Ein Bwrdd
Swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Bwrdd
Y Bwrdd o Gyfarwyddwyr yw'r corff goruchwylio cyffredinol dros Gymdeithas Adeiladu Principality. Y Bwrdd sy'n gyfrifol am stiwardiaeth gyffredinol y Gymdeithas (gan gynnwys yr is-gwmnïau) i sicrhau ei llwyddiant hirdymor.
Mae prif swyddogaethau'r Bwrdd yn cynnwys
- Pennu strategaeth a monitro perfformiad;
- Penderfynu ar Ddiben cyffredinol y Gymdeithas;
- Pennu cyllideb flynyddol a chynllun tymor canolig a chymeradwyo lefelau gwariant cyfalaf;
- Sicrhau y caiff y Gymdeithas ei rheoli er budd hirdymor gorau ei Haelodau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
- Penderfynu ar barodrwydd cyffredinol y Gymdeithas i gymryd risg;
- Pennu polisi cydnabyddiaeth ariannol y Gymdeithas;
- Sicrhau bod diwylliant priodol ar waith (gan gynnwys gosod “tôn briodol o'r uwch-swyddogion i lawr”);
- Goruchwylio'r trefniadau llywodraethu.
Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Materion a Gedwir ar gyfer y Bwrdd a Polisi Cyfansoddiad y Bwrdd.
Cwrdd â'r Bwrdd
Mae Principality wedi datblygu Bwrdd cryf gydag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad. Mae'r wybodaeth a'r arbenigedd hyn yn galluogi'r Bwrdd i adeiladu ar seiliau cadarn Principality.
Mae manylion ein cyfarwyddwyr isod:
Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2021. Cadeirydd Pwyllgor Risg y Bwrdd. Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Uwch Gyfarwyddwyr Annibynnol.
Sgiliau a phrofiad
Mae gen i 30 mlynedd o brofiad ym maes bancio domestig a rhyngwladol mewn sefydliadau byd-enwog gan gynnwys Lloyds Banking Group, Barclays Bank plc a GE Capital. Roeddwn i’n Gyfarwyddwr Anweithredol TransUnion UK a Vanquis Bank.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Mae fy mhrofiad mewn sectorau cyllid manwerthu, busnes, cyfoeth ac asedau, ac mewn swyddogaethau arwain risg yn fy ngalluogi i oruchwylio risgiau presennol a rhai sy’n dod i’r amlwg a fydd yn sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy i’w Haelodau.
Swyddogaethau eraill
Cyfarwyddwr Anweithredol Lendable Limited ac FCE Bank Plc (yn masnachu dan yr enw Ford Credit).
Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Medi 2019. Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol. Aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau a’r Pwyllgor Archwilio.
Sgiliau a phrofiad
Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi bod ag amrywiol swyddi Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol ac wedi gweithio fel ymgynghorydd gyda chwmnïau yn y DU, Ewrop ac UDA. Mae fy mhrofiad blaenorol yn cynnwys pum mlynedd yng Nghymdeithas Adeiladu Britannia, yn ogystal ag uwch swyddi gyda Tesco Compare a Confused.com.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Bydd fy mhrofiad ym meysydd technoleg ariannol/e-fasnach yn fy ngalluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at weddnewidiad digidol parhaus y Gymdeithas, a fydd yn cefnogi parhau i gyflawni profiad rhagorol i’n Haelodau.
Swyddogaethau eraill
Rwy’n Gyfarwyddwr Anweithredol Yswiriant Co-Op, yn Gyfarwyddwr Anweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Rwy’n Ymddiriedolwr yr Alacrity Foundation. Rwy’n Gadeirydd GCRE Ltd ac yn Gyfarwyddwr Awen Consulting Services Ltd. Rwyf hefyd yn llysgennad balch i Tŷ Hafan.
Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Ebrill 2018. Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio. Aelod o Bwyllgor Risg y Bwrdd, y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol a’r Pwyllgor Enwebiadau.
