Skip to content

Ffioedd ad-dalu cynnar

Couple drinking coffee at home living room looking on laptop

Yn y canllaw hwn

Beth yw ffi ad-dalu'n gynnar? 

Pan fyddwch yn cymryd morgais, rydych yn benthyca arian gan fenthyciwr ac yn ei ad-dalu dros gyfnod o amser y cytunwyd arno. Fel arfer, rydych yn gwneud ad-daliadau misol a allai fod yn sefydlog neu'n amrywiol, yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych. Os penderfynwch ad-dalu'ch balans llawn yn gynnar neu ad-dalu mwy nag y mae'r benthyciwr yn ei ganiatáu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar (ERC).

Pryd y gallai fod angen i chi dalu ffi ad-dalu'n gynnar?

  1. Rydych yn gordalu eich morgais

    Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn gadael i chi ordalu hyd at 10% o falans eich morgais bob blwyddyn heb gosb. Os byddwch yn talu mwy na hyn, efallai y bydd angen i chi dalu ERC.

  2. Rydych yn dewis ailforgeisio neu'n newid eich cytundeb yn gynnar

    Os byddwch yn newid i gytundeb newydd cyn eich morgais presennol - efallai i ostwng eich taliadau misol - mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ERC.


    Os ydych yn newid i fenthyciwr newydd yn gynnar, bydd yr ECR fel arfer yn cael ei ychwanegu at y balans sy'n weddill gennych ar eich morgais. Gallwch dalu’r ffi hon ymlaen llaw neu ei hychwanegu at falans eich morgais newydd.

    Os ydych yn newid eich cytundeb yn gynnar ond yn aros gyda'r un benthyciwr, bydd angen i chi dalu'r ERC gyda'ch arian eich hun.

  3. Rydych yn gwerthu eich cartref

    Os ydych yn gwerthu eich cartref cyn i'ch cytundeb morgais ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ERC i ddod â'ch cytundeb i ben yn gynnar.

  4. Nid ydych yn gallu cludo'ch morgais

    Os yw eich amgylchiadau ariannol wedi newid, efallai y bydd eich benthyciwr yn gwrthod cais i gludo(trosglwyddo) eich morgais. Yna gallech benderfynu dod â’ch morgais i ben yn gynnar a thalu unrhyw ERC cyn symud at fenthyciwr newydd.

 

Stori Amir

Mae Amir yn berchen ar fflat â dwy ystafell wely a chafodd gyfandaliad o £50,000 gan ei deulu yn ddiweddar. Mae am ei roi tuag at ei forgais. Swm y morgais sy'n ddyledus ganddo yw £250,000. Gall gordalu hyd at 10% o falans ei forgais bob blwyddyn, sy'n golygu y gall ad-dalu £25,000 am ddim. 

Os bydd Amir yn talu'r £50,000 llawn, bydd yn mynd £25,000 dros ei lwfans blynyddol, sy'n golygu y bydd ERC yn berthnasol i'r swm ychwanegol hwnnw. Yn yr enghraifft hon, dyweder bod yr ERC yn 5%; byddai Amir yn gorfod talu £1,250.

Mae Amir yn defnyddio'r £50,000 llawn i leihau balans ei forgais, gan ei ostwng i £200,000. Yna codir y £1,250 ERC ar wahân, naill ai fel ffi neu wedi'i ychwanegu at ei forgais, yn dibynnu ar ei fenthyciwr.

Faint yw ffi ad-dalu'n gynnar? 

Mae swm yr ERC yn amrywio yn ôl cynhyrchion morgais a benthycwyr morgais. Fel arfer, byddwch yn disgwyl talu rhwng 1% a 5% o'r balans sy'n weddill gennych os byddwch yn ad-dalu'n llawn yn gynnar.

Os byddwch yn gordalu y tu hwnt i'ch lwfans blynyddol (fel arfer 10%), efallai y codir tâl arnoch  rhwng 1 – 5% o'r swm ychwanegol rydych yn ei dalu.
 

Gallwch ganfod faint yw eich ERC ar gyfer eich morgais gyda Principality drwy ddarllen dogfennau eich morgais, gwirio eich proffil ar-lein, neu ffonio aelod o'r tîm morgeisi.  

Camau nesaf

Os hoffech drafod eich opsiynau neu ofyn am dystysgrif adbrynu cysylltwch â ni.