Skip to content

Newid yn y gyfradd gynilo

Ar 19 Mehefin 2025, byddwn yn gostwng y cyfraddau llog amrywiol ar gyfer cyfrifon cynilo 0.25%.


Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer eich cynilion chi?

Bydd y newid hwn yn effeithio ar y llog yr ydych yn ei ennill ar eich cynilion. Bydd y llog yn cael ei leihau 0.25%. 
Defnyddiwch y tabl isod i ddeall sut y bydd yn lleihau'r llog ar eich cynilion.

Lleihad yn y Gyfradd£500£1,000£5,000£10,000£20,000
0.25%£1.25£2.50£12.50£25.00£50.00

Mae’r llog a gyfrifir yn seiliedig ar y tybiaethau bod un cyfandaliad yn cael ei fuddsoddi, na chodir unrhyw arian a bod llog yn cael ei dalu’n flynyddol a Gros*/Di-dreth†.

Er enghraifft, os oes gennych falans o £5,000 mewn cyfrif Mynediad Hawdd Ar-lein, byddech yn cael £12.50 yn llai o log y flwyddyn.

A oes angen i mi hysbysu cyn cau fy nghyfrif neu godi arian ohono?

I weld pa rai o'ch cyfrifon sy'n newid, edrychwch ar eich llythyr neu neges e-bost a anfonwyd atoch. Os hoffech godi arian neu gau cyfrif, ffoniwch ni ar 0330 333 4000.

Fel arfer byddai angen i chi ein hysbysu cyn codi arian neu gau eich cyfrif er mwyn osgoi talu cosb llog. Fodd bynnag, gan fod eich cyfradd yn gostwng, gallwch gau eich cyfrif neu godi arian ohono ar unwaith, heb gosb, hyd at 5 Gorffennaf 2025. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y cyfnod hysbysu arferol ar gyfer eich cyfrif yn berthnasol.


Hysbysiadau cyfrifon

Hysbysiad 7 Diwrnod

30 Diwrnod Uniongyrchol

Hysbysiad 30 Diwrnod

60 Diwrnod Uniongyrchol

Hysbysiad 60 Diwrnod

Hysbysiad 30 Diwrnod ISA Arian Parod

Hysbysiad 60 Diwrnod ISA Arian Parod

 

Os oes gennych un o'r cyfrifon hyn ni fydd angen i chi ein hysbysu cyn i chi godi arian ohonynt.


Cyfrifon cynilo bob dydd

Mynediad Uniongyrchol

Mynediad Uniongyrchol Cangen

Mynediad Uniongyrchol (ex-ISA)

ISA Arian Parod Cyfradd Amrywiol

Cyfrif Plant

Cyfrif Cynilo Dylan Young

ISA Arian Parod Hawdd

Cyfrif Cynilo Hawdd

e-Gynilo Aeddfedrwydd

Cyfrif Cynilo Misol

Mynediad Hawdd Ar-lein

ISA Arian Parod Mynediad Hawdd Ar-lein

ISA Ar-lein

ISA Bonws Ar-lein

ISA Cyfradd Amrywiol Haenog

ISA Cyfradd Amrywiol Haenog Aelodau


Gan mai mynediad cyfyngedig yw'r cyfrifon hyn, fel arfer caniateir i chi godi swm cyfyngedig o arian ohonynt bob blwyddyn. Fodd bynnag, gan fod eich cyfradd yn gostwng, gallwch godi un taliad ychwanegol neu gau eich cyfrif hyd at 5 Gorffennaf 2025.


Cyfrifon mynediad cyfyngedig

Cyfrif Cynilo Bonws Mynediad Cangen 5

ISA Arian Parod Cynilo Bonws Mynediad Cangen 5

Cyfrif Cynilo Mynediad Cangen5

ISA Arian Parod Mynediad Cangen 5

Cyfrif Cynilo Rheolaidd Mynediad Triphlyg 1 Flwyddyn

Cyfrif Cynilo Mynediad Dwbl

Mynediad Dwbl Ar-lein

Enillwr Dysgwr

Camau Cartref Cyntaf

Camau Cartref Cyntaf Ar-lein

Cyfrif Cynilo Diolch

Cyfrif Cynilo Diolch Ar-lein

Cyfrif Cynilo Diolch y GIG

Cyfrif Cynilo Diolch y GIG Ar-lein

Cyfrif Cynilo Staff Ysgol

Mynediad Cyfyngedig Aelodau

Mynediad Triphlyg Ar-lein

Cyfrif Cynilo Mynediad Triphlyg Bonws Ar-lein

Cyfrif Cynilo Tîm Cartref

Mynediad Cyfyngedig Aeddfedrwydd

ISA Arian Parod Mynediad Cyfyngedig Aeddfedrwydd

Mynediad Triphlyg

ISA Arian Parod Mynediad Triphlyg

Cyfrif Cynilo Uwch Dylan

Cyfrif Cynilo Rhoddion

ISA Arian Parod Mynediad Bonws 5 Ar-lein

ISA Arian Parod Mynediad 5 Ar-lein


Rhagor o wybodaeth

Os hoffech drafod yr holl opsiynau cynilo sydd ar gael i chi, ffoniwch ni ar 0330 333 4000 neu anfonwch neges ddiogel atom drwy Eich Cyfrif.

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu’r cyfraddau cynilo a gynigiwn, ond fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol sy’n eiddo i’n Haelodau, mae angen i ni ystyried ein cwsmeriaid morgeisi hefyd. Ar 8 Mai 2025, gostyngodd Banc Lloegr gyfradd y Banc i 4.25%, sydd wedi’i throsglwyddo i’n benthycwyr morgeisi. Wrth i ni dalu ein cynilwyr gan ddefnyddio'r incwm a gawn o fenthyca morgeisi, pan fydd cyfraddau morgeisi'n gostwng, yn naturiol mae'n lleihau'r incwm sydd gennym i dalu ein cynilwyr.

Fel arfer, caniateir i chi godi swm cyfyngedig o arian bob blwyddyn. Fodd bynnag, gan fod eich cyfradd yn gostwng, gallwch godi un taliad ychwanegol neu gau eich cyfrif hyd at 5 Gorffennaf 2025. Os ydych am godi un taliad o gyfrif ar-lein yn unig am swm o fwy na £20,000, gallwch wneud hyn drwy anfon neges ddiogel drwy Eich Cyfrif.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfrifon cynilo, mae’n bwysig dewis un sy’n diwallu’ch anghenion. Os oes angen help arnoch, ffoniwch ni ar 0330 333 4000 a byddwn yn hapus i helpu i fynd drwy eich opsiynau. Neu edrychwch ar ein cyfrifon cynilo i ddod o hyd i'r cyfrif sydd orau i chi.

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Gweld pob cyfrif cynilo

Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.

^ Ystyr di-dreth yw na chaiff Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU eu didynnu o'r llog a enillwch. Mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, a gall newid yn y dyfodol.

* Llog gros yw’r gyfradd llog cyn didynnu treth incwm ar y gyfradd a osodir gan y gyfraith.

† Ystyr AER yw'r Gyfradd Gyfwerth Flynyddol ac yn dangos beth fyddai’r gyfradd llog pe bai llog yn cael ei dalu unwaith y flwyddyn ar y balans cyfan, gan gynnwys taliadau llog blaenorol.