Cludo'ch morgais
Yn y canllaw hwn
Beth mae cludo morgais yn ei olygu?
Ystyr cludo morgais yw pan fyddwch yn prynu cartref newydd ond yn cadw'ch cyfradd morgais gyfredol.
Yn lle newid i fenthyciwr newydd neu gynnyrch morgais newydd, rydych yn dewis aros gyda'ch benthyciwr cyfredol, gan gadw'r un gyfradd llog a chytundeb morgais (os ydych yn gymwys).
Sut mae cludo morgais yn gweithio?
Pan fyddwch yn cludo'ch morgais, rydych yn trosglwyddo'r gyfradd neu'r cytundeb - nid y benthyciad ei hun. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ailymgeisio am forgais pan fyddwch yn symud cartref.
Bydd y benthyciwr yn asesu'r canlynol:
- Y gymhareb rhwng benthyca a gwerth (LTV) eich eiddo newydd.
- Unrhyw newidiadau i'r meini prawf benthyca.
- Newidiadau i'ch amgylchiadau ariannol, gan gynnwys incwm a'ch alldaliadau.
Os cymeradwyir eich cais, byddwch yn dilyn yr un broses ag y byddech pe baech yn gwneud cais am forgais newydd.
Ai cludo yw'r opsiwn cywir?
Yn dda ar gyfer pobl... |
Efallai na fydd yn iawn os... |
---|---|
Sydd â morgais cyfnod penodol ac eisiau osgoi talu ffi ad-dalu'n gynnar. |
Yw cyfraddau llog wedi gostwng a bod cytundebau gwell ar gael yn rhywle arall. |
Sydd am osgoi talu ffioedd ymadael. |
Yw eich amgylchiadau wedi newid ac nad ydych yn bodloni meini prawf eich benthyciwr mwyach. |
Sydd â morgais cludadwy gyda chyfradd llog gystadleuol. |
Oes eisiau mwy o hyblygrwydd na'r hyn a ganiateir gan eich cytundeb cyfredol. |
Y mae'n well ganddynt aros gyda'u benthyciwr cyfredol yn lle chwilio am gytundeb newydd. |
|
|
Benthyca mwy wrth gludo
Os ydych yn symud i eiddo drutach, efallai y bydd angen i chi fenthyca swm ychwanegol ar ben eich morgais presennol. Os felly, caiff eich morgais ei rannu'n ddau ran:
Rhan 1: Balans eich morgais cyfredol, yr ydych yn ei gludo i'ch cartref newydd.
Rhan 2: Yr arian ychwanegol rydych yn ei fenthyca, a fyddai ar gytundeb a chyfradd ar wahân.
Dyma enghraifft o fenthyca llai pan fyddwch yn cludo:
Mae Dan ac Adam yn berchen ar gartref gwerth £200,000, ac mae £150,000 yn ddyledus ar eu morgais - gan olygu bod ganddynt £50,000 mewn ecwiti (LTV o 75%).
Maent eisiau prynu cartref newydd am £160,000. Maent yn defnyddio £40,000 o'u hecwiti fel blaendal ac yn benthyca £120,000, gan ryddhau £10,000 ar gyfer gwneud gwelliannau i'r cartref.
Mae'r dull hwn yn caniatáu iddynt leihau eu morgais wrth gadw rhywfaint o arian parod o'r neilltu - ar yr amod bod eu LTV yn aros o fewn terfynau derbyniol.
Angen help yn cludo'ch morgais?
Mae ein tîm yma i'ch helpu i ddeall eich opsiynau. Os ydych yn ystyried symud ac eisiau gwybod a allwch chi gludo'ch morgais Principality, cysylltwch â'n tîm morgeisi.
- Symud cartref
Eisiau trafod y camau nesaf?
Ffoniwch ein arbenigwyr mnorgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp