Rhentu'ch eiddo
Yn y canllaw hwn
Cydsyniad i osod
Cydsyniad i osod yw pan fyddwch yn gofyn i'ch benthyciwr am ei ganiatâd i rentu'ch cartref dros dro wrth barhau i dalu morgais preswyl. Mae cydsyniad i osod fel arfer am tua 12 mis. Os hoffech rentu'ch cartref yn y tymor hwy, bydd angen i chi wneud cais am forgais prynu i osod.
Stori Emily
Mae Emily yn berchen ar dŷ teras gyda 2 ystafell wely. Mae ganddi gynnyrch morgais sefydlog tan 2026. Mae hi wedi penderfynu ei bod am deithio i Dde America am 9 mis, ond mae angen iddi rentu ei chartref i dalu'r morgais tra bydd hi'n teithio.
Mae Emily yn sgwrsio â Ben, un o'r ymgynghorwyr morgeisi yn Principality. Mae Ben yn esbonio y gallai rentu ei chartref am 12 mis o dan y cydsyniad i osod. Mae Emily yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd, felly gall ddilyn y broses gywir ar gyfer rhentu ei chartref ac wedyn teithio.
Mae'n dychwelyd 9 mis yn ddiweddarach, gan roi gwybod i Principality ei bod wedi dychwelyd ac yn darparu bil treth gyngor wedi'i ddiweddaru. Wedyn, mae'n parhau â'i morgais preswyl fel arfer.
Enghraifft yn unig yw'r stori hon ac efallai na fydd yn berthnasol i bob sefyllfa unigol. Ffoniwch ni am sgwrs i weld a yw cydsyniad i osod yn addas i chi.
Cymhwysedd ar gyfer cydsyniad i osod
Rhaid i chi fodloni'r meini prawf isod i wneud cais ar gyfer cydsyniad i osod:
- Cytundeb tenantiaeth; contract rhyngoch chi a'ch tenantiaid am o leiaf 6 mis:
- Yng Nghymru a Lloegr: Cytundeb Tenantiaeth Byrddaliad (AST)
- Cynllun rhentu am 12 mis neu lai.
- O leiaf chwe mis o daliadau ar eich morgais preswyl (ddim yn berthnasol os ydych yn aelod o'r Lluoedd Arfog neu Glerigion Prydain)
Ffioedd a thaliadau
Tra byddwch yn rhentu'ch cartref, byddwn yn ychwanegu 1% i gyfradd llog eich morgais cyfredol - oni bai eich bod yn aelod o'r Lluoedd Arfog Prydain neu'n Glerig.
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd unrhyw newidiadau i'r gyfradd llog ychwanegol neu ein tariff taliadau.
Dod â chydsyniad i osod i ben
Er mwyn dod â'ch cytundeb gosod i ben, dylech anfon copi o'ch bil y dreth gyngor yn dangos bod yr eiddo wedi'i newid yn ôl i enw deiliad y morgais. Unwaith y byddwn yn cael hyn, gallwn ddiweddaru eich manylion.
Ystyriaethau eraill
Talu Treth
Bydd angen i chi dalu treth ar unrhyw elw rydych yn ei wneud o rentu'ch cartref. Gallai hyn gynyddu eich incwm trethadwy ac efallai y byddwch yn symud i fand treth uwch. I gael rhagor o fanylion, ewch i Gov.UK neu siaradwch ag ymgynghorydd treth annibynnol.
Newidiadau i'ch morgais
Unwaith y bydd eich eiddo'n cael ei rentu, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- Newid cytundeb eich morgais
- Gwneud cais i fenthyca mwy (ac eithrio ar gyfer gwelliannau neu atgyweiriadau o bosibl)
- Cwblhau newid i'r cyfnod
- Ychwanegu neu ddileu benthyciwr
Yswiriant cartref
Bydd angen i chi ddweud wrth ddarparwr eich yswiriant cartref eich bod yn rhentu'ch cartref. Efallai y bydd angen i chi newid eich yswiriant er mwyn sicrhau eich bod wedi'ch yswirio'n llawn i rentu'ch eiddo.
- Eiddo
Gwnewch gais i rentu eich cartref
Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp