*Telerau ac Amodau Taleb £30
Gwybodaeth am agor cyfrif a thelerau ac amodau llawn
I agor cyfrif, bydd angen i'ch rhiant neu warcheidwad alw heibio i gangen neu drefnu apwyntiad a dod â dau fath o ddogfen adnabod (pasbort, trwydded yrru, ac ati). Bydd angen i ni weld eich tystysgrif geni neu basbort hefyd. Peidiwch ag anghofio'r daleb.
Os ydych chi'n 14 oed neu'n 15 oed, gallwch agor y cyfrif eich hun!
Telerau ac Amodau (dangoswch i'ch rhiant neu warcheidwad os ydych chi o dan 14 oed)
- Gellir defnyddio'r daleb hon i agor cyfrif plant, y gellir ei agor a'i weithredu gan blentyn 14 oed neu 15 oed, rhiant neu warcheidwad, neu gan Ymddiriedolwr (gwiriwch y cymhwysedd a Thelerau'r Cyfrif).
- Rhaid eich bod wedi derbyn y daleb yn Sioe Frenhinol Cymru 2026. Rhaid i chi ddarparu'r daleb i ni pan fyddwch yn agor cyfrif.
- Byddwn ond yn derbyn y daleb bapur wreiddiol ac mae'n rhaid bod cyfeirnod dilys arni.
- Dim ond unwaith y gellir defnyddio'r daleb cyn iddi ddod i ben.
- Unwaith y byddwn yn agor ac yn cael y daleb, byddwn yn talu £30 i'r cyfrif.
- 5.1 Er mwyn agor cyfrifon ar gyfer mwy nag un plentyn, rhaid i chi agor cyfrif ar wahân a darparu taleb ar wahân gyda chyfeirnod dilys ar gyfer pob plentyn.
- 5.2 Byddwn yn talu £30 i gyfrif pob plentyn ar ôl iddo gael ei agor yn llwyddiannus (gellir adbrynu uchafswm o 4 taleb fesul teulu neu ymgeisydd).
- Dim ond un daleb y gellir ei hadbrynu i gyfrif plentyn o fewn unrhyw gyfnod treigl o 12 mis o'r dyddiad y defnyddiwyd y daleb olaf, waeth beth fo'r digwyddiad (neu'r ymgyrch) y derbyniwyd y daleb ynddo.
- Bydd talebau a ddefnyddir eto o fewn y cyfnod hwn yn cael eu gwrthod, boed ar gyfer cyfrif newydd neu gyfrif presennol.
- Efallai y byddwn yn cau cyfrif(on), yn gwrthod talebau a/neu'n didynnu arian talebau o'r balans os byddwch yn torri'r telerau hyn.
- Ni allwch roi'r daleb hon i neb arall, ei gwerthu, na'i defnyddio am unrhyw beth arall.
- Drwy dderbyn y daleb, rydych chi'n cytuno i'r telerau ac amodau hyn a'r Telerau Cyfrif perthnasol.
- Os oes gan blentyn gyfrif plant gyda ni eisoes, nid oes angen i chi agor un newydd ond rhaid i chi ymweld â changen a rhoi'r daleb i ni i'w thalu i gyfrif presennol.