Skip to content

Adlog

Dysgwch sut mae adlog yn gweithio a sut y gall gynyddu eich cynilion dros amser.  
A fyddai'n well gennych ddarllen? Gweler y trawsgrifiad llawn isod.

Trosolwg cyflym

Yn y fideo hwn, rydym yn egluro sut mae adlog yn gweithio a pham y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch cynilion dros amser. Rydym yn edrych ar enghraifft syml i ddangos sut y gallwch ennill llog nid yn unig ar eich balans gwreiddiol, ond ar y llog rydych chi eisoes wedi'i gronni hefyd.

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad llawn o'r fideo:


Ydych chi'n gwybod y gallwch chi ennill llog ar yr arian rydych chi'n ei roi yn eich cyfrifon cynilo a hefyd ar y llog rydych chi wedi'i ennill?

Sut mae'n gweithio?

Os oes gennych falans o £1,000 ar gyfradd llog o 5%, byddech wedi ennill £50 o log ar ôl blwyddyn. Os caiff y llog hwnnw ei ychwanegu at eich cynilion, bydd gennych falans o £1,050.


Y flwyddyn wedyn, caiff y llog ei gyfrifo ar y £1,050 yn hytrach na'r balans gwreiddiol o £1,000; felly, yn y bôn, rydych chi'n ennill llog ar eich llog wrth i amser fynd heibio, a elwir yn adlog.


Gall adlog gynyddu eich cynilion dros amser felly y cynharaf y byddwch yn dechrau cynilo, y mwyaf o amser fydd gennych i ennill adlog.


Dychwelyd i sut i ddewis cyfrif cynilo

Eisiau dysgu mwy?

Dysgwch fwy am eich cynilion.

Gweld pob cyfrif cynilo

Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.