Egluro mythau cyffredin am ISAs
Yn y canllaw hwn
Nid oes angen i gyfrifon ISA fod yn gymhleth. Maent yn syml yn ffordd o amddiffyn mwy o'ch cynilion rhag treth.
Ond mae rhai mythau cyffredin yn dal i peri dryswch.
Gall deall y rheolau a lwfansau ISA diweddaraf eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus a hyderus ynglŷn â sut rydych yn cynilo.
Mythau cyffredin am gyfrifon ISA
Myth: Dim ond un ISA allwch chi ei gael.
Y gwir: Does dim terfyn ar faint o ISAs arian parod y gallwch eu cael.
Mae rhai darparwyr yn caniatáu ichi dalu i mewn i sawl ISA arian parod gyda nhw. Bydd eraill ond yn caniatáu ichi dalu i mewn i un.
Yn Principality, dim ond un ISA arian parod y gallwch dalu i mewn iddo bob blwyddyn dreth.
Mae'n werth cadarnhau hyn gyda'ch darparwr.
Gallwch hefyd dalu i mewn i fathau eraill o ISA, ar yr amod eich bod yn aros o fewn eich lwfans ISA blynyddol cyffredinol.
Myth: Dim ond gydag un darparwr y gallwch gynilo.
Y gwir: Gallwch fod â chyfrifon ISA gyda mwy nag un banc neu gymdeithas adeiladu.
Chi biau eich lwfans ISA, nid eich darparwr.
Mae hynny'n golygu y gallwch chi gael ISAs gyda mwy nag un darparwr.
Rhaid i'r swm rydych chi'n ei dalu i mewn bob blwyddyn ar draws eich holl gyfrifon ISA aros o fewn eich lwfans ISA blynyddol.
Myth: Rydych yn colli'ch lwfans os byddwch yn codi arian o'r cyfrif.
Y gwir: Mae hyn yn dibynnu ar y math o ISA sydd gennych.
Mae rhai cyfrifon ISA yn hyblyg, sy'n golygu y gallwch godi arian ac amnewid arian o fewn yr un flwyddyn dreth heb effeithio ar eich lwfans
Nid yw eraill yn cynnig y math hwn o hyblygrwydd.
Mae'n bwysig cadarnhau rheolau eich ISA penodol.
Myth: Dim ond ar gyfer cynilwyr hirdymor y mae ISAs.
Y gwir: Gall ISAs fod yn addas ar gyfer gwahanol nodau cynilo.
Yr ateb yw dewis y math cywir o ISA.
Er enghraifft, os oes angen i chi godi rhywfaint o arian cyn diwedd eich cyfnod, dylech ddewis ISA sy'n caniatáu ichi godi arian o'r cyfrif.
Os ydych yn hyderus nad oes angen i chi gael mynediad at eich cynilion am gyfnod penodol, gallech ddewis cloi eich arian i ffwrdd am gyfnod hirach.
Myth: Nid yw ISAs yn werth chweil os yw cyfraddau llog yn isel
Y gwir: Mae'n dibynnu ar eich nodau.
Hyd yn oed pan fydd cyfraddau llog yn is, mae budd di-dreth ISA yn dal i fod yn berthnasol.
Dim ond un o'r pethau i'w hystyried wrth ddewis sut i gynilo yw cyfraddau llog.
Dros amser, yn enwedig ar gyfer balansau mwy, gall ennill llog yn ddi-dreth wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Myth: Mae angen i chi ddefnyddio'ch lwfans mewn un tro.
Y gwir: Does dim rhaid i chi ddefnyddio eich lwfans ISA i gyd ar unwaith.
Gallwch ychwanegu arian at eich ISA yn raddol drwy gydol y flwyddyn dreth; ar yr amod eich bod yn aros o fewn y lwfans ac yn dewis ISA sy'n eich galluogi i wneud taliadau rheolaidd.
Cofiwch, ni allwch drosglwyddo unrhyw lwfans nas defnyddiwyd i'r flwyddyn dreth nesaf.
Myth: Bydd lwfansau ISA yn cael eu capio o 2027/2028.
Y gwir: Ni fydd cyfanswm y lwfans ISA yn newid.
Bydd gan bawb yr un lwfans arian parod ISA cyffredinol o £20,000 o hyd.
Os ydych chi dros 65 oed, bydd gennych yr hyblygrwydd i gadw'r cyfan mewn ISA arian parod.
Ond os ydych chi o dan 65 oed, dim ond uchafswm [macros/newisaallowance] y byddwch yn gallu ei roi mewn ISA arian parod.
Felly byddai'n rhaid i chi ddefnyddio gweddill eich lwfans – £8,000 – mewn math gwahanol o ISA.
- ISAs
Porwch ein dewis o gyfrifon ISA arian parod
Edrychwch ar ein dewis o gyfrifon ISA Arian Parod i ddod o hyd i un sy'n cyd-fynd â'ch nodau cynilo.