Beth i'w ddisgwyl wrth gael morgais
Deall taith y morgais o'r blaendal i'r cynnig.
A fyddai'n well gennych ddarllen yn lle? Gweler y trawsgrifiad llawn isod.
Trosolwg cyflym
Mae'r fideo hwn yn eich arwain drwy'r broses morgais, o gynilo ar gyfer eich blaendal i wneud cais am eich morgais. Mae'n egluro sut mae benthycwyr yn cyfrifo beth allwch chi ei fforddio a beth sy'n digwydd ar ôl i'ch cynnig gael ei dderbyn. Byddwch hefyd yn cael syniad o ba mor hir y gall y broses gymryd.
Trawsgrifiad
Y cam cyntaf i sicrhau cynnig morgais yw cael blaendal.
Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn cynnig morgeisi i brynwyr tro cyntaf sy'n cyfateb i hyd at 95% o werth y cartref rydych chi am ei brynu.
Mae hynny'n golygu y bydd angen blaendal o 5% arnoch.
Felly, beth mae hynny i gyd yn ei olygu??
Gadewch i ni ddychmygu eich bod eisiau prynu fflat am £100,000. Mae angen blaendal o 5% o leiaf arnoch – sef £5,000.
Byddai angen i chi fenthyca'r £95,000 arall gan ddarparwr morgeisi.
Dyna'ch benthyciad morgais; byddech yn ei ad-dalu, ynghyd ag unrhyw log, bob mis nes bod y benthyciad wedi'i ad-dalu'n llawn.
Sut mae'n gweithio?
Unwaith y bydd gennych eich blaendal, gallwch gysylltu â darparwr morgeisi neu frocer i weld faint y gallwch ei fenthyca.
Gelwir hyn yn brawf fforddiadwyedd. Mae'n seiliedig ar ffactorau fel eich incwm a'ch gwariant, a bydd yn rhoi syniad i chi o'ch cyllideb a pha eiddo y gallwch ei fforddio.
Mae benthycwyr yn defnyddio'r prawf fforddiadwyedd i gynnal gwiriad credyd 'meddal'. Os ydynt yn fodlon ar y canlyniadau, byddant yn cynnig penderfyniad o ran egwyddor i chi. Dogfen yw hon sy'n dangos bod benthyciwr yn fodlon benthyca swm penodol o arian i chi. Gall asiantau tai ofyn am weld penderfyniad o ran egwyddor cyn y gallwch wneud cynnig ar eiddo.
Unwaith y bydd eich cynnig wedi'i dderbyn, byddwch yn symud ymlaen i gam gwneud cais am forgais. Rhoddir gwybodaeth i chi am y mathau o forgeisi sydd ar gael a pha gynigion a allai fod yn addas i chi.
Mae'n debygol y gofynnir i chi ddarparu rhai dogfennau, fel prawf o faint rydych chi'n ei ennill. Gwneir hyn er mwyn i'ch benthycwr allu asesu a chymeradwyo eich morgais – sy'n golygu, yn y bôn, eu bod yn gwirio eich sefyllfa ariannol yn ffurfiol, gan gynnwys eich incwm a'ch dyledion, yn ogystal â manylion y cartref rydych chi am ei brynu.
Bydd y benthycwr hefyd yn cynnal prisiad o'r eiddo rydych chi'n gobeithio ei brynu, er mwyn sicrhau ei fod werth yr arian y mae'n ei fenthyca i chi i dalu amdano.
Pa mor hir mae'r cyfan yn ei gymryd?
Gall cael cais am forgais wedi'i gymeradwyo gymryd ychydig fisoedd; fel arfer dau neu dri. Mae popeth yn dibynnu ar yr eiddo rydych chi'n ei brynu, y benthyciwr, a'ch amgylchiadau personol.
Pob lwc gyda'r broses o brynu cartref, a chofiwch ein bod ni yma bob amser os oes gennych unrhyw gwestiynau am forgeisi.
Eisiau dysgu mwy?
Dysgwch fwy am wneud cais am forgais a phrynu eich cartref cyntaf.
-
Cyfrifwch faint sydd angen i chi ei gynilo
Faint sydd angen i mi ei gynilo?@Model.SubHeadingTag>
Mae'n ddefnyddiol cael nod mewn golwg wrth gynilo. Dyma sut i benderfynu faint rydych chi am ei gynilo.
-
Dysgwch faint y gallech ei fenthyca
Faint y gallaf ei fenthyca?@Model.SubHeadingTag>
Dysgwch faint y gallech ei fenthyca a gosodwch nod cynilo realistig.
-
Deall LTV
Egluro benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth@Model.SubHeadingTag>
Gall benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth(LTV) beri dryswch. Dyma beth ydyw a sut y gallai effeithio ar eich morgais.
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.