Hygyrchedd
Rydym yn ymroi i sicrhau bod ein gwefan ar gael i gymaint o bobl â phosibl.
Lluniwyd y tudalennau i gydymffurfio â safonau hygyrchedd WCAG 2.0 AA
I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd y we, cyfeiriwch at Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, (WCAG), Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) Menter Hygyrchedd y We (WAI).
Mae rhai o’r mesurau yr ydym wedi eu cymryd i sicrhau bod ein safle yn hygyrch yn cynnwys:
Arwyddnodi Strwythurol
Crëir y wefan gan ddefnyddio HTML a Dalennau Diwyg Rhaeadrol (CSS). Pan na chymhwysir CSS i ddogfen (neu pan ddefnyddir darllenydd sgrin), mae strwythur y wefan wedi’i llunio i sicrhau ei bod yn dal i lifo a gwneud synnwyr.
Arwyddnodi Semantig
Defnyddir arwyddnodi semantig (HTML) i ychwanegu ystyr ymhlyg i’r tudalennau, drwy ddefnyddio’r nodiant cywir ar gyfer y set o wybodaeth briodol. Er enghraifft, defnyddir tagiau penawdau i ddynodi penawdau tudalen, tagiau paragraff ar gyfer paragraffau a dyfyniadau a thagiau dyfynnu ar gyfer cyfeirnodi siaradwyr ac awduron.
Maint Testun
Dim ond meintiau ffont cymharol y mae’r wefan yn eu defnyddio, rhai sy’n gydnaws â’r opsiwn “maint testun” penodol i ddefnyddiwr mewn porwyr gweledol. Lle mae testun wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio graffeg neu Flash, mae fersiwn heb graffeg ar gael hefyd.
Javascript
Mae rhannau arbennig o wefannau yn gallu defnyddio Javascript i ychwanegu ymarferoldeb a gwella profiad y defnyddiwr. Pan fo Javascript wedi ei analluogi neu ddim ar gael, darperir fersiwn o’r cynnwys sydd ag ymarferoldeb cyfwerth.
Delweddau
Darperir testun amgen pan fo’r graffeg yn cynnwys testun, pan fo gan y ddelwedd ddisgrifiad cyd-destunol o werth neu pan ellir cyflwyno gwybodaeth arall.
Dolenni
Mae dolenni o fewn y tudalennau wedi’u hysgrifennu mewn ffordd a ddylai sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr hyd yn oed os ydyn nhw allan o’r cyd-destun.
Cyferbynnedd lliw
Cynlluniwyd y wefan mewn ffordd a ddylai sicrhau cyferbynnedd lliw digonol
Er bod Cymdeithas Adeiladu Principality yn ymdrechu i lynu wrth y canllawiau a’r safonau a dderbynnir ar gyfer hygyrchedd a defnyddioldeb, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hyn ymhob rhan o’r wefan neu mewn gwefan trydydd parti a fyddwn efallai yn cysylltu â hi.