Alex and Tomas at the Fiver Challenge Celebrations

27 April 2023

Principality a Menter yr Ifanc yn cyhoeddi partneriaeth newydd tair blynedd i ddarparu cystadleuaeth fusnes fwy nag erioed i ysgolion cynradd yng Nghymru a Lloegr

Ar draws Cymru a Lloegr, mae mwy o blant ysgol gynradd nag erioed o’r blaen yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn her entrepreneuraidd a fydd yn cyflwyno sgiliau rheoli arian o oedran ifanc.

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality a Menter yr Ifanc wedi ymuno i gyflawni’r fenter Her Pum Punt am dair blynedd arall. 

Mae’r cynllun yn gwahodd myfyrwyr 5-11 oed i greu, ymchwilio a chynllunio busnes gyda dim ond £5.

Mae Principality wedi noddi ac wedi rhoi arian ar gyfer yr Her Pum Punt yng Nghymru ers 2020. Erbyn hyn mae wedi ehangu ei chefnogaeth i’r cynllun ar draws Lloegr, gan ganiatáu i fwy byth o blant ddatblygu eu creadigrwydd, ymwybyddiaeth fasnachol, a sgiliau rheoli arian. 

Mae modd manteisio ar yr her yn Gymraeg a Saesneg gydag adnoddau yn cael eu darparu yn y ddwy iaith. 

Yn ystod y project, sy’n dechrau ym mis Mehefin, bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau pwysig ar gyfer dechrau eu busnesau bach eu hunain, gan gynnwys dylunio logo cwmni, cynnal ymchwil i’r farchnad, a chynllunio eu cynnyrch neu wasanaeth. Yna byddan nhw’n cyflwyno eu cynllun ar ffurf ‘Dragon’s Den’. 

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ennill gwobrau drwy roi cynnig ar gystadlaethau am y logo, y broliant gwerthu a’r prosiect cyffredinol gorau.

Cafodd y bartneriaeth newydd ei chyhoeddi mewn digwyddiad ym mhrif swyddfa Principality yng Nghaerdydd neithiwr. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol oedd enillwyr Her Pum Punt y llynedd, sef Seeder Wood o Ysgol Gynradd St. Andrews.

Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid Principality: ‘‘Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ymuno â Menter yr Ifanc i ddod â’r Her Pum Punt i blant a phobl ifanc ledled Cymru a Lloegr. Rydyn ni’n angerddol dros helpu pobl ifanc i feithrin eu sgiliau bywyd, sy’n cynnwys cefnogi ysgolion sy’n gweithio’n galed gydag addysg ariannol a gweithgareddau sy’n seiliedig ar yrfaoedd. Bydd ein hymrwymiad i’r her hon dros y tair blynedd nesaf yn golygu y gallwn ni barhau i dyfu’r prosiect a’r bartneriaeth hon, a dydyn ni methu aros i weld y canlyniadau.’’

Gall athrawon gofrestru a manteisio ar yr adnoddau er mwyn i’w hysgol gymryd rhan ar wefan Her Pum Punt drwy ymweld â www.fiverchallenge.org.uk

Dywedodd Sharon Davies, Prif Weithredwr Menter yr Ifanc: "Mae’r Her Pum Punt yn parhau i roi cyfle gwych i bobl ifanc gyflwyno a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn parhau gyda nhw am oes. Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn bartner i Principality am dair blynedd i gynnig y rhaglen hon i bobl ifanc ar draws Cymru a Lloegr, gan helpu i gefnogi datblygiad sgiliau bywyd gwerthfawr mewn ffordd ddiddorol a llawn hwyl.’’

Ers 2020, mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi gweithio gyda phartneriaid fel Menter yr Ifanc i gyrraedd dros 30,000 o blant a phobl ifanc gydag addysg ariannol a dysgu yn seiliedig ar yrfaoedd.

Eleni hefyd mae’n 60 mlynedd ers sefydlu Menter yr Ifanc, elusen addysg ariannol a menter genedlaethol sy’n ysgogi pobl ifanc i lwyddo yn y byd gwaith sy’n newid drwy eu harfogi â’r sgiliau gwaith, yr wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt. 

I gael mwy o wybod mwy, ewch i www.principality.co.uk/fiverchallenge.

 

Published: 27/04/2023

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig