Gwasanaethau Trysorlys

Mae tîm Trysorlys Principality yn rheoli hylifedd, cyllid cyfanwerthu ac adnoddau cyfalaf y Grŵp. Mae bod â mynediad at farchnadoedd cyfanwerthu yn galluogi'r Grŵp i sefydlogi amrywiaethau mewn llifoedd cynilo ac yn cymedroli'r ddibyniaeth ar ffynonellau traddodiadol o gyllid.

Cyllid

Codir cyllid cyfanwerthu drwy'r Marchnadoedd Arian Rhyngwladol ac mae cyfnodau aeddfedu yn amrywio o dros nos i bymtheg mlynedd. Mae mynediad at y marchnadoedd drwy amrywiaeth o offerynnau a rhaglenni.

Cliciwch isod am ragor o wybodaeth:

Tymor Byr

  • Adneuon Amser
  • Tystysgrifau Adneuon

Tymor Hir

Cyfalaf

Dylai deiliaid nodau PIBS gyfeirio eu holl ymholiadau i ddesg gwasanaeth clientiaid Equiniti Group plc:

  Tymor byr Adolygiad diwethaf Tymor hir
Fitch F2 BBB+ 25/11/2022
Moodys P-2 Baa1 03/07/2023

Hylifedd

Mae'r hylifedd ar gael i fodloni llifoedd arian parod y Grŵp. Buddsoddir cronfeydd dros ben mewn sawl cyfnod aeddfedu o dros nos i ddeng mlynedd. Buddsoddir mewn amrywiaeth o offerynnau

Cliciwch isod i gael mwy o fanylion:

Tymor Byr

  • Cyfrifon Galw
  • Adneuon Arian Parod
  • Tystysgrifau Adneuo
  • Biliau Trysorlys

Tymor Hir

  • Giltiau
  • Nodion Cyfradd Gyfnewidiol
  • Gwarannau a Gefnogir gan Forgeisi Preswyl
  • Bondiau Uwch-genedlaethol

Ymholiadau Buddsoddi

Gellir cynnig cyfraddau buddsoddi ar symiau o dros £500,000 am gyfnodau yn amrywio o un mis i bum mlynedd. Bydd pob cytundeb ar gyfer aeddfedrwydd penodol.

Cliciwch isod i gael mwy o fanylion:

Manylion Buddsoddi

Isod ceir esiamplau o’r mathau o gwrthbartïon sy’n buddsoddi gyda’r Trysorlys:

  • Awdurdodau Lleol
  • Elusennau Cofrestredig
  • Cymdeithasau Tai
  • Cwmnïau Yswiriant
  • Sefydliadau Ariannol
  • Rheolwyr Cronfeydd

Ni all y Trysorlys dderbyn arian gan unigolyn. Os yw cwsmeriaid unigol yn dymuno agor cyfrif cynilo gyda'r Gymdeithas, cysylltwch â'ch cangen leol, ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid neu wneud cais ar-lein.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar sut i fuddsoddi gyda ni, cysylltwch ag Adran y Trysorlys naill ai drwy e-bost alltreasury@principality.co.uk neu dros y ffôn 02920 773447.

Cod Marchnadoedd Arian y DU

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn arddel egwyddorion Cod Marchnadoedd Arian y DU. Cliciwch ar y ddolen i ddarllen ein Datganiad o Ymrwymiad i God Marchnadoedd Arian y DU.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig