Egluro'ch lwfans ISA
Yn y canllaw hwn
Mae ISAs yn un o'r ffyrdd mwyaf poblogaidd o gynilo, gan fod unrhyw log rydych yn ei ennill yn ddi-dreth.
Mae llawer o bobl yn defnyddio ISAs mewn ffyrdd gwahanol:
• Cynilo tuag at nod yn y dyfodol.
• Adeiladu cronfa frys.
• Neilltuo arian ar gyfer ymddeol.
• Gwneud defnydd o gynilo di-dreth.
Gall deall sut mae eich lwfans ISA yn gweithio eich helpu i wneud y defnydd gorau o'ch opsiynau.
Gall gwybod faint y gallwch ei gynilo yn ddi-dreth bob blwyddyn dreth eich helpu i gynllunio ymlaen llaw.
Beth yw eich lwfans ISA?
Eich lwfans ISA yw'r swm mwyaf y gallwch ei dalu i unrhyw gyfrifon ISA yn ystod blwyddyn dreth unigol.
Mae'r lwfans yn cael ei bennu gan y llywodraeth ac yn berthnasol i'ch holl gyfrifon ISA gyda'i gilydd.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2026/2027, y lwfans ISA yw £20,000.
Mae hyn yn golygu y gallwch dalu hyd at £20,000 i gyfrifon ISAs yn ystod y flwyddyn dreth. Fodd bynnag, o 6 Ebrill 2027 ymlaen, mae'r rheolau'n newid fel na all neb o dan 65 oed dalu mwy na £12,000 o'u cyfanswm lwfans ISA i mewn i ISAs arian parod.
Mae unrhyw log rydych yn ei ennill ar arian mewn ISA arian parod yn rhydd rhag treth incwm y DU.
Mae faint o log y byddwch yn ei ennill yn dibynnu ar gyfradd llog eich cyfrif, faint rydych chi'n ei gynilo, a pha mor hir y mae eich arian yn aros yn y cyfrif.
Oes angen i chi ddefnyddio eich lwfans llawn?
Nac oes. Gallwch gynilo cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, hyd at y terfyn blynyddol.
Mae eich lwfans yn gweithio ar sail 'ei ddefnyddio neu ei golli'.
Felly, os na fyddwch yn defnyddio eich lwfans llawn yn ystod y flwyddyn dreth, ni allwch ei drosglwyddo i'r flwyddyn dreth nesaf.
Hyd yn oed os na fyddwch yn defnyddio'r lwfans llawn, gall ISA arian parod barhau i fod yn lle gwerthfawr i gadw eich cynilion.
A allwch chi ddefnyddio eich lwfans llawn mewn ISA arian parod?
Mae hyn yn dibynnu ar eich oedran. O 6 Ebrill 2027, mae newidiadau i reolau ISA yn golygu:
Os ydych o dan 65 oed, dim ond £12,000 o gyfanswm eich lwfans ISA y gallwch ei roi mewn ISAs arian parod.
Os ydych dros 65 oed, gallwch ddefnyddio'ch £20,000 llawn mewn ISAs arian parod os hoffech wneud hynny.
Yn gryno, mae hyn yn golygu, os ydych chi o dan 65 oed, mai blwyddyn dreth 2026/2027 yw'r tro olaf y gallwch chi roi eich lwfans ISA £20,000 llawn mewn ISA arian parod (hyd at y flwyddyn dreth y byddwch yn cyrraedd 65 oed).
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnoch, darllenwch ein canllaw ar newidiadau i reolau ISAs arian parod neu'r wybodaeth ddiweddaraf ar GOV.UK.
Sut mae lwfansau ISA yn gweithio
Mae eich lwfans ISA blynyddol yn berthnasol i'r holl gyfrifon ISA rydych chi'n talu iddynt yn ystod un flwyddyn dreth.
Gallwch dalu i mewn i nifer o wahanol ISAau mewn blwyddyn dreth. Ond ni all cyfanswm y swm rydych chi'n ei gyfrannu fod yn fwy na'ch lwfans blynyddol.
Gallwch roi eich lwfans llawn mewn un ISA. Cofiwch y terfynau ar gyfer ISA arian parod i bobl dan 65 oed a nodwyd uchod. Neu gallwch ddewis rhannu eich lwfans rhwng gwahanol fathau o ISA. Chi biau'r dewis.
Gyda Principality, dim ond i un ISA arian parod y gallwch chi dalu bob blwyddyn dreth.
Beth sy'n cyfrif tuag at eich lwfans?
Mae unrhyw arian rydych chi'n ei dalu i'ch ISA arian parod yn ystod y flwyddyn dreth yn cyfrif tuag at eich lwfans blynyddol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw arian rydych chi'n ei drosglwyddo o gyfrif cyfredol neu gyfrif cynilo nad yw'n ISA, boed hynny drwy daliadau misol rheolaidd neu flaendal untro.
Nid yw arian rydych chi'n ei drosglwyddo o un ISA i un arall yn cyfrif tuag at eich lwfans blynyddol. Ond rhaid i chi sicrhau eich bod yn dilyn proses trosglwyddo ISA swyddogol eich darparwr.
Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd eich lwfans?
Unwaith y byddwch wedi defnyddio eich lwfans ISA llawn ar gyfer y flwyddyn dreth, ni allwch roi mwy o arian i mewn i gyfrifon ISA nes bod y flwyddyn dreth nesaf yn dechrau.
Gall unrhyw gynilion sydd eisoes yn eich ISA aros yno a pharhau i ennill llog di-dreth.
Os ydych chi'n agosáu at derfyn eich lwfans, mae'n werth cadw golwg ar y cyfraniadau ar draws eich holl gyfrifon ISA.
Gwneud y defnydd gorau o'ch lwfans ISA
Does dim ffordd gywir neu anghywir o ddefnyddio eich lwfans ISA.
Mae rhai pobl yn gwneud cyfandaliadau neu flaendaliadau unnigol ar unwaith cyn gynted â phosibl bob blwyddyn dreth.
Mae dechrau'n gynnar yn y flwyddyn dreth yn rhoi mwy o amser i'ch cynilion ennill llog.
Ond efallai y bydd cyfraniadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn yn fwy addas i chi. Nid oes gan rai pobl y lwfans llawn i'w gynilo fel cyfandaliad, felly mae'n well ganddynt ychwanegu at eu ISA dros amser.
Os yw hynny'n berthnasol i chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis ISA sy'n eich galluogi i barhau i ychwanegu arian dros amser.
Mae eich cynilion wedi'u diogelu
Os yw eich darparwr ISA yn cael ei reoleiddio gan yr FCA, mae eich cynilion wedi'u diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae hyn yn cwmpasu cynilion cymwys hyd at £120,000 fesul unigolyn, fesul darparwr.
Os oes gennych fwy na £120,000 mewn cynilion, ystyriwch ei rannu rhwng darparwyr gwahanol i fanteisio i'r eithaf ar eich amddiffyniad.
P'un a ydych chi'n cynilo ar gyfer nod penodol neu eisiau manteisio i'r eithaf ar log di-dreth, gall ein hystod o ISAs arian parod cash ISAs eich helpu i gyrraedd eich nodau cynilo.
- ISAs
Porwch ein dewis o gyfrifon ISA arian parod
Edrychwch ar ein dewis o gyfrifon ISA Arian Parod i ddod o hyd i un sy'n cyd-fynd â'ch nodau cynilo.