Skip to content

Egluro morgeisi a blaendaliadau

Two women sit at a dining table. One is making lunch and another holds a touchpad.

Yn y canllaw hwn

Beth yw morgais? 

Os ydych yn prynu eich cartref cyntaf, mae'n bwysig deall beth yw morgais a sut mae'n gweithio. Mae morgais yn ymrwymiad ariannol mawr – un sy'n para degawdau fel arfer – felly mae'n rhaid i chi fod yn hyderus y gallwch fforddio'r ad-daliadau nawr ac yn y dyfodol.

 

Yn syml, benthyciad rydych yn ei ddefnyddio i brynu cartref yw morgais. Fodd bynnag, mae dau beth sy'n gwahaniaethu rhwng morgais a mathau o fenthyciadau eraill. 

  1. Mae'r benthyciad ynghlwm wrth eich cartref

    Morgais yw'r hyn a elwir yn fenthyciad 'diogel'. Yn gyfnewid am roi swm mawr o arian i chi, mae'r benthyciwr yn defnyddio'r eiddo rydych yn ei brynu fel gwarant. Os na allwch wneud ad-daliadau, gall eich benthyciwr adfeddu eich cartref a'i werthu i adennill yr arian sy'n ddyledus gennych.

  2. Mae'r benthyciad yn cymryd amser hir i'w ad-dalu

    Caiff morgeisi eu had-dalu (gyda llog) dros gyfnod hir – a elwir yn 'gyfnod' eich morgais. Mae cyfnodau morgais fel arfer tua 25 - 30 mlynedd, felly hyd yn oed os yw cyfradd llog eich morgais yn isel, gall cyfanswm faint rydych yn ei ad-dalu dros amser fod yn sylweddol.

Beth yw blaendal? 

Mae blaendal yn gyfandaliad rydych yn ei dalu ymlaen llaw tuag at gost eich cartref newydd. Bydd eich morgais yn talu am y gweddill. Fel arfer, bydd benthycwyr yn gofyn am flaendal am ddau reswm:

  1. Fel prawf o'ch disgyblaeth ariannol a'ch ymrwymiad i'r pryniant
  2. Er mwyn lleihau'r risg maent yn ei chymryd wrth fenthyca morgais i chi

Pam mae angen blaendal arnoch?  

Morgais yw benthyciad diogel; mae'r swm rydych yn ei fenthyg wedi'i 'ddiogelu' yn erbyn yr eiddo rydych yn ei brynu. Mae hyn yn golygu, os nad ydych yn ad-dalu'r morgais, bydd yr eiddo yn mynd i'r benthyciwr er mwyn iddo adennill costau'r benthyciad rydych wedi'i fenthyg oddi wrtho.

Pan fydd banc neu gymdeithas adeiladu yn benthyca morgais i rywun, yn ei hanfod, maent yn cymryd risg na fydd prisiau tai yn gostwng.
 

Pam mae benthycwyr yn gofyn am flaendal?  

Dychmygwch eich bod yn prynu tŷ am £200,000 heb flaendal. 

Pe bai prisiau tai yn gostwng yn sylweddol a'ch bod ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, gallai'r benthyciwr adfeddu'ch cartref - nd efallai ei fod yn werth llai na'r swm o arian a fenthyciwyd gennych bryd hynny. Mae hynny'n golygu y byddai'r benthyciwr yn colli arian.

Dyna pam mae benthycwyr yn gofyn am flaendal; er mwyn helpu i leihau'r risg hon.

Faint ddylech chi ei gynilo ar gyfer blaendal? 

Os byddwch yn talu blaendal o 10%, byddai angen i brisiau tai ostwng 10% cyn na fyddai'ch benthyciwr yn gallu talu swm llawn y benthyciad (os nad oeddech yn gallu ei ad-dalu). 
  
Felly po fwyaf yw eich blaendal, y lleiaf yw'r risg i'ch benthycwyr, a gwell yw'r siawns eich bod chi'n cael cytundeb morgais da.

Mae maint eich blaendal yn bwysig oherwydd gall effeithio ar ba mor debygol ydych o gael cytundeb morgais da pan fyddwch yn barod i wneud cais.