Skip to content

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ein Haelodau

Rydym yn gwneud ambell i newid


Rydym wedi ymrwymo i wella'n barhaus y gwasanaeth a ddarparwn i'n Haelodau a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau pwysig a wnawn.
Yn rhan o hyn, byddwn yn gwneud newidiadau i’n Telerau ac Amodau Cynilo o 9 Ebrill 2025, ac rydym wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a fydd yn fyw o 10 Mawrth 2025.


Ceir gwybodaeth bwysig am y diweddariadau hyn isod.

Telerau ac Amodau Cynilo

Ar gyfer ein Haelodau cynilo, byddwn yn gwneud newidiadau i'n Telerau ac Amodau o 9 Ebrill 2025. Dysgwch beth sy'n newid a pham.

Beth sy'n newid: 

Erbyn hyn, mae gan aelodau yr hawl i ofyn am ad-daliad os ydynt wedi dioddef twyll APP.
Byddwn yn ychwanegu gwybodaeth ar gyfer y rhai sy'n credu eu bod wedi dioddef twyll drwy gychwyn taliad electronig o'u cyfrif cynilo a manylion ar sut i hawlio ad-daliad.

Dysgwch fwy am Ad-daliau twyll APP


Rheswm dros y newid: 

Gofyniad gan ein rheolydd a ddaeth i rym ar 7 Hydref 2024.

Beth sy'n newid:

Rydym nawr yn defnyddio gwasanaeth Cadarnhau Talai (CoP), sy'n helpu i sicrhau bod taliad yn cyrraedd y person cywir a bod enw a rhif y cyfrif rydych chi wedi'u nodi yn cyfateb.


Rheswm dros y newid: 

I adlewyrchu ein harfer presennol.


Beth sy'n newid: 

O 9 Ebrill 2025, ni fydd llofnodwyr yn cael gweithredu cyfrifon ar gyfer deiliaid cyfrifon llofnodwyr 18 oed neu hŷn mwyach.
Byddwn yn dechrau cysylltu â deiliaid cyfrifon llofnodwyr o'r dyddiad hwnnw a bydd angen i'r llofnodwr gymryd camau i newid y ffordd y caiff y cyfrif ei reoli.


Rheswm dros y newid: 

I adlewyrchu arfer a ddaw i rym o 9 Ebrill 2025.

Beth sy'n newid: 

Rydym wedi cynyddu'r uchafswm terfyn codi arian ar gyfer taliadau electronig o gyfrifon ar-lein yn unig. Gallwch nawr godi hyd at £20,000 fesul trafodiad, gyda therfyn dyddiol o £100,000.


Rheswm dros y newid: 

I adlewyrchu ein harfer presennol.

Beth sy'n newid: 

Rydym wedi diweddaru ein cyfarwyddiadau talu siec i mewn i'r banc i amlygu y dylai sieciau fod yn daladwy i chi, ac os ydych yn postio siec, dylech sicrhau bod rhif eich cyfrif wedi'i ysgrifennu ar y cefn.


Rheswm dros y newid:
I adlewyrchu ein arfer presennol.

Adolygu ein Telerau ac Amodau Cynilo


Cadw pethau'n glir a syml


Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Telerau ac Amodau Cynilo wedi cadw'r marc grisial ar gyfer Saesneg Clir. Mae hyn yn sicrhau nad ydynt yn cynnwys jargon a'u bod yn hawdd eu deall.

Polisi Preifatrwydd


Ar gyfer ein Haelodau cynilo a morgais, rydym wedi gwneud rhai diweddariadau i’n Polisi Preifatrwydd, a fydd yn fyw o 10 Mawrth 2025.


Mae'r diweddariadau hyn yn cynnwys:

  • Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer marchnata uniongyrchol ac ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Gwybodaeth y gallwn ei darparu i asiantaethau cyfeirio credyd, a'i chael ganddynt, i wella cynhyrchion a gwasanaethau ar gyfer Aelodau
  • Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Adolygu ein Polisi Preifatrwydd presennol

An illustrated floating speech bubble. (Welsh)

Eisiau gwybod mwy?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y diweddariadau hyn, cysylltwch â ni.