Wales House Price Index

15 October 2019

Cymru’n gwrthsefyll y duedd wrth i bris cyfartalog tai gyrraedd uchafbwynt newydd

Mae Cymru’n parhau i wrthsefyll y duedd a welwyd ledled Lloegr wrth i bris cyfartalog tai yng Nghymru gyrraedd ei uchaf erioed, sef £191,006, yn ystod y tri mis diwethaf (Gorffennaf – Medi).

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau gan Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu’r Principality ar gyfer trydydd chwarter 2019, sy’n dangos y cynyddu a gostwng a fu mewn prisiau tai ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae prisiau tai wedi codi yng Nghymru ychydig dros 2% yn chwarterol ac yn flynyddol, ond mae pris cyfartalog tai yn parhau i fod rhyw 40% yn llai nag yn Lloegr, lle’r pris cyfartalog yw £305,000.

Gwelwyd prisiau’n cyrraedd uchafbwynt newydd mewn chwe awdurdod lleol yn ystod chwarter 3 – Pen-y-bont ar Ogwr (£175,144), Sir Gaerfyrddin (£166,769), Caerdydd (£239,788), Casnewydd (£202,947), Sir Benfro (£207,561) a Bro Morgannwg (£277,735).

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Cyllid Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Mae prynwyr tro cyntaf, tai gwyliau i’w gosod a phobl nad yw’n ymddangos fel petaent yn caniatáu i gysgod Brexit eu hatal yn golygu bod prisiau cyfartalog tai yng Nghymru yn parhau i wrthsefyll y duedd a welwyd mewn rhanbarthau ledled Lloegr. Ymddengys hefyd fod pobl sy’n symud tŷ yn parhau i brynu eiddo â gwerth uwch ac y gwerthwyd mwy o dai ar y cyfan nag yn yr un chwarter yn 2018. 

“Mae’r twf mewn prisiau cyfartalog tai wedi’i ategu gan gyfraddau llog hanesyddol isel, prinder cyflenwad tai a chyflogaeth gymharol uchel. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd y cynnydd hwn yn parhau am weddill y flwyddyn wrth i’r trafodaethau ynglŷn â Brexit gyrraedd cam tyngedfennol.”

Mae ffigurau o’r Principality hefyd yn dangos bod prisiau tai wedi cynyddu mewn ardaloedd arfordirol sy’n gysylltiedig â thai haf i’w gosod a thai gwyliau. Er enghraifft, ar hyn o bryd y gyfradd dwf flynyddol yn Sir Benfro yw 9.6% – y gyfradd dwf uchaf ond un yng Nghymru. Yn yr un modd, mae gan Gonwy gyfradd dwf o 7.1% – y pedwerydd uchaf yng Nghymru – gydag Abergele, Llandudno a Bae Colwyn ar yr arfordir yn boblogaidd iawn o ran eiddo.

O gymharu gwerthiant tai chwarter 3 2019 â ffigurau chwarter 3 2018, cynyddodd nifer y gwerthiannau 5.6% yng Nghymru. O gymharu Ch3 2019 â Ch3 2018, gwelir bod y cynnydd mwyaf mewn gwerthiant i’w briodoli i dai teras, lle bu cynnydd o 13.5% yn ystod y flwyddyn, ac yna tai pâr, lle bu cynnydd o 8%. Gwerthwyd 0.4% yn fwy o dai ar wahân yn ystod y flwyddyn, tra bod gwerthiant fflatiau wedi gostwng 15%.

I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau ym mhrisiau tai yng Nghymru ewch i: https://www.principality.co.uk/cy/mortgages/House-Price-Index

Published: 15/10/2019

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig
  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.