Egluro mythau cyffredin am ISAs
Yn y canllaw hwn
Nid oes angen i gyfrifon ISA deimlo'n gymhleth. Maent yn syml yn ffordd o amddiffyn mwy o'ch cynilion rhag treth.
Ond mae rhai mythau cyffredin yn dal i peri dryswch. Gall deall y rheolau a lwfansau ISA diweddaraf eich helpu i wneud dewisiadau gwybodus a hyderus ynglŷn â sut rydych yn cynilo.
Gadewch i ni ddadansoddi rhai o'r mythau mwyaf cyffredin am ISAs.
Myth: Dim ond un ISA allwch chi ei gael
Y gwir: Gallwch agor mwy nag un ISA.
Mae rhai darparwyr yn caniatáu ichi dalu i mewn i sawl ISA arian parod gyda nhw. Bydd eraill ond yn caniatáu ichi dalu i mewn i un. Mae'n werth cadarnhau hyn gyda'ch darparwr.
Efallai y byddwch yn gallu talu i mewn i fathau eraill o ISA hefyd, ar yr amod eich bod yn aros o fewn eich lwfans ISA blynyddol.
Yn Principality, dim ond un ISA arian parod y gallwch ei dalu bob blwyddyn dreth.
Myth: Dim ond gydag un darparwr y gallwch gynilo
Y gwir: Gallwch ddal ISAs gyda mwy nag un banc neu gymdeithas adeiladu.
Chi biau eich lwfans ISA, nid eich darparwr. Felly gallwch ddal ISAs gyda mwy nag un darparwr, ar yr amod eich bod cyfanswm eich cyfraniadau yn aros o fewn y lwfans blynyddol.
Myth: Rydych yn colli'ch lwfans os byddwch yn codi arian o'r cyfrif
Y gwir: Mae hyn yn dibynnu ar y math o ISA sydd gennych.
Mae rhai ISAs yn hyblyg, sy'n golygu y gallwch godi arian ac amnewid arian o fewn yr un flwyddyn dreth heb effeithio ar eich lwfans
Nid yw eraill yn cynnig y math hwn o hyblygrwydd. Mae'n bwysig cadarnhau rheolau eich ISA penodol.
Myth: Dim ond ar gyfer cynilwyr hirdymor y mae ISAs
Y gwir: Gall ISAs fod yn addas ar gyfer nodau cynilo tymor byr a thymor hir.
Yr ateb yw dewis y math cywir o ISA. Er enghraifft, os oes angen i chi godi rhywfaint o arian cyn diwedd eich cyfnod, dylech ddewis ISA sy'n caniatáu ichi godi arian o'r cyfrif.
Os ydych yn cynilo ar gyfer y dyfodol ac yn hyderus nad oes angen i chi gael mynediad at eich cynilion am gyfnod penodol, gallech ddewis cloi eich arian i ffwrdd am gyfnod hirach.
Myth: Nid yw ISAs yn werth chweil os yw cyfraddau llog yn isel
Y gwir: Mae'n dibynnu ar eich nodau.
Hyd yn oed pan fydd cyfraddau llog yn is, mae budd di-dreth ISA yn dal i fod yn berthnasol.
Dros amser, yn enwedig ar gyfer balansau mwy, gall ennill llog yn ddi-dreth wneud gwahaniaeth ystyrlon.
Myth: Mae angen i chi ddefnyddio'ch lwfans mewn un tro
Gallwch ychwanegu arian yn raddol drwy gydol y flwyddyn dreth; ar yr amod:
• Eich bod yn aros o fewn y lwfans
• Bod eich ISA yn caniatáu ichi wneud taliadau rheolaidd.
- ISAs
Porwch ein dewis o gyfrifon ISA arian parod
Edrychwch ar ein dewis o gyfrifon ISA Arian Parod i ddod o hyd i un sy'n cyd-fynd â'ch nodau cynilo.