Egluro ISAs arian parod hyblyg
Yn y canllaw hwn
Beth yw eich lwfans ISA?
Bob blwyddyn, mae'r llywodraeth yn pennu uchafswm y gallwch ei gynilo mewn ISAs.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2026/2027, y lwfans ISA yw £20,000. Ac mae eich lwfans yn ailosod bob blwyddyn dreth (mae'r flwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill).
Mae eich lwfans ISA yn berthnasol i'ch holl gyfrifon ISA gyda'i gilydd. Mae hyn yn golygu y gallwch rannu eich lwfans rhwng gwahanol gyfrifon ISA bob blwyddyn dreth.
O 6 Ebrill 2027 ymlaen, bydd y lwfans ISA cyffredinol yn aros ar £20,000. Ond os ydych chi'n iau na 65 oed, dim ond hyd at £12,000 o'ch lwfans y gallwch ei roi mewn ISA arian parod.
I ddysgu mwy am y newidiadau hyn, gallwch ddarllen ein canllaw ar newidiadau i reolau ISAs arian parod.
Sut mae lwfansau ISA yn gweithio
Mae eich lwfans ISA blynyddol yn berthnasol i'r holl gyfrifon ISA rydych chi'n talu iddynt yn ystod un flwyddyn dreth.
Gallwch dalu i mewn i nifer o wahanol ISAs mewn blwyddyn dreth. Ond ni all cyfanswm y swm rydych chi'n ei gyfrannu fod yn fwy na'ch lwfans blynyddol.
Gallech roi eich lwfans llawn mewn un ISA. Ond, cofiwch y terfynau ISA arian parod ar gyfer pobl dan 65 oed a nodwyd uchod. Neu gallech ddewis rannu eich lwfans ar draws gwahanol fathau o ISAs. Chi sy'n dewis.
Dim ond i un ISA arian parod Principality y gallwch chi dalu bob blwyddyn dreth.
Beth yw ISA arian parod hyblyg?
Nid yw pob ISA yn caniatáu i chi godi arian, ond mae rhai yn gwneud hynny. Mae ISA hyblyg yn eich galluogi i godi arian a rhoi'r arian hwnnw yn ôl yn yr un flwyddyn dreth heb ddefnyddio eich lwfans ISA.
Os ydych chi'n meddwl efallai y bydd angen i chi gael mynediad at eich cynilion, dylech gymryd amser i ddeall sut mae ISAs hyblyg yn gweithio.
Gadewch i ni edrych ar enghraifft. Ar gyfer yr enghraifft hon, byddwn yn cymryd bod gennych lwfans ISA arian parod o £20,000.
Cam 1: Rydych chi'n talu £10,000 i'ch ISA arian parod hyblyg.
Cam 2: Yn ddiweddarach, rydych chi'n codi £2,000.
Cam 3: Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn dreth, rydych chi'n rhoi'r £2,000 yn ôl yn yr un ISA arian parod hyblyg.
Gan fod eich ISA yn hyblyg, mae gennych chi hyd at £10,000 o'ch lwfans ISA yn weddill o hyd.
Er eich bod yn dechnegol wedi talu cyfanswm o £12,000 i mewn, mae'r £2,000 a godoch yn cael ei ystyried yn 'adnewyddiad' yn hytrach nag yn achos o ddefnyddio eich lwfans.
Pam dewis ISA arian parod hyblyg?
Gallai ISA arian parod hyblyg fod yn addas i chi os ydych chi:
• Angen mynediad at eich cynilion o bryd i'w gilydd.
• Eisiau'r hyblygrwydd i ad-dalu arian rydych chi wedi'i godi heb effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol.
• Yn bwriadu efnyddio ISA ar gyfer cynilion brys y gallai fod angen i chi eu codi.
Cofiwch:
• Nid yw pob ISA arian parod yn hyblyg.
• Rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian yn yr un flwyddyn dreth â'r flwyddyn y gwnaethoch ei godi.
• Mae'r rheolau'n amrywio rhwng darparwyr, felly mae bob amser yn werth cadarnhau telerau ac amodau eich cyfrif.
- ISAs
Porwch ein dewis o gyfrifon ISA arian parod
Edrychwch ar ein dewis o gyfrifon ISA Arian Parod i ddod o hyd i un sy'n cyd-fynd â'ch nodau cynilo.