Skip to content

Chwilio'r Safle Principality
ISAs - Surfer with thumbs up

ISAs

Mae’n hystod gystadleuol o Gyfrifon Cynilo Unigol (‘Individual Savings Accounts’ – ISAs) yn eich helpu chi dyfu’ch cynilion yn ddi-dreth ac yn gwneud y gorau o’ch lwfans ISA blynyddol (£5,640 ar hyn o bryd).

P’un ai ydych chi eisiau mynediad hawdd at eich arian neu rydych chi’n chwilio am fuddsoddiad mwy hir dymor, mae gennym yr ISA sy’n addas i chi. Maen nhw’n hawdd a chyflym i’w hagor hefyd – gallwch wneud cais ar-lein os mynnoch.

Cyfrifiannell cynilion

Faint o amser fydd hi'n gymryd i gynilo?
Faint dylwn i gynilo bob mis?
Cyfrifiannell Cynilo

Rydych chi yma:

> > ISAs

ISAs

Gros* AER† Yn cynnwys bonws Isafswm i agor Hysbysiad tynnu Mwy o fanylion
ISA Cyfradd Sefydlog am 5 Flynedd Rhifyn 92 3.75% 3.75% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Gyda ISA Arian Parod o'r Principality nid oes rhaid i chi dalu treth ar eich llog ac fe allwch chi gadw mwy o'ch cynilion ar gyfer chi'ch hun.

  • Cyfradd llog sefydlog am 5 flynedd
  • Caniateir trosglwyddo arian ISAs blaenorol i mewn
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a chaiff ei dalu'n flynyddol ar ben-blwydd agor eich ISA
  • Isafswm buddsoddiad £500, uchafswm buddsoddiad £5,640 - ble rydych yn buddsoddi lwfans 2012/2013 eich ISA
  • Ceir cau'r cyfrif neu'i drosglwyddo i ddarparwr ISA cymeradwy arall ond collir 360 diwrnod o log
  • Ni chaniateir codi arian cyn Aeddfedrwydd
Cyfrif ISA Arian Parod Cyfradd Sefydlog 18 Mis Rhif 90 3.25% 3.22% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Nid oes rhaid i chi dalu treth ar eich llog gydag ISA Arian Parod Principality, a gallwch gadw mwy o’ch cynilion i’ch hun.

  • Cyfradd sefydlog am 2 flynedd
  • Ceir trosglwyddo cyfraniadau ISA blynyddoedd blaenorol i mewn
  • Caiff llog ei gyfrifo’n feunyddiol a’i dalu’n flynyddol, union flwyddyn ar ôl agor eich ISA
  • Isafswm buddsoddi o £500, uchafswm buddsoddi o £5,640 – lle’r ydych yn buddsoddi eich lwfans ISA ar gyfer 2012/2013
  • Gellir cau’r cyfrif yn gynnar neu drosglwyddo i ddarparwr ISA cymeradwy arall yn amodol ar golli gwerth 180 diwrnod o log
  • Ni cheir codi arian cyn i’r cyfrif Aeddfedu
ISA Cyfradd Sefydlog am Flwyddyn Rhifyn 89 3.00% 3.00% N/A £500 Ni chaniateir hyn Mwy am y cynnyrch hwn

Gyda ISA Arian Parod o'r Principality nid oes rhaid i chi dalu treth ar eich llog ac fe allwch chi gadw mwy o'ch cynilion ar gyfer chi'ch hun.

  • Cyfradd llog sefydlog am 1 flwyddyn
  • Ni chaniateir trosglwyddo arian ISAs blaenorol i mewn
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a chaiff ei dalu'n flynyddol ar ben-blwydd agor eich ISA
  • Isafswm buddsoddiad £500, uchafswm buddsoddiad £5,640
  • Ceir cau'r cyfrif neu'i drosglwyddo i ddarparwr ISA cymeradwy arall ond collir 90 diwrnod o log
  • Ni chaniateir codi arian cyn Aeddfedrwydd
e-ISA Rhifyn 3 3.10% 3.10% 1.30% £1 Dim Mwy am y cynnyrch hwn

Mae ein cyfrif e-ISA arian parod cyfradd amrywiol yn hawdd ac yn ddiogel i'w ddefnyddio ac fe allwch arbed cyn lleied â £1.  Fe allwch chi hefyd drosglwyddo arian eich ISA ar gyfer eleni.

