Skip to content

Oes angen arolwg tŷ arnaf wrth brynu cartref?

A woman is holding a laser measure in one hand and a notepad in the other.

Yn y canllaw hwn

A oes angen arolwg arnaf? 

Nid oes rhaid cynnal arolwg, ond gall helpu rhoi tawelwch meddwl i chi o ran eich buddsoddiad.

Mae arolygon yn amrywio o ran cwmpas a chost. Bydd faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint, lleoliad, a gwerth eich cartref. Bydd angen i chi bwyso a mesur eich opsiynau i gyd i benderfynu beth sydd orau i chi.

Beth yw arolwg?

Arolwg yw adroddiad a all rhoi gwybodaeth ychwanegol i chi am y cartref yr hoffech ei brynu. Mae syrfëwr proffesiynol yn gwneud hyn.

Gall dynnu sylw at unrhyw broblemau cudd cyn i chi ymrwymo'n llawn. Os bydd yr arolwg yn dod o hyd i unrhyw broblem a fydd yn ddrud i'w datrys, gallwch wneud y canlynol:

  • Aildrafod eich cynnig. 
  • Troi'ch cefn ar y pryniant (ond byddwch yn ymwybodol o unrhyw gostau rydych eisoes wedi ymrwymo iddynt).

Arolwg a phrisiad: beth yw'r gwahaniaeth? 

Bydd eich benthyciwr yn gwneud prisiad. Mae'n gwneud hyn i sicrhau bod yr eiddo yn werth yr hyn rydych wedi'i gynnig. Gwneir hyn i amddiffyn y benthyciwr - nid chi.

Mae arolwg er eich budd chi. Mae'n asesiad annibynnol gyda'r nod o roi gwybodaeth i chi am gyflwr yr eiddo. Gall roi tawelwch meddwl i chi am yr eiddo, neu helpu i nodi unrhyw broblemau. 

Y gwahanol fathau o arolygon

Ceir tri phrif fath o arolwg:  

  1. Adroddiad ar gyfer pobl sy'n prynu tai

    Mae'r rhain fel arfer yn addas ar gyfer eiddo o dan 50 oed. Bydd rhai benthycwyr yn rhoi opsiwn i chi gael adroddiad ar gyfer pobl sy'n prynu tai ar yr un pryd â'r prisiad sylfaenol.

  2. Arolwg strwythurol llawn

    Mae'r rhain fel arfer yn fwy perthnasol i eiddo hŷn. Mae arolygon strwythurol llawn yn fanylach ac yn dueddol o fod yn ddrytach, ond byddant yn rhoi gwybodaeth fanwl iawn i chi am yr eiddo.

  3. Arolwg mân broblemau

    Mae arolwg mân broblemau yn nodi diffygion ac unrhyw waith anorffenedig. Mae un o'r rhain fel arfer yn ddigon am gartref ifanc neu newydd sbon. Gallwch negodi gyda'r datblygwyr i ddatrys mân broblemau cyn i chi symud i mewn.

 

An illustrated floating speech bubble. (Welsh)

Amser i drafod morgeisi?

Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi 0330 333 4002

dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp.