Skip to content

Gordaliadau morgais

Dysgwch sut mae taliadau ychwanegol ar forgeisi yn gweithio.
A fyddai'n well gennych ddarllen? Gweler y trawsgrifiad llawn isod.

Trosolwg cyflym

Yn y fideo hwn, rydym yn egluro sut mae taliadau ychwanegol ar forgais yn gweithio, a sut gall gwneud taliadau ychwanegol tuag at eich morgais leihau faint o log rydych chi'n ei dalu dros amser. Rydym yn trafod faint y gallwch ei dalu'n ychwanegol fel arfer heb orfod talu ffi, y manteision posibl o leihau balans eich morgais yn gynt, a'r prif bethau i'w hystyried cyn penderfynu a yw gwneud taliadau ychwanegol yn iawn i chi.

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad llawn o'r fideo:

Oeddech chi'n gwybod eich bod chi'n gallu gwneud taliadau ychwanegol ar eich morgais? Gelwir hyn yn ordaliad.

Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn caniatáu i chi wneud gordaliadau o hyd at 10% o falans eich morgais bob blwyddyn heb orfod talu ffi am ad-dalu'n gynnar.

Gallai dewis gwneud gordaliadau arbed arian i chi dros gyfnod eich morgais.

Sut mae'n gweithio?

Dychmygwch bod arnoch £150,000 ar eich morgais ar ddechrau'r flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn, gallech dalu £15,000 yn ychwanegol heb dalu'r ffi i'r benthycwr am ad-dalu'n gynnar. Gallech wneud taliad mawr, taliadau llai, neu gymysgedd o'r ddau.

Pam ddylwn i ei wneud? 

Gallai taliadau ychwanegol rheolaidd leihau'r llog rydych chi'n ei dalu dros gyfnod eich morgais. Gallai hyn arbed miloedd o bunnoedd i chi yn y tymor hir.

Felly, os yw eich dyled morgais yn £150,000 ar gyfnod sefydlog o ddwy flynedd ar gyfradd o 4.9%, ac rydych chi'n bwriadu talu'r morgais yn ôl o fewn 20 mlynedd, eich taliadau misol cyfredol fyddai £982.

Os byddwch wedyn yn penderfynu ordalu cyfandaliad o £5,000, gallech arbed £7,910 mewn llog, lleihau cyfnod eich morgais o flwyddyn ac un mis, a gostwng y ddyled morgais i £145,000.

Gall gordalu leihau eich cymareb rhwng benthyciad a gwerth; gallai hyn eich helpu i gael morgais gyda chyfradd llog is yn y dyfodol.

A allaf ordalu gormod? 

Os byddwch yn gordalu mwy na 10% o falans eich morgais, bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar. Fel arfer, mae hwn rhwng 1% a 5% o'r swm sy'n uwch na'r trothwy o 10%.

Er enghraifft, os oes arnoch £150,000 ar eich morgais ac rydych yn ad-dalu £20,000 yn gynnar, byddai'n rhaid i chi dalu canran o'r £5,000 fel ffi i'r benthycwr.

Beth i'w ystyried cyn gwneud gordaliad? 

Cyn penderfynu gwneud gordaliad, dylech ystyried eich sefyllfa ariannol bersonol bresennol a beth allai newid yn y tymor byr.

Efallai yr hoffech ystyried talu unrhyw ddyledion eraill yn gyntaf, cynilo arian ar gyfer argyfwng, neu ystyried a allwch fforddio gwneud y gordaliad yn gyfforddus.

Gallai hyd yn oed gordaliad rheolaidd bach arbed miloedd, neu ddegau ar filoedd, o bunnoedd i chi dros gyfnod eich morgais, ond yn gyntaf, gwnewch yn siŵr ei fod yn iawn i chi.


Dychwelyd i ffoedd ad-dalu cynnar

Eisiau dysgu mwy?

Dysgwch fwy am forgeisi.

Camau nesaf

Os hoffech drafod eich opsiynau neu ofyn am dystysgrif adbrynu cysylltwch â ni.