Canllaw i fenthyca mwy o arian
Yn y canllaw hwn
Pam fyddech chi eisiau benthyca mwy?
Benthyca mwy yw pan fyddwch yn gofyn i'ch benthyciwr am fwy o arian. Gyda Principality, gallwch naill ai ailforgeisio neu gynyddu'r swm sy'n ddyledus gennych ar eich morgais cyfredol.
Mae rhesymau cyffredin dros fenthyca mwy yn cynnwys:
- Gwella'r cartref
- Atgyweiriadau brys yn y cartref
- Cyfuno dyled
- Talu am ddigwyddiad bywyd neu nod arbennig
Pethau i'w gwybod am fenthyca mwy
Ni all y swm sy'n ddyledus gennych (eich morgais cyfredol a'r swm ychwanegol) fod yn fwy na therfynau penodedig y gymhareb rhwng benthyciad a gwerth (LTV).
- Trothwyon LTV: 90% LTV ar gyfer eiddo preswyl, 75% LTV ar gyfer eiddo prynu i osod neu lety gwyliau.
- Mae'r swm ychwanegol y byddwch yn ei fenthyca wedi'i sicrhau yn erbyn eich cartref.
- Mae cyfnod y morgais yn amrywio o leiafswm o ddwy flynedd i uchafswm o 40 mlynedd.
- Rhaid i chi aros 3 mis ar ôl cymryd morgais gyda ni i wneud cais i fenthyca mwy.
- Rhaid i chi fod wedi talu'ch ad-daliadau morgais i gyd a dangos hanes ad-dalu da.
- Rhaid i chi fodloni ein gofynion benthyca.
- Codir ffi arnoch am fenthyca mwy.
Beth yw benthyciad i werth (LTV)? LTV yw canran gwerth eich eiddo yr ydych yn ei fenthyca fel benthyciad.
Pethau i'w hystyried
Dylech bob amser gael cyngor ariannol cyn benthyca mwy.
Dyma rai pethau i'w hystyried:
- Allwch chi fforddio'r ad-daliadau misol uwch?
- Faint o ecwiti sydd yn eich cartref ar hyn o bryd?
- A yw'r swm rydych eisiau ei fenthyca yn fwy neu'n llai na'ch ecwiti?
- Os bydd cyfraddau llog yn cynyddu pan fydd eich cyfnod sefydlog yn dod i ben, a allech chi ymdopi ag ad-daliadau uwch?
Sut mae benthyca'n gweithio: enghraifft
Fe wnaethoch chi gymryd morgais gwerth £300,000 ddeng mlynedd yn ôl. Ar ôl talu'ch ad-daliadau misol, rydych wedi lleihau y swm sy'n ddyledus gennych i 236,000. Mae gwerth eich eiddo wedi cynyddu i £420,000.
Rydych chi eisiau benthyca £100,000 ar gyfer gwelliannau i'ch cartref. Os gwnewch chi hynny, bydd £336,000 yn ddyledus gennych yn erbyn eiddo sydd werth £420,000. Byddai gennych LTV o 80% ac ecwiti o 20%.
Byddai benthyca swm ychwanegol dros y cyfnod sydd ar ôl ar eich morgais yn cynyddu eich ad-daliadau misol gan eich bod bellach yn talu'n ôl eich benthyciad morgais gwreiddiol a'r swm ychwanegol yr ydych wedi'i fenthyca.
Cofiwch: gallai eich ad-daliadau morgais newid pan fyddwch yn ailforgeisio yn y dyfodol. Gwnewch yn siŵr y gallwch fforddio eich ad-daliadau nawr ac yn yr hirdymor.Dylech feddwl yn ofalus cyn benthyca mwy. Os byddwch yn cael trafferth talu eich ad-daliadau, bydd perygl y bydd y benthyciwr yn adfeddiannu eich cartref.
Faint yn fwy allwn i ei fenthyca?
Mae'r swm ychwanegol y gallech ei fenthyca yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Gall siarad ag ymgynghorydd morgeisi eich helpu i ddeall faint y gallwch ei fforddio. Ac mae bob amser yn syniad da gofyn am gyngor ariannol annibynnol cyn gwneud penderfyniad mawr am eich arian.
- Morgeisi
Benthyca Ychwanegol
Edrychwch ar eich dewisiadau ar gyfer benthyca mwy ar eich morgais Principality presennol.