Cryfhau ein bwrdd gyda'n Cyfarwyddwr Anweithredol newydd
Yn yr erthygl hon
Ynglŷn â Garry Stran, ein Cyfarwyddwr Anweithredol newydd
Ar ôl treulio rhan sylweddol o’i yrfa yn y sector cydfuddiannol, mae gan Garry dros 25 mlynedd o brofiad gweithredol ar draws y sector gwasanaethau ariannol, gyda ffocws ar reoli risg credyd a thrawsnewid gweithredol a diwylliannol. Mae wedi bod â swyddi lefel uwch ac anweithredol mewn sefydliadau nodedig gan gynnwys Nationwide, PCF Bank, WH Ireland a Computershare Loan Services.
Mae gan Garry hanes amlwg o lwyddiant masnachol ac mae'n cefnogi sefydliadau i gyflawni newid trawsnewidiol strategol, gyda ffocws ar dechnoleg a gwerth cwsmeriaid.
Yn ogystal â’i brofiad helaeth o lunio strategaeth, ysgogi digideiddio a moderneiddio diwylliant, mae Garry wedi bod â rolau llywodraethu sylweddol fel Aelod a Chadeirydd Pwyllgorau Archwilio, Rheoli Risg, Credyd a Chydnabyddiaeth ar draws sefydliadau rhestredig a sefydliadau preifat.
Gair gan ein Cadeirydd
Dywedodd Simon Moore, Cadeirydd, “Rydym yn falch iawn o groesawu Garry i’r Bwrdd. Ac yntau’n arweinydd amlwg ar Lefel Weithredol ac Anweithredol, mae ganddo gyfoeth o brofiad yn y diwydiant gwasanaethau ariannol. Mae penodiad Garry yn adlewyrchu ein hymrwymiad i hyrwyddo blaenoriaethau strategol uchelgeisiol y Gymdeithas er budd ein haelodau a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Neges gan Garry
Dywedodd Garry Stran, “Rwy’n falch o ymuno â Principality fel rhan o’i Bwrdd. Ar ôl treulio blynyddoedd ffurfiannol fy ngyrfa yn y sector cydfuddiannol, mae gennyf werthfawrogiad dwfn o’r ethos a’r enw da sydd gan Principality yng Nghymru, a’r modd y mae hyn wedi’i integreiddio â’i threftadaeth gyfoethog. Mae fy ngwerthoedd personol a masnachol yn cyd-fynd yn agos â rhai’r Gymdeithas, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at lwyddiant parhaus y sefydliad er mwyn dod â buddion i’w Haelodau.”
- Newyddion y gymdeithas