Sut i gynilo ar gyfer y Nadolig
Yn y canllaw hwn
Pam mae cynilo'n gynnar yn gwneud y Nadolig yn haws
Gall y Nadolig fod yn ddrud. O anrhegion a bwyd i deithio ac addurniadau, gall y costau gynyddu'n gyflym, a gall cydbwyso'r cynllunio a'r pwysau ariannol eich llethu.
Heb gynllun cynilo, gall fod yn demtasiwn troi at gardiau credyd neu fenthyca tymor byr i oroesi mis Rhagfyr. Ond gall hyn arwain at straen ariannol yn ddiweddarach.
Newyddion da! Gall dechrau’n gynnar a chynilo ymlaen llaw eich helpu i osgoi panig munud olaf a gwasgaru’r gost yn fwy cyfartal. Gall neilltuo swm rheolaidd bob mis eich helpu i osgoi penderfyniadau cost uchel, a lleihau’r angen i ddefnyddio’ch gorddrafft neu ddibynnu ar fenthyciadau llog uchel.
Gall cyfrif cynilo, fel cyfrif cynilo rheolaidd, eich helpu i wasgaru cost y Nadolig drwy droi gwariant mawr dros yr ŵyl yn symiau llai bob mis, y gellir eu rheoli. Mae bod yn drefnus yn ei gwneud hi'n haws cynllunio ymlaen llaw a gwario'n feddylgar, gan adael amser i chi ysgrifennu rhestrau anrhegion, siopa'n gynnar am fargeinion, ac osgoi prynu mewn panig y funud olaf.
Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer treuliau'r Nadolig
Dechreuwch drwy feddwl am yr hyn y bydd angen i chi ei dalu amdano adeg y Nadolig. Meddyliwch am bethau fel anrhegion, bwyd, addurniadau, a digwyddiadau – a faint sydd angen i chi ei dalu am bob un. Unwaith y bydd gennych gyfanswm bras i anelu ato, gallwch ddadansoddi faint sydd angen i chi ei gynilo. Rhannwch eich ffigur targed rhwng nifer y misoedd y byddwch yn cynilo ar eu cyfer.
Er enghraifft, os ydych am gynilo dros 12 mis ac eisiau cynilo £600 erbyn y Nadolig, bydd angen i chi gynilo £50 y mis. Gosodwch nod sy'n realistig ac yn gyraeddadwy. Mae'n well cynilo ychydig ac yn aml, na gosod nod y mae'n anodd glynu ato - a rhoi'r gorau iddi yn y pen draw. Cofiwch fod cynilo'n araf yn well na dim!
Ffyrdd hawdd o adeiladu eich pot cynilo Nadolig
Mae nifer o adnoddau ac awgrymiadau syml a all eich helpu i adeiladu eich cronfa ar gyfer y Nadolig:
Rhowch gynnig ar dalgrynnu
Ystyriwch dalgrynnu eich pryniannau i’r bunt agosaf – a chynilo’r gwahaniaeth. Er enghraifft, os ydych yn gwario £2.60, talgrynnwch y trafodiad i £3, a rhowch 40c i’ch cyfrif cynilo. Mae cynilo ychydig ac yn aml yn gweithio’n dda iawn. Dros fis, gall y symiau bach hyn adio i fyny.
Erbyn hyn, mae llawer o fanciau ac apiau yn cynnig nodweddion sy'n gadael i chi dalgrynnu yn awtomatig; gan dalgrynnu eich pryniannau a throsglwyddo'r gwahaniaeth i'ch cynilion wrth i chi wario.
Defnyddiwch daliadau arian yn ôl a gwobrau
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd o gynilo, hyd yn oed wrth wneud eich gwariant dyddiol arferol. Gall manteisio i'r eithaf ar daliadau arian yn ôl a gwobrau drwy gydol y flwyddyn helpu i wneud y mwyaf o'ch cronfa Nadolig. Mae safleoedd taliadau arian yn ôl fel TopCashback neu Quidco yn rhoi arian yn ôl i chi ar bryniannau ar-lein. Ac yn aml gellir trosi rhaglenni gwobrwyo gan eich banc neu archfarchnad yn dalebau neu arian parod.
