ychwanegol yn cael ei gyflwyno i brosesau.
- Cynnal y Datganiad Polisi hwn dan reolaeth ddogfennau ffurfiol a sicrhau ei fod ar gael i bartïon perthnasol sydd â diddordeb, yn ôl yr angen.