Karen Maguire LL. B, ACA
Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Medi 2024
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.
Rwy'n Aelod o Bwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Rwy'n gyfrifydd cymwys (ACA) gyda gradd yn y Gyfraith. Hyfforddais a chymhwysais gyda KPMG yn ne Cymru, gan ennill profiad ar draws archwilio, rheoli risg, archwilio mewnol a llywodraethu, ac ar draws ystod eang o ddiwydiannau gan gynnwys gwasanaethau ariannol. Mae fy rolau gweithredol wedi cynnwys Pennaeth Risg a Phennaeth Cysylltiadau Buddsoddwyr yn Admiral Group Plc a Phrif Swyddog Ariannol ar gyfer Confused.com, Penguin Portals a ZPG Group.
Mae fy ngyrfa mewn gwasanaethau proffesiynol yn rhoi profiad eang i mi mewn perfformiad ariannol, rheoleiddio, llywodraethu, risg a chydymffiaeth, tra bod fy mhrofiad yn y sector gwasanaethau ariannol yn golygu fy mod yn canolbwyntio ar ganlyniadau cwsmeriaid a thrawsnewid digidol.