Symudwch arian dros ben
Os oes gennych unrhyw arian dros ben yn eich cyfrif ar ddiwedd pob mis, waeth pa mor fach yw'r swm – ystyriwch ei symud i'ch cyfrif cynilo. Gall hyn fod yn ffordd wych o roi o'r neilltu arian y gallech ei wario fel arall.
Cadw ar y trywydd iawn gyda'ch cynllun cynilo
Nid oes angen taenlen gymhleth arnoch i gadw golwg ar eich cynilion (er ein bod ni wrth ein bodd â thaenlen)! Rhowch gynnig ar y camau bach hyn i feithrin arferion cynilo da yn barod ar gyfer y Nadolig:
- Dewiswch swm i'w gynilo yn seiliedig ar faint rydych yn ei ennill a'i wario bob mis.
- Gosodwch nodyn atgoffa i wirio'ch cynnydd neu addasu'ch cynilion os oes angen.
- Adolygwch eich gwariant bob mis i weld a allech gynilo mwy.
- Os yw eich banc neu ap yn caniatáu potiau cynilo neu lysenwau, defnyddiwch y rhain i'ch cadw'n llawn cymhelliant.
- Symudwch arian bob diwrnod cyflog i roi eich arian ‘pell o'r golwg, pell o'r meddwl’ ac osgoi’r demtasiwn i’w wario.
- Gwnewch newidiadau bach, fel hepgor un tecawê y mis a rhoi'r arian hwnnw yn eich cronfa Nadolig.
Cofiwch, nid yw cynilo byth yn berffaith. Mae'n ymwneud â chynnydd - nid perffeithrwydd. Os byddwch yn colli mis neu'n cynilo llai nag a bwriadwyd, peidiwch â phoeni, daliwch ati. Mae pob ceiniog rydych yn ei rhoi yn eich cynilion yn cyfrannu at y bunt nesaf a gynilir. Bod yn gyson yw'r hyn sy'n adeiladu gwydnwch ariannol go iawn yn y pen draw. Ceir rhagor o awgrymiadau ar sut i gynilo yn ein canllaw i gynilo.
Ble i gadw'ch cynilion Nadolig
Gall dewis y lle cywir i gadw'ch cynilion eich helpu i reoli a chael mynediad at eich arian yn hawdd. Hefyd, gall eich helpu i ganolbwyntio a'ch atal rhag defnyddio'ch cynilion cyn bod angen gwneud hynny.
Gall cael cyfrif cynilo sydd ar wahân i'ch prif gyfrif banc fod yn ffordd dda o'ch cadw ar y trywydd iawn.
Mae cyfrifon cynilo dim rhybudd yn ddelfrydol os ydych yn chwilio am hyblygrwydd, gan ganiatáu i chi godi arian o'ch cyfrif ar unrhyw adeg, heb unrhyw gosbau.
Os ydych yn chwilio am rywbeth mwy strwythuredig, efallai y bydd cyfrif cynilo rheolaidd yn fwy addas i chi. Mae'r cyfrifon hyn yn annog adneuon misol ac yn aml yn cynnig cyfraddau llog uwch, er y gallent gyfyngu ar faint o arian y gellir ei godi o'r cyfrif.
Dechreuwch gynilo nawr ar gyfer y Nadolig
Cymerwch reolaeth dros eich cyllid ar gyfer y Nadolig nawr gyda Chyfrif Cynilo Rheolaidd 6 Mis. Gall sefydlu cynllun cynilo Nadolig heddiw eich helpu i wasgaru'r gost a lleihau straen yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gallwch dalu hyd at £200 y mis dros 6 mis a chael cronfa yn barod i'w gwario pan ddaw'r gaeaf. Noder, ni allwch godi arian o'r cyfrif, ond gallwch gau'r cyfrif unrhyw bryd cyn iddo aeddfedu os oes angen.
Fel arall, porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo i weddu nodau gwahanol.
- Arian bob dydd
Cymharu’r holl gyfrifon cynilo
Eisiau gweld popeth? Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.