Wales House Price Index

22 April 2024

Prisiau tai yng Nghymru yn parhau i ostwng ar ddechrau 2024

Gostyngodd pris cyfartalog tŷ yng Nghymru i £229,263 yn chwarter cyntaf 2024. Dyma’r pumed chwarter yn olynol lle mae prisiau wedi gostwng yng Nghymru ac mae’n golygu bod pris cyfartalog tŷ bron i £20,000 yn is na’r lefel uchaf o £249,000 a welwyd ar ddiwedd 2022.

Mae’r ffigurau wedi cael eu rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch1 2024 (Ionawr-Mawrth), sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad mewn prisiau tai ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae adroddiad Principality yn dangos bod pris cyfartalog tŷ yng Nghymru wedi gostwng 2.1% ers y chwarter diwethaf ac, erbyn hyn, mae’n 6.5% yn is o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Er bod prisiau nominal yn parhau i fod 23% yn uwch nag yr oeddent bum mlynedd yn ôl, mae hyn yn cyfateb i raddau helaeth â’r cynnydd mewn prisiau defnyddwyr yn ystod y cyfnod, sy’n golygu bod prisiau eiddo mewn termau real wedi dychwelyd i’r hyn a welwyd ar ddechrau 2019.

Dywedodd Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu yn Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae’r duedd ar i lawr mewn prisiau tai wedi parhau am y pumed chwarter yn olynol yng Nghymru. Mae pwysau economaidd, ynghyd â chost uwch morgeisi, yn golygu bod fforddiadwyedd yn parhau i fod yn broblem i lawer o brynwyr, gan osod pwysau diamau ar y farchnad dai yng Nghymru.

“Mae’r darlun ledled Cymru yn dangos bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol wedi adrodd gostyngiad yn hytrach na chynnydd mewn prisiau, sy’n golygu bod gostyngiad arall wedi bod mewn prisiau tai o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.”

O gymharu â’r flwyddyn flaenorol, dim ond pedwar o’r 22 o awdurdodau lleol adroddodd fod prisiau eiddo yn cynyddu. Er bod y rhan fwyaf o’r cynnydd hwn yn nominal, gwelwyd sefyllfa wahanol yn Sir y Fflint lle adroddwyd bod cynnydd digid dwbl o 12%.

Gwelodd pum awdurdod lleol – Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Powys a Bro Morgannwg – ostyngiad digid dwbl mewn prisiau o rhwng 10% ac 16% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, gyda’r gostyngiad mwyaf o 15.7% ym Mro Morgannwg.

Cafwyd ychydig o dan 8,400 o drafodiadau yng Nghymru yn ystod chwarter cyntaf 2024 – 15% yn llai nag yn ystod chwarter olaf 2023. Caiff y duedd hon ar i lawr ei hadlewyrchu ar draws gweddill y DU, gyda’r pwysau economaidd ehangach sy’n wynebu’r farchnad dai yn fwrn mawr ar lefelau gweithgarwch a galw yn ystod y chwarter. Yng Nghymru, mae trafodiadau gwerthiannau chwarterol wedi gostwng yn barhaus o flwyddyn i flwyddyn ers diwedd 2021.

Er bod llai o werthiannau o hyd o ran pob math o eiddo, eiddo sengl sydd bellaf o’i lefel uchaf mewn termau cymharol erbyn hyn, gan ddangos gostyngiad yn y galw am eiddo mwy o faint, yn ogystal â phrisiau eiddo o’r fath.

Ychwanegodd Shaun: “Er gwaethaf yr hyn sydd wedi nodi yr amodau marchnad dai mwyaf heriol ers yr Argyfwng Ariannol Byd-eang yn 2008, mae'r newyddion diweddaraf bod chwyddiant yn parhau i ostwng - er ei fod yn arafach na'r disgwyl - yn awgrymu y gallai'r farchnad dai yng Nghymru weld mwy o arwyddion cadarnhaol cyn bo hir. Mae llawer o ddadansoddwyr economaidd hefyd o’r farn bod cyfradd sylfaenol Banc Lloegr wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 5.25 ac y bydd y gyfradd honno’n gostwng eleni. Mae’r dybiaeth hon yn arwain at gynigion morgeisi gwell ac yn golygu bod tai yn fwy fforddiadwy.

“Rydym yn gweld cynnydd yn hyder defnyddwyr a thwf mewn cyflogau hefyd wrth i’r galw cronedig am dai gynyddu. Wrth edrych ymlaen, mae’n ddigon posibl y bydd Llywodraeth y DU yn cynnal digwyddiad cyllidol arall ond, yn sicr, mae yna Etholiad Cyffredinol ar y gorwel a Llywodraeth newydd yng Nghymru sydd â mandad i fynd i’r afael â thai fforddiadwy. Mae hyn, ynghyd â’n dealltwriaeth ni, yn awgrymu y gallai’r chwarter hwn weld prisiau tai yng Nghymru yn cyrraedd eu pwynt isaf, ac rydym yn disgwyl iddynt gynyddu wrth i dai ddod yn fwy fforddiadwy.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/House-Price-Index.

Published: 22/04/2024

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig