Ein Cynnig Cymraeg
Fel Cymdeithas Adeiladu yng Nghymru, rydym yn falch o’n treftadaeth, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, a dyna pam yr ydym eisiau sicrhau bod ein Haelodau, cwsmeriaid a chydweithwyr yn gallu siarad â ni yn Gymraeg, yn ogystal â manteisio i’r eithaf ar ein gwasanaethau dwyieithog eraill.
Rydym yn falch iawn o fod wedi ein cydnabod gyda gwobr Cynnig Cymraeg gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, fel rhan o’r gydnabyddiaeth am bopeth yr ydym yn ei wneud i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg. Rydym yn ymfalchïo yn y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith ac yn parhau i weithio ar ddarparu amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau Cymraeg i’n Haelodau.
Gwasanaethau Cymraeg
Mae rhai o’r gwasanaethau Cymraeg yr ydym yn eu cynnig yn cynnwys:
- opsiwn i dderbyn eich gohebiaeth yn Gymraeg, pan allwn gwneud hyn
- gallu siarad ag un o’n cydweithwyr yn Gymraeg dros y ffôn
- opsiwn i weld fersiwn Gymraeg ein gwefan
- arwyddion dwyieithog mewn canghennau a chyfleusterau peiriannau ATM
- addysg ariannol ddwyieithog i bobl ifanc gan gynnwys ein gwefan www.sgwadsafiodylan.cymru ac Ap Cuddfan Dylan
Gallwch ddysgu mwy am ein Polisi Iaith Gymraeg
Rydym yma i helpu
Os hoffech wybod mwy am ein hymrwymiad i’r Gymraeg neu os hoffech dderbyn gohebiaeth Gymraeg, cysylltwch â ni.