Ein Hanes

Dros 150 mlynedd o arbenigedd

Cymdeithas gydfuddiannol, sy’n eiddo ein 500,000 Aelod ac a gaiff ei rhedeg er eu budd

Y 6fed cymdeithas adeiladu fwyaf yn y Deyrnas Unedig

Rhwydwaith o dros 70 o ganghennau ac asiantaethau’r Principality ledled Cymru

1860 to 1899

1860s

Dechrau ein hanes

Show details Hide details

Ym 1860, ar adeg pan roedd poblogaeth Caerdydd, a oedd yn dref farchnad ar y pryd, yn 33,000, sefydlwyd Principality yn Heol yr Eglwys ac fe’i hadnabuwyd fel Cymdeithas Adeiladu Buddsoddi Parhaol y Principality.


Ym 1862, penodwyd Alderman W Sanders yn Ysgrifennydd Rheoli Principality.

1870s

Twf cynnar

Show details Hide details

Ym 1870, ar ôl 10 mlynedd o fod heb gartref parhaol, agorodd Principality ei phencadlys swyddogol cyntaf yn 8 yr Arcêd Frenhinol, Caerdydd. Agorodd Principality yng Nghasnewydd ym 1872 ac agorwyd asiantaeth Principality yng Nglynebwy ym 1873.

Daeth y Ddeddf Cymdeithasau Adeiladu i rym ym 1874, gan roi’r pŵer i gymdeithasau adeiladau fenthyg arian..

Penodwyd Robert Day yn Gadeirydd Principality ym 1876.

1880s

Asedau

Show details Hide details

Sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru ym 1881 ac ym 1883, sefydlwyd Prifysgol Caerdydd.

Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1885.

Agorwyd cyfnewidfa stoc Caerdydd ym 1886 a £355,227 oedd gwerth asedau Principality ar yr adeg hon.

1890s

Y fwyaf o bell ffordd

Show details Hide details

Ym 1894, disgrifiwyd y Gymdeithas gan Gadeirydd Principality ar y pryd, Charles F Saunders, fel y fwyaf o bell ffordd yng Nghymru a gorllewin Lloegr, â chyfanswm asedau o fwy na £300,000 ac incwm blynyddol o £130,000 y flwyddyn. £5000 oedd yr amcangyfrif o werth yr eiddo y meddwyd arno ar y pryd.

1900 to 1929

1900s

Sieciau £1 filiwn

Show details Hide details

Ymunodd Edward Edwards â Bwrdd Cyfarwyddwyr Principality ym 1901.

Gwnaed Caerdydd yn ddinas ym 1905.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1907, agorwyd y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Tybiwyd i siec gyntaf y byd am un filiwn gael ei lofnodi yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd ym 1909.

1910s

Dathaliadau jiwbili

Show details Hide details

Dathlodd Principality ei 50fed jiwbilî ym 1910. Yn ystod ei 50 mlynedd gyntaf, roedd y Gymdeithas wedi darparu benthyciadau o ddwy filiwn, dau gan mil o bunnoedd ac wedi helpu i brynu ac adeiladu tua 15,000 o dai. Adeiladwyd 200 o dai yng Nghefn-y-fan ger Port Talbot yn y cyntaf o’r prosiectau tai cymdeithasol hyn.

Byrhawyd enw’r Gymdeithas i Gymdeithas Adeiladu’r Principality ym 1910. Penodwyd Alderman George Greenland i Fwrdd Principality ym 1912 ac ym 1913, roedd asedau Principality werth mwy na £540,000. Ym 1914, rhannodd mwy na 280,000 o Gymry ffosydd gyda milwyr o bob cwr o Brydain a’r Ymerodraeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Agorwyd pencadlys swyddogol Principality yn ystod yr un flwyddyn – Adeiladau’r Principality, Heol y Frenhines, Caerdydd.

1920s

Asedau gwerth £1 filiwn

Show details Hide details

Tyfodd y galw am dai yn dilyn y rhyfel ac roedd Principality yn ffynnu unwaith eto, gan gyrraedd ei charreg filltir gyntaf o asedau gwerth £1 filiwn ym 1924.

Ganwyd yr actor Richard Burton ym 1925 ac ym 1926, cyflwynodd Principality bolisi o drugaredd yng ngoleuni’r Streic Glo, gan ganiatáu i fenthycwyr penodol gael eu heithrio o 6 mis o ad-daliadau.

Roedd nifer y cerbydau modur yng Nghymru yn fwy na 100,000 am y tro cyntaf ym 1929.

1930 to 1959

1930s

Tua'r gorllewin

Show details Hide details

Agorodd Principality ganghennau yn Abertawe a’r Barri ym 1934 gan ymestyn ei phresenoldeb tua’r gorllewin.

Ym 1935, agorwyd asiantaeth Rhydaman Principality yn 6 Stryd Fawr.

Ganwyd Shirley Bassey ac Anthony Hopkins ym 1937

Sefydlwyd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth ym 1939.

1940s

Sefydlu'r GIG

Show details Hide details

Roedd dynion a menywod Cymru yng nghanol trafferthion yr Ail Ryfel Byd ym 1940.

Sefydlwyd cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ym 1943 a ganwyd Barry John, Gerald Davies a Max Boyce ym 1945. Penodwyd Harry Greenland i Fwrdd Principality ym 1946.

Lluniwyd Deddf Yswiriant Gwladol 1946 gan y Cymry James Griffiths ac Aneurin Bevan, a sefydlodd gwladwriaeth les y DU, a adnabyddir heddiw fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).

