Faint sydd angen i mi ei gynilo i brynu fy nghartref cyntaf?
Yn y canllaw hwn
Faint sydd angen i mi ei gynilo i brynu fy nghartref cyntaf?
Os ydych yn ystyried prynu eich cartref cyntaf, blaendal fel arfer yw'r gost fwyaf ymlaen llaw. Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am o leiaf 10% o bris yr eiddo, ond mae rhai benthycwyr yn cynnig morgeisi gyda blaendaliadau llai; yn enwedig i brynwyr tro cyntaf.
Wedi dweud hynny, gorau po fwyaf y gallwch chi gynilo. Mae blaendal mwy yn golygu:
- Rydych yn fwy tebygol o gael eich derbyn am forgais.
- Gallech chi ddatgloi cyfraddau llog is.
- Byddwch yn talu llai yn y tymor hir.
Mae hynny oherwydd bod blaendal mwy yn lleihau eich cymhareb rhwng benthyciad a gwerth (LTV) — y swm rydych chi'n ei fenthyg o'i gymharu â gwerth y cartref. Mae morgeisi gyda LTV is fel arfer yn dod â chyfraddau llog is. Felly, er y gallai cynilo mwy olygu aros ychydig yn hirach, gallai eich helpu i wario llai dros oes eich morgais.
Faint ddylech chi ei gynilo?
Mae hynny'n dibynnu ar beth sy'n bwysig i chi.
Eisiau prynu eich cartref cyntaf cyn gynted â phosibl? Efallai y byddwch yn anelu at y blaendal lleiaf.
Yn fodlon aros a chynilo mwy? Gallwch gael cytundebau morgeisi gwell yn ddiweddarach.
Pa bynnag lwybr a gymerwch, cofiwch, nid eich blaendal yw'r unig gost. Bydd angen i chi hefyd gyllidebu ar gyfer pethau fel:
- Ffioedd cyfreithiol
- Arolygon
- Costau symud
- Treth stamp
Rydym wedi llunio canllaw defnyddiol yn amlinellu'r costau ychwanegol y dylai prynwyr tro cyntaf gynilo ar eu cyfer.
Gwnewch gynllun gyda'r ap Camau Cartref Cyntaf
Gall hyn y gyd eich llethu, ond does dim rhaid i chi ddatrys y cyfan ar eich pen eich hun.
Mae'r ap Camau Cartref Cyntaf yn dadansoddi costau prynu'ch cartref cyntaf ac yn eich helpu i adeiladu cynllun cynilo sy'n addas ar gyfer eich ffordd o fyw a'ch nodau.
- Cynilo eich blaendal
Gall prynu eich cartref cyntaf deimlo'n llethol
Mae ein ap am ddim wedi ei gynllunio i'ch tywys drwy'r broses o brynu cartref cyntaf. Dilynwch y camau i ddeall y jargon a gwybod beth i'w wneud a phryd i baratoi ar gyfer morgais.