Beth yw ISA? Y rheolau a sut i ddefnyddio eich lwfans.
Yn y canllaw hwn
Mae Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn fath o gyfrif cynilo sy'n eich galluogi i ennill llog yn ddi-dreth.
Mae hyn yn golygu eich bod yn cael cadw'r holl log rydych yn ei ennill, yn wahanol i rai cyfrifon cynilo eraill lle gallai treth fod yn berthnasol.
Mae ISAs yn dod gyda rhai manteision treth gwerthfawr a gallent eich helpu i dyfu eich cynilion dros amser.
Gall deall y rheolau, y terfynau, a sut mae ISAs yn gweithio eich helpu i wneud penderfyniadau da ynghylch sut i gynilo.
Sut mae ISA yn gweithio?
Bob blwyddyn dreth, (o 6 Ebrill - 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol), mae'r llywodraeth yn pennu lwfans ISA di-dreth.
Dyma'r uchafswm y gallwch ei gynilo yn ddi-dreth mewn ISA bob blwyddyn.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2026/2027, y lfans yw £20,000. Mae hyn yn golygu y gallwch gynilo hyd at gyfanswm o £20,000 heb dalu treth ar y log rydych yn ei ennill.
Mae'r llywodraeth yn gwneud rhai newidiadau i ISAs yn y flwyddyn dreth 2027/2028. I ddysgu mwy, darllenwch ein canllaw ar newidiadau i reolau ISAs arian parod.
Yn dibynnu ar y math o ISA rydych chi'n ei ddewis, gallwch ddewis adneuo cyfandaliad, neu gynilo symiau llai drwy gydol y flwyddyn.
Beth yw manteision ISA?
Cynilion di-dreth: Cadwch 100% o’r llog a enillwch, heb dalu treth.
Opsiynau hyblyg: Dewiswch gyfraddau sefydlog neu amrywiol, gydag opsiynau tynnu'n ôl i ddiwallu'ch anghenion.
Trosgwlyddadwy: Gallwch symud eich cynilion rhwng darparwyr (er y gall rhai cyfyngiadau fod yn berthnasol)
Nifer y cyfrifon ISA: Gallwch agor mwy nag un ISA, ar yr amod bod cyfanswm eich cyfraniadau o fewn eich lwfans blynyddol
Mae rhai darparwyr yn gadael i chi dalu arian i fwy nag un ISA arian parod bob blwyddyn; er y gallwch ond dalu arian i un ISA arian parod bob blwyddyn dreth gyda Principality.
Pa fathau o ISAs sydd ar gael?
Mae pedwar prif fath o ISA:
ISA Arian Parod: Cyfrif cynilo di-dreth. Dyma beth rydym yn ei gynnig yn Principality.
ISA Stociau a Chyfranddaliadau: Caiff eich arian ei fuddsoddi mewn asedau a chyfranddaliadau. Mae eich adenillion yn dibynnu ar berfformiad y darchnad.
ISA Gydol Oes: Wedi'i gynllunio i'ch helpu i gynilo ar gyfer eich cartref cyntaf neu ymddeoliad.
ISA Cyllid Arloesol: Buddsodi mewn benthyca rhwng cymheiriaid, sydd â risg uwch.
Dewis rhwng ISAs arian parod cyfradd sefydlog a chyfradd amrywiadwy
Yn Principality, rydym yn cynnig ISAs arian parod, ac mae dau fath.
Mae dewis yr opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar bethau fel pa mor hir rydych chi'n cynilo a faint o fynediad sydd ei angen arnoch at eich arian.
ISAs arian parod cyfradd sefydlog:
|
ISAs arian parod cyfradd sefydlog |
Yn ddefnyddiol os ydych... |
|---|---|
|
Ennill cyfradd llog sefydlog am amser penodol. |
Eisiau sicrwydd ynghylch y llog y byddwch chi'n ei ennill |
|
Ni chaniateir codi arian yn ôl yn ystod y cyfnod. |
Yn cynilo arian na fyddwch angen mynediad iddo am gyfnod. |
|
Gall cau'r cyfrif neu drosglwyddo arian yn gynnar arwain at golli llog. |
Yn teimlo'ngyfforddus yn cloi eich arian i ffwrdd yn gyfnewid am y gyfradd sefydlog. |
Gall ISAs arian parod cyfradd sefydlog weithio'n dda ar gyfer eich nodau tymor canolig, lle mae sicrwydd ynghylch eich cyfradd llog yn bwysig i chi.
ISAs arian parod cyfradd amrywiadwy:
|
ISAs arian parod cyfradd amrywiadwy |
Yn ddefnyddiol os ydych... |
|---|---|
|
Gall eich cyfradd llog gofi neu ostwng. |
Yn teimlo'n gyfforddus gyda'ch cyfradd llog yn newid dros amser. |
|
Fel arfer gallwch gael mynediad at eich arian yn haws. |
Eisiau mynediad at eich cynilion. |
|
Mae rhai ISAs amrywiol yn caniatáu ichi gofi arian ac amnewid arian yn yr un flwyddyn dreth heb effeithio ar eich lwfans ISA. |
Yn ffafrio'r opsiwn o ychwanegu, codi neu symud arian wrth i'ch cynlluniau newid. |
Efallai y byddwch yn dewis ISA arian parod cyfradd amrywiol os ydych yn cynilo ar gyfer rhywbeth heb amserlen benodol; fel adeiladu cronfa argyfwng.