1950s

Asedau'n tyfu

Show details Hide details

Penodwyd Alex Saunders yn Rheolwr Cyffredinol Principality ym 1950 ac ym 1952, cyrhaeddodd asedau’r Gymdeithas £3 miliwn.

Bu farw Dylan Thomas ym 1953 a ganwyd Bonnie Tyler.

Dewiswyd Caerdydd yn brifddinas Cymru ym 1955 ac ym 1956, Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf yn y DU i gael ei neilltuo’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Gwnaed y ddraig goch ar gefndir gwyrdd a gwyn yn faner swyddogol Cymru ym 1959.

1960 to 1989

1960s

Dathliadau canmlwyddiant

Show details Hide details

Ym 1960, dathlodd aelodau staff ac asiantau Principality ganmlwyddiant y Gymdeithas yng Ngwesty’r Angel, Caerdydd. Yn ystod yr un flwyddyn, agorodd Principality ei changen yng Nghaer yn 14 Bridge Street ac agorodd Principality gangen yn Llundain ym 1963.

Ar ôl i’r Gymdeithas drosfeddiannu Cymdeithas Adeiladu Maesteg ym 1968, agorodd Principality gangen arall ym Maesteg. Agorwyd cangen Principality ym Mhwllheli yn ystod yr un flwyddyn.

Cyrhaeddodd asedau Principality £33.7 miliwn ym 1969. £9.3 miliwn oedd eu gwerth ar ddechrau’r 60au.

1970s

Canghennau newydd

Show details Hide details

Priodweddwyd y 1970au gan lu o gaffaeliadau. Trosfeddiannwyd Cymdeithasau Adeiladu Aberafan a Chaerfyrddin gan Principality ym 1974. Ym 1977, trosfeddiannwyd Cymdeithas Adeiladu Aberdâr gan Principality. Trosfeddiannwyd Cymdeithas Adeiladu District gan Principality ym 1978, a throsfeddiannwyd Cymdeithas Adeiladu Gorseinon ym 1979.

Agorodd Principality ganghennau ym mhob cwr o Gymru yn y 1970au: Penarth, yr Eglwys Newydd, Port Talbot, Treganna, Caerffili, Castell-nedd, Llanelli, Rhiwbeina, Treorci, Tredelerch, y Fenni, Coed-duon, Abergwaun a Llandeilo, Aberystwyth, Glynebwy, Pont-y-pŵl, Llandaf, Dinbych, Abertyleri a Gorseinon.

1980s

Noddi'r Eisteddfod

Show details Hide details

Cychwynnodd Principality ei nawdd hirdymor o Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1980.

Parhaodd Principality i agor canghennau ym mhob cwr o Gymru: Treforys, Llanisien, Machynlleth, y Mwmbwls, Porthcawl, Llanilltud Fawr, Birchgrove, Llanbedr Pont Steffan a Llandrindod.

Penodwyd John Mitchell yn Brif Weithredwr Principality ym 1986. Ym 1987, caffaelwyd Cwmni Gwerthu Tai Peter Alan a Parkhurst gan Principality a chaffaelwyd y safle ar gyfer prif swyddfa Principality, Tŷ Principality, ym 1989.

1990 to 2009

1990s

£1,000 miliwn o asedau

Show details Hide details

Dathlodd Principality’r ffaith iddi gyrraedd gwerth £1 biliwn o asedau ym 1991 gyda chinio yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ac ym 1992, agorwyd Tŷ Principality ar Heol Tŷ’r Brodyr, Caerdydd gan ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol.

Chwalwyd Parc yr Arfau i wneud lle ar gyfer stadiwm newydd ym 1997 ac agorodd Principality gangen newydd ym Mhontypridd. Agorwyd Stadiwm y Mileniwm Cymru ym 1999 - y stadiwm gyntaf yn y DU a tho y gellir ei agor a’i gau.

2000s

Oes newydd

Show details Hide details

Ffurfiwyd Is-adran Benthyca Masnachol gan Principality yn 2002. Yn ystod yr un flwyddyn, dechreuwyd oes newydd wrth i Peter Griffiths gael ei benodi’n Brif Weithredwr y Grŵp.

Lansiodd Principality ei gwefan yn 2003 a chaffaelwyd y froceriaeth ariannol, Loan Link, a drowyd yn Nemo Personal Finance yn ddiweddarach, gan Principality yn 2004.

Yn 2005, dechreuodd Principality noddi Uwch-gynghrair Cymdeithas Adeiladu Principality Undeb Rygbi Cymru. Symudodd Principality gangen y Fflint i’r Wyddgrug yn 2006, ac agorodd Principality ei 51fed cangen yn natblygiad newydd Dewi Sant yng Nghaerdydd yn 2009.

2010 to 2016

2010s

150 mlwydd oed

Show details Hide details

Dathlodd Principality ei phen-blwydd yn 150 oed yn 2010. Yn ystod yr un flwyddyn, rhoddodd Principality ei chefnogaeth i Only Boys Aloud, y fenter i ddod o hyd i’r genhedlaeth nesaf o gantorion côr meibion o gymoedd y de.

Yn 2011, cymeradwywyd cynlluniau i adeiladu 700 o gartrefi ar safle Hen Felin Trelái yng Nghaerdydd, gan greu tai fforddiadwy o ansawdd a channoedd o swyddi mewn cytundeb a arweiniwyd gan Principality Masnachol a Llywodraeth Cymru.

Penodwyd Greame Yorston (llun) yn Brif Weithredwr yn 2012. Yn ystod yr un flwyddyn, cododd Principality dros £72,000 i’w helusen y flwyddyn, Ymchwil Canser Cymru.

Principality. Lle mae cartref yn bwysig.