Debra Williams
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Medi 2019
Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Rwy'n Aelod o Bwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Mae fy mhrofiad ym meysydd Fintech ac E-fasnach yn fy ngalluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at drawsnewid digidol parhaus y Gymdeithas, gan gefnogi'r broses barhaus o ddarparu profiad rhagorol i'n Haelodau.
Yn ystod fy ngyrfa, rydw i wedi bod ag amrywiaeth o swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol ac wedi gweithio mewn rolau ymgynghori yn y DU, Ewrop a'r Unol Daleithiau. Treuliais 5 mlynedd yng Nghymdeithas Adeiladu Britannia, a bu gennyf rolau uwch yn NCR, Tesco Compare a Confused.com.
Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Co-Op Insurance. Rwy'n Gadeirydd GCRE Ltd, ac yn Gyfarwyddwr Awen Consulting Services Ltd. Rwyf hefyd yn llysgennad balch i hosbis Tŷ Hafan. Rwy'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.