Camau Cartref Cyntaf
Eich helpu chi bob cam o’r ffordd
Mae prynu eich lle eich hun am y tro cyntaf yn gyffrous ond mae llawer i’w drefnu. Cynilo, penderfynu ble i fyw, gweithio allan a ydych chi’n gallu ei fforddio, a sut i gael morgais arno. Gall y cyfan ymddangos yn eithaf brawychus.
Y newyddion da yw nad oes angen i chi wneud y cyfan ar eich pen eich hun. Yn Principality, rydym ni yma i’ch helpu bob cam o’r ffordd gyda’n cyfrif Camau Cartref Cyntaf, erthyglau a chanllawiau defnyddiol, ac ap, i’ch tywys drwy’r broses.