Beth yw SVR?
Dysgwch fwy am forgeisi Cyfradd Amrywiol Safonol.
A fyddai'n well gennych ddarllen yn lle? Gweler y trawsgrifiad llawn isod.
Trosolwg cyflym
Dysgwch beth yw morgais Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR), sut mae'n gweithio, a pham y gall eich taliadau misol newid pan fydd cyfraddau llog yn amrywio. Archwiliwch pryd y gallai fod yn briodol symud i SVR a beth i'w ystyried cyn dewis eich cytundeb morgais nesaf.
Trawsgrifiad
Mae SVR yn sefyll am Gyfradd Amrywiol Safonol. Dyma'r gyfradd llog y mae benthyciwr morgais yn ei rhoi ar ei forgais safonol; heb unrhyw gytundeb sefydlog na disgowntiau.
Sut mae SVR yn gweithio?
Mae SVR yn gyfradd llog amrywiol sy'n seiliedig ar gyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Gall bod ar y Gyfradd Amrywiol Safonol (SVR) wneud rheoli eich taliadau morgais misol yn anrhagweladwy. Y rheswm am hynny yw y gall Banc Lloegr wneud newidiadau i'r gyfradd sylfaen. Os bydd hynny'n digwydd, gallai effeithio ar yr SVR, a byddai eich taliadau morgais yn newid.
A ddylwn i osgoi cael fy symud i SVR?
Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn cysylltu â chi cyn i gyfnod eich morgais ddod i ben. Gallwch ddewis cytundeb morgais newydd gyda'ch darparwr presennol neu newid i ddarparwr arall cyn i'r cyfnod ddod i ben.
IOs na fyddwch yn dewis cytundeb newydd, cewch eich trosglwyddo'n awtomatig i gyfradd SVR eich benthycwr.
Pam y gallech ystyried mynd ar SVR?
Weithiau, gall morgais SVR fod yn opsiwn tymor byr os ydych eisiau hyblygrwydd gyda'ch morgais. Neu, os ydych yn dod i ddiwedd cyfnod eich morgais ac nad ydych eisiau ymrwymo i gytundeb arall ar unwaith.
Gallwch hefyd ystyried SVR os gwyddoch fod eich amgylchiadau yn newid yn y dyfodol agos.
Er enghraifft, os ydych yn disgwyl newid i incwm eich cartref. Neu os ydych am symud tŷ heb drosglwyddo eich morgais na thalu Ffi Ad-dalu'n Gynnar.
Does dim angen ofni SVR. Ond mae'n dda ei ddeall, fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus am eich morgais.
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.