Pam ddylwn i ddeall fy sgôr credyd?
Yn y canllaw hwn
Mae benthycwyr yn defnyddio eich sgôr credyd i benderfynu pa mor ddibynadwy ydych chi wrth fenthyca ac ad-dalu arian. Gall effeithio ar a ydych yn cael eich cymeradwyo i gael credyd; a faint y gallai benthyca ei gostio i chi.
Beth yw sgôr credyd?
Sgôr credyd yw rhif 3 digid y mae benthycwyr yn ei ddefnyddio i ganfod pa mor ddibynadwy ydych chi wrth ad-dalu unrhyw arian rydych yn ei fenthyca. Mae'n seiliedig ar eich hanes ariannol ac yn berthnasol i forgeisi, cardiau credyd, a benthyciadau.
Mae benthycwyr yn defnyddio'ch sgôr credyd i benderfynu:
- A ddylid cymeradwyo'ch cais i fenthyca arian.
- Faint i roi benthyg i chi.
- Pa gyfradd llog i'w chynnig
Sut ydw i'n gwirio fy sgôr credyd?
Gallwch wirio'ch sgôr credyd am ddim drwy asiantaethau gwirio credyd. Yn y DU, ceir tair prif asiantaeth:
- Experian, Money Saving Expert Credit Club
- Equifax, ClearScore
- TransUnion, Karma
Beth mae fy sgôr credyd yn ei olygu?
Mae'r sgorau credyd fel arfer yn defnyddio system sgorio yn amrywio o wael i ardderchog.
- Gallai sgôr credyd gwael olygu bod benthycwyr yn eich ystyried yn risg uwch. Gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach i chi gael cais wedi'i gymeradwyo, neu efallai y cewch gynnig credyd gyda chyfradd llog uwch (a fyddai'n golygu y bydd benthyca'n costio mwy i chi).
- Mae sgôr ardderchog yn dweud wrth fenthycwyr eich bod yn fwy tebygol o ad-dalu ar amser. Mae hyn yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch yn cael cynnig cytundebau gwell neu derfynau credyd uwch.
Sut ydw i'n gwella fy sgôr credyd?
Pam mae hyn yn bwysig:
Gallai gwella eich sgôr credyd eich helpu chi:
- I gael cytundebau gwell
- I gymhwyso ar gyfer cyfraddau llog is
- Gwella eich newidiadau o gael eich cymeradwyo ar gyfer morgais neu fenthyciad
Beth alla i ei wneud?
Efallai yr hoffech wella'ch sgôr credyd cyn gwneud cais i fenthycwyr. Mae yna rai camau y gallwch eu cymryd a allai helpu i wella'ch sgôr:
- Talu'ch biliau a'ch ad-daliadau i gyd ar amser.
- Gwirio'ch adroddiad credyd am unrhyw gamgymeriadau a'u cywiro.
- Cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad cyfredol.
- Osgoi gwneud llawer o geisiadau credyd mewn cyfnod byr.
- Defnyddio rhywfaint o'r credyd sydd ar gael i chi bob mis, ond nid y credyd i gyd.
- Cau unrhyw hen gyfrifon credyd neu gyfrifon credyd nas defnyddiwyd os nad oes eu hangen arnoch mwyach.
Beth sy'n effeithio ar eich sgôr credyd?
Gall nifer o bethau effeithio ar eich sgôr credyd, gan gynnwys:
- Dim neu fawr ddim hanes credyd.
- Methu taliadau neu dalu'n hwyr.
- Gwneud gormod o geisiadau credyd mewn cyfnod byr.
- Peidio â diweddaru'ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol ar ôl symud.
- Defnyddio'ch credyd i gyd bob mis.
- Peidio â chau hen gyfrifon credyd neu gyfrifon credyd segur.
- Dechrau arni
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.