Newidiadau i gyfrifon ISA: yr hyn y dylai cynilwyr ei wybod
Yn y canllaw hwn
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi newidiadau i'r lwfansau ar gyfer cyfrifon ISA arian parod i unrhyw un o dan 65 oed.
Os ydych chi o dan 65 oed, mae'r newidiadau'n effeithio ar faint y gallwch ei dalu i mewn i gyfrifon ISA arian parod o 6 Ebrill 2027 ymlaen.
Mae llawer o brif fanteision cyfrifon ISA arian parod yn aros yr un fath.
Ond gallai'r newidiadau effeithio ar faint y gallwch ei dalu i mewn i'ch ISA arian parod bob blwyddyn.
Felly, gadewch i ni roi gwybod i chi am y newidiadau.
Pa reolau ISA sy'n newid?
Os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn, nid yw'r newidiadau i'r rheolau yn berthnasol i chi. Mae gennych lwfans ISA llawn o £20,000 y gallwch ei rannu fel y mynnwch ar draws gwahanol gyfrifon ISA.
Ond os ydych o dan 65 oed, bydd yr uchafswm y gallwch ei gyfrannu at ISA arian parod yn lleihau o 6 Ebrill 2027.
O'r blaen, gallech roi'r holl £20,000 mewn ISA arian parod pe baech yn dymuno gwneud hynny. Ond o 6 Ebrill 2027 ymlaen, dim ond hyd at £12,000 y gallwch ei roi mewn ISA arian parod bob blwyddyn dreth. Byddai'n rhaid i chi gynilo'r £8,000 sy'n weddill o'ch lwfans cyffredinol mewn math gwahanol o ISA.
Bydd unrhyw arian rydych chi eisoes wedi'i gynilo mewn ISA arian parod yn parhau i ennill llog di-dreth. Dim ond cyfraniadau ISA arian parod yn y dyfodol, o flwyddyn dreth 2027/2028 ymlaen, y mae'r newidiadau'n effeithio arnynt.
| Tan 6 Ebrill 2027 | O 6 Ebrill 2027 |
|---|---|
|
Pobl o dan 65 oed: Hyd at £20,000 ar draws eich holl cyfrifon ISA. Gallwch roi'r £20,000 llawn mewn ISA arian parod os hoffech wneud hynny. |
Pobl o dan 65 oed: Hyd at £20,000 ar draws eich holl gyfrifon ISA. Ond dim ond hyd at £12,000 o hyn y gellir ei roi mewn cyfrifon ISA arian parod bob blwyddyn dreth. |
|
Pobl 65 oed a throsodd: Hyd at £20,000 ar draws eich holl gyfrifon ISA. Gallwch roi'r £20,000 llawn mewn cyfrifon ISA arian parod os hoffech wneud hynny. |
Pobl 65 oed a throsodd: Hyd at £20,000 ar draws eich holl gyfrifon ISA. Gallwch roi'r holl £20,000 mewn cyfrifon ISA arian parod os hoffech wneud hynny. |
A fydd hyn yn effeithio ar fy nghyfrif ISA arian parod presennol?
Ni fydd hyn yn effeithio ar yr arian sydd gennych eisoes mewn unrhyw ISA arian parod. Bydd yn parhau i ennill llog di-dreth. Dim ond i gyfraniadau ISA arian parod yn y dyfodol, o flwyddyn dreth 2027/2028 ymlaen, y mae'r newidiadau'n berthnasol.
Trosglwyddiadau cyfrifon ISA Stociau a Chyfranddaliadau
O 6 Ebrill 2027, os ydych chi o dan 65 oed, ni fyddwch yn gallu trosglwyddo ISA Stociau a Chyfranddaliadau i ISA Arian Parod tan y flwyddyn dreth y byddwch yn cyrraedd 65 oed.
Gall unrhyw un sy'n 65 oed neu'n hŷn yn y flwyddyn dreth honno barhau i drosglwyddo ISA Stociau a Chyfranddaliadau i ISA Arian Parod. Bydd gan ddarparwyr gwahanol a chyfrifon gwahanol delerau ac amodau gwahanol, felly cadarnhewch reolau eich ISA penodol bob amser.
Beth mae hyn yn ei olygu i'ch cynilion?
Os ydych o dan 65 oed:
Eich lwfans ISA blynyddol cyffredinol yw £20,000 o hyd fesul blwyddyn dreth.
Bydd yr uchafswm y gallwch ei roi mewn cyfrifon ISA arian parod yn gostwng i £12,000 y flwyddyn dreth.
Felly blwyddyn dreth 2026/2027 fydd eich cyfle olaf o ddefnyddio'ch £20,000 llawn mewn ISA arian parod.
Bydd hyn yn wir tan y flwyddyn dreth y byddwch yn cyrraedd 65 oed.Dyna pryd y gallech roi'r £20,000 llawn i mewn i gyfrifon ISA arian parod os hoffech wneud hynny.
Os ydych dros 65 oed:
Mae eich lwfans ISA blynyddol cyffredinol yn aros ar £20,000.
Gallwch ddefnyddio eich lwfans llawn mewn cyfrifon ISA arian parod os hoffech wneud hynny.
Pethau i'w hystyried cyn 6 Ebrill 2027
Mae sefyllfa ariannol pawb yn wahanol, ond efallai yr hoffech wneud y canlynol:
Adolygu eich cynilion presennol.
Cadarnhau faint o'ch terfyn cyfrannu ISA arian parod rydych chi eisoes wedi'i ddefnyddio.
Ystyried a ydych am ychwanegu unrhyw gynilion at gyfrifon ISA sydd gennych eleni (os yw telerau eich ISA yn caniatáu hynny).
Adolygu'r math o gyfrif ISA sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
P'un a ydych chi'n cynilo ar gyfer yfory neu'n cynllunio ymhellach i'r dyfodol, gallai ein hystod o gyfrifon ISA arian parod helpu i wneud y defnydd gorau o'ch cynilion di-dreth.
- ISAs