  • Mae'r gyfradd yn cynnwys cyfradd bonws di-dreth diamod o 1.30% y'i telir am flwyddyn ar ô l agor eich ISA.
  • Cyfradd llog amrywiol.
  • Buddsoddwch hyd at £5,640 yn y flwyddyn dreth hon.
  • Edrychwch ar ein cyfriflenni a gwneud adneuon neu godi arian ar-lein.
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol a chaiff ei dalu i mewn i'ch cyfrif e-ISA bob blwyddyn ar y 6ed o Ebrill.
ISA Addewid 2.60% 2.60% 0.80% £500 30 diwrnod Mwy am y cynnyrch hwn

Mae ein ISA Addewid yn rhoi'r cyfle i chi ennill bonws di-dreth bob blwyddyn ac mae'n rhoi adenillion gwych i chi ar eich arian. Fe allwch chi hefyd drosglwyddo'ch ISAs blaenorol i'r cyfrif hwn.

  • Cyfradd llog craidd cystadleuol o 1.80% di-dreth/AER** bob blwyddyn.
  • Bonws diamod o 0.80% yn y flwyddyn gyntaf gyda chodi arian diderfyn
  • Ar ôl blwyddyn un, bonws o 0.50% a delir yn flynyddol, cyn belled nag ydych yn codi arian mwy na 2 waith bob blwyddyn.
  • Cyfradd llog amrywiol.
  • Caniateir cau'r cyfrif a chodi arian gyda 30 diwrnod o rybudd neu golli 30 diwrnod o log gros.
  • Cyfrifir llog yn ddyddiol ac fe allwch ddewis i gael eich llog yn fisol neu'n flynyddol.
ISA Cyfradd Amrywiol 0.60% 0.60% N/A £1 Dim Mwy am y cynnyrch hwn

Gyda ISA Arian Parod y Principality does dim rhaid i chi dalu treth ar eich llog ac fe allwch chi gadw mwy o'ch cynilion i chi'ch hun.

  • Cyfradd llog amrywiol
  • Isafswm buddsoddiad o £1
  • Buddsoddwch hyd at £5,640 yn y flwyddyn ISA hon
  • Mynediad at eich arian yn syth
  • Telir llog yn flynyddol ar y 6ed o Ebrill

* Gros yw’r gyfradd llog gontractol sy’n daladwy cyn tynnu treth incwm yn ôl y gyfradd a ddynodir gan y gyfraith.

† Saif AER dros Annual Equivalent Rate (Cyfradd Gyfwerth Flynyddol) ac mae’n dangos yr hyn fyddai’r gyfradd llog os byddai’r llog ar gynilion yn cael eu talu a’u hadio at y cynilion ar ddiwedd bob blwyddyn.

^ Mae di-dreth yn golygu fod y llog a enillwch wedi ei eithrio o Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae triniaeth dreth ffafriol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a gall newid yn y dyfodol.

Cynhyrchion wedi'u gweld yn flaenorol:

 

I’n helpu ni gynnal ein safonau gwasanaeth a diogelwch, gall galwadau ff ôn gael eu monitro neu eu recordio. Gall eich manylion personol gael eu defnyddio er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â’ch cais.

Caiff Cymdeithas Adeiladu'r Principality ei hawdurdodi a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (Rhif Awdurdod 155998). Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau’r Principality, Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.

Principality Building Society is authorised and regulated by the Financial Services Authority (Authorisation No. 155998). Principality Building Society, Principality Buildings, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.