Skip to content

Dewis cyfrif cynilo

Dysgwch sut i ddod o hyd i'r cyfrif cynilo gorau i chi. 
A fyddai'n well gennych ddarllen yn lle? Gweler y trawsgrifiad llawn isod.

Trosolwg cyflym

Dysgwch am y gwahanol opsiynau cyfrifon cynilo sydd ar gael, gan gynnwys bondiau cyfradd sefydlog, cyfrifon ISA a chyfrifon cyfradd amrywiol. Mae'r fideo hwn yn egluro sut mae cyfraddau llog yn gweithio a sut i ddewis cyfrif cynilo sy'n diwallu eich anghenion unigol.

Trawsgrifiad


Wrth ddewis cyfrif cynilo, gallwch ddewis cyfrif cyfradd sefydlog, fel bond cyfradd sefydlog neu ISA cyfradd sefydlog. Os byddwch yn dewis gyfrif cynilo cyfradd sefydlog, byddai eich cyfradd llog yn aros yr un fath drwy gydol cyfnod y cyfrif.


Mae'n bosibl y bydd gennych hefyd yr opsiwn i ddewis cyfrif cynilo sy'n cynnig cyfradd llog amrywiol. Mae hyn yn golygu y gall eich llog godi a disgyn—er enghraifft, yn dilyn newidiadau yn y farchnad neu newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr.


Mae rhai banciau a chymdeithasau adeiladu hefyd yn cynnig cyfraddau 'tracio' – cyfrifon â chyfradd amrywiol sydd wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Bydd y rhain yn codi ac yn disgyn wrth i'r gyfradd sylfaenol gynyddu neu ostwng.

Sut i Ddewis y Cyfrif Iawn

Sut ydw i'n gwybod beth sy'n iawn i mi? I benderfynu beth sy'n iawn i chi, bydd angen i chi asesu eich nodau ac amcanion o ran cynilo. Yna, penderfynu pa opsiwn sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion presennol ac yn y dyfodol.


Mae hefyd yn bwysig ystyried pryd y gallech fod angen cael mynediad at eich arian; mae rhai cyfrifon yn caniatáu codi arian o'r cyfrif, rhai yn caniatáu hynny i raddau cyfyngedig, ac eraill efallai na fyddant yn caniatáu codi arian o'r cyfrif na chau'r cyfrif yn ystod y cyfnod.


Os bydd angen i chi gael mynediad at eich arian yn y tymor byr, efallai na fyddwch am ddewis cyfrif cyfnod penodol am bum mlynedd, lle na fyddwch yn gallu cael mynediad at yr arian yn ystod y cyfnod hwnnw. Gyda rhai cyfrifon, dim ond drwy dalu cosb y byddwch yn gallu cael mynediad at yr arian yn gynnar.


Mae'n bwysig cadarnhau'r telerau ac amodau i sicrhau bod y cyfrif cynilo yn diwallu eich anghenion unigol.

Eisiau dysgu mwy?

Dysgwch fwy am eich cynilion.