Egluro rheolau a lwfans ISAs
Gall deall y rheolau sy'n ymwneud ag ISAs eich helpu i wneud y gorau o'ch cynilion di-dreth.
Beth yw lwfans ISA?
Bob blwyddyn mae'r llywodraeth yn gosod uchafswm y gallwch ei gynilo mewn ISAs.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2026/2027, y lwfans ar gyfer ISAs yw £20,000. O flwyddyn dreth 2027/2028, bydd y lwfans ISAs cyffredinol yn aros ar £20,000, ond os ydych o dan 65 oed, yr uchafswm y gallwch ei adneuo i ISA Arian Parod yw [Macros/newisaallowance].
Mae'r lwfans hwn yn berthnasol i'r holl gyfrifon ISA gyda'i gilydd, nid fesul cyfrif.
Mae eich lwfans yn cael ei ailosod bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill)
Mae hyn yn golygu y gallwch ledaenu eich £20,000 ar draws gwahanol ISAs bob blwyddyn dreth; ar yr amod nad ydych chi'n mynd dros y cyfanswm lwfans.
Faint o ISAs allwch chi eu hagor?
Gallwch agor mwy nag un math o ISA. Er enghraifft, gallech fod ag ISA Arian Parod, ISA Gydol Oes, ac ISA Stociau a Chyfranddaliadau.
Gallwch hefyd gael nifer o ISAs o'r un math (er enghraifft, dau ISA arian parod ar wahân).
Yr eithriad yw ISAs Gydol Oes, gan mai dim ond i un ISA Gydol Oes y gallwch dalu arian mewn unrhyw flwyddyn dreth.
Gall y rheolau ynghylch talu arian i bob math o ISA amrywio, felly mae bob amser yn werth cadarnhau.
Pa bynnag ISAs rydych chi'n talu iddynt, ni all cyfanswm eich cyfraniadau ar draws pob un ohonynt fod yn fwy na'r lwfans ISA blynyddol o £20,000.
Faint o ISAs allwch chi dalu arian i mewn iddynt bob blwyddyn dreth?
Gallwch dalu i mewn i fwy nag un ISA arian parod mewn blwyddyn dreth, ar yr amod bod cyfanswm eich cyfraniadau ar draws eich holl gyfrifon ISA yn aros o fewn y lwfans blynyddol.
Fodd bynnag, dim ond i un ISA Arian Parod Principality y gallwch dalu mewn unrhyw flwyddyn dreth.
A allwch ddefnyddio mwy nag un darparwr?
Mae eich lwfans ISA yn perthyn i chi; nid i unrhyw fanc na chymdeithas adeiladu.
Mae hyn yn golygu y gallwch rannu eich lwfans ISA blynyddol rhwng gwahanol fathau o gyfrifon ISA, hyd yn oed os ydynt gyda darparwyr gwahanol.
Beth sy'n digwydd os byddwch chi'n mynd dros eich lwfans blynyddol?
Os byddwch yn mynd y tu hwnt i'ch lwfans blynyddol, ni fydd y swm dros ben yn ennill llog di-dreth, ac efallai y bydd HMRC yn cysylltu â chi i unioni'r sefyllfa.
Dylech gadw golwg ar faint rydych chi wedi'i dalu i mewn i'ch ISAs. Yn enwedig os ydych chi'n defnyddio mwy nag un darparwr.
Cael gafael ar eich arian
Cyn i chi ddewis ISA, dylech chi feddwl am ba mor aml yr hoffech chi gael mynediad at eich cynilion.
Bydd gan wahanol ISAs reolau gwahanol o ran codi arian. Gyda rhai cyfrifon, gallai codi arian yn gynnar olygu colli rhywfaint o log.
Yn Principality, mae ein hamrywiaeth o ISAs arian parod yn cynnig gwahanol opsiynau. Gall rhai o'n ISAs ganiatáu codi arian yn ddiderfyn tra bod gan eraill derfynau.
Dylech bob amser gadarnhau'r telerau codi arian cyn ymrwymo.
A yw ISA yn briodol i chi?
Gallai ISA fod yn addas i chi os ydych:
-
Yn chwilio am ffordd o gynilo sy'n effeithlon o ran treth.
-
Eisiau ennill llog di-dreth heb boeni am dalu treth.
-
Yn ffafrio opsiwn cynilo tymor canolig neu hirdymor.
Archwiliwch opsiynau eraill:
-
Os bydd angen mynediad mynych arnoch i'ch cynilion.
-
Os ydych yn blaenoriaethu gwariant tymor byr ar hyn o bryd.
-
Os ydych eisoes wedi defnyddio'ch lwfans ISA ar 2026/2027 flwyddyn dreth hon.
Gall deall sut mae ISAs yn gweithio eich helpu i wneud dewis hyderus ynghylch sut i gynilo ar gyfer eich dyfodol.
- ISAs
Edrychwch ar ein cyfrifon ISA arian parod
Barod i ddechrau cynilo? Poriwch ein holl gyfrifon ISA arian parod nawr.