Skip to content

Trosglwyddo ISA Arian Parod: beth ydyw a sut mae'n gweithio?

Smiling mature woman wearing a pashmina leaning on a railing and looking out at the ocean at sunset

Yn y canllaw hwn

Beth yw trosglwyddiad ISA?

Trosglwyddiad ISA yw pan fyddwch yn symud eich arian o un ISA i un arall. Naill ai i ddarparwr gwahanol neu i ISA gwahanol gyda'r un darparwr.

Os byddwch yn codi'r arian ac yn ei dalu i mewn i ISA newydd eich hun, rydych mewn perygl o golli eich buddion di-dreth*.

Dilynwch broses trosglwyddo ISA swyddogol bob amser i symud eich arian heb golli ei statws di-dreth.

*Mae di-dreth yn golygu nad yw'r llog rydych yn ei ennill yn destun Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae'r ffordd yr ymdrinnir â threth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.

Pam trosglwyddo ISA?

Efallai y byddwch yn dewis trosglwyddo ISA i symud i gyfradd llog well.

Efallai eich bod am symud eich arian i fath gwahanol o ISA.

Neu efallai eich bod am ddod â sawl ISA at ei gilydd a'u gwneud yn haws i'w rheoli.

Mae trosglwyddiad ISA yn caniatáu ichi wneud hyn wrth gadw eich cynilion yn ddi-dreth.

Pa fathau o ISA allwch chi ei trosglwyddo? 

Fel arfer, gallwch drosglwyddo:

  • ISA arian parod i ISA arian parod arall
  • ISA arian parod i ISA stoc a chyfranddaliadau
  • ISA stoc a chyfranddaliadau i ISA arian parod.

Mae'r union opsiynau'n dibynnu ar y darparwr a'r math o ISA sydd gennych.

Cyn i chi ddechrau, cadarnhewch:

  1. A yw'ch ISA presenol yn codi ffi arnoch i drosglwyddo allan.
  2. A fyddech yn colli llog am gau'r cyfrif yn gynnary.
  3. A yw'r ISA rydych yn trosglwyddo iddo yn derbyn trosglwyddiadau.

Sut i drosglwyddo ISA

I drosglwyddo ISA o un darparwr i un arall, dylech bob amser gysylltu â'ch darparwr newydd. Dylai fod ganddo broses swyddogol i drosglwyddo'r arian ar eich rhan.

Mae dilyn y camau hyn yn helpu i sicrhau bod eich cynilion yn cadw eu statws di-dreth:

  1. Dewis y cyfrif ISA rydych chi am drosglwyddo iddo.

  2. Cadarnhewch fod eich darparwr newydd yn caniatáu i chi drosglwyddo arian i mewn oddi wrth ddarparwr arall.

  3. Dilynwch broses trosglwyddo ISA eich darparwr newydd.

  4. Gadael i'r darparwyr drin y trosglwyddiad ar eich rhan.

Gwneud trosglwyddiad ISA gyda Principality

Eisiau trosglwyddo ISA gyda Principality? Ewch i'n tudalen trosglwyddiadau ISA am fanylion llawn a Chwestiynau Cyffredin. 

Pethau pwysig i'w cofio

Defnyddiwch broses trosglwyddo ISA eich darparwr bob amser. Peidiwch â chodi'r arian eich hun.

Cadarnhewch reolau eich darparwr cyn gwneud trosglwyddiad. Gallech golli allan ar log neu orfod talu ffi wrth drosglwyddo ISA.

Sicrhewch eich bod yn deall a oes angen i chi drosglwyddo'r balans llawn, neu a yw eich darparwr yn caniatáu trosglwyddiadau rhannol. Ni allwch wneud trosglwyddiad rhannol rhwng ISAs Principality; rhaid i chi drosglwyddo'r holl arian o un ISA i un arall.

An illustrated arrow, facing right and within a circle. (Welsh)

Gweld yr holl gyfrifon cynilo

Barod i ddechrau cynilo? Cymharwch ein dewis o gyfrifon cynilo a dechrau'r broses o wneud cais.