Sgiliau a phrofiad
Rwy’n gyfrifydd cymwysedig (ACA) ac mae gen i MA mewn Ieithoedd ac Economeg. Hyfforddais a chymhwysais gydag Ernst & Young yn adran archwilio y Gwasanaethau Ariannol, ac ar ôl hynny treuliais dair blynedd arall ym maes treth gorfforaeth. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi cyflawni amrywiaeth eang o swyddogaethau mewn amryw o sectorau, gan gynnwys cyfnod o chwe blynedd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Adeiladu West Bromwich.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Mae fy mhrofiad ar draws gwahanol sectorau gwasanaethau ariannol, taliadau, gwasanaethau proffesiynol, amlgyfrwng a thelegyfathrebu, yn fy ngalluogi i gyfrannu at raglen newid y Gymdeithas a llwyddiant parhaus y Gymdeithas.
Swyddogaethau eraill
Cyfarwyddwr Anweithredol Glendrake Limited.
Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Mai 2016.
Sgiliau a phrofiad
Cefais fy mhenodi’n Brif Swyddog Gweithredol yn 2020, a chyn hynny roeddwn wedi bod yn Gyfarwyddwr Cwsmeriaid y Gymdeithas ers 2012. Cyn ymuno â Principality, roeddwn i’n uwch reolwr gwerthu, marchnata a thechnoleg i gwmnïau fel Sainsbury’s a HBOS. Mae gweithio’n agos gyda chwsmeriaid wedi bod yn rhan hanfodol o fy ngwaith erioed.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Rwy’n angerddol ynghylch y Gymdeithas, ac yn sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein hethos a’n gwerthoedd cydfuddiannol o fod wedi ein gwreiddio yn ein cymunedau, a rhoi profiad cwsmeriaid rhagorol ac o ran diwallu eich anghenion. Fy nghyfrifoldeb i yw arwain y Tîm Gweithredol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni strategaeth y Gymdeithas ar gyfer buddiannau hirdymor ein Haelodau a sicrhau bod y sefydliad yn rhedeg yn ddidrafferth o ddydd i ddydd, gan gynorthwyo cydweithwyr a datblygu diwylliant cynhwysol a dymunol.
Swyddogaethau eraill
Rwy’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Strategol Haen Ganol UK Finance, o Fwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol Ysgol Fusnes Caerdydd, yn Ymddiriedolwr Canolfan Mileniwm Cymru ac yn Ddirprwy Gadeirydd Cymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu.
Ymunais â'r Bwrdd ym mis Ionawr 2024, cefais fy ethol yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2024. Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Aelod o'r Pwyllgor Taliadau.
Sgiliau a phrofiad
Mae gen i dros 30 mlynedd o weithio yn y sector ariannol i Lloyds Banking Group, Chase Manhattan Bank, ABN AMRO a Barclays Bank, gan gynnwys bod yn Rheolwr-gyfarwyddwr i Barclays Commercial Wales and the South West. Rwy’n gwasanaethu fel cadeirydd sefydliad cydfuddiannol arweiniol arall, LV=, cwmni sicrwydd bywyd y DU, ac yn gwasanaethu ar nifer o fyrddau eraill hefyd.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Rwy'n gyfrifol am arwain gwaith y Bwrdd, sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu'n effeithiol wrth osod y strategaeth, goruchwylio'r perfformiad, a gosod parodrwydd i gymryd risg y Gymdeithas. Rwyf hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau olyniaeth cadarn ar waith, bod y Gymdeithas yn cynnal y safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol a bod gennym ddiwylliant agored a thryloyw.
Bydd fy mhrofiad fel cadeirydd bwrdd cwmni cyhoeddus, preifat a chydfuddiannol a fy ngyrfa yn y sector ariannol, gyda sylfaen mewn rheoleiddio, llywodraethu, risg, cydymffurfio, perfformiad ariannol, gwasanaeth cwsmeriaid, cydnabyddiaeth weithredol a pherthynas ag aelodau, yn rhoi'r oruchwyliaeth sydd ei hangen arnaf fel aelod o'r bwrdd ac i gyfrannu at lwyddiant parhaus y Gymdeithas.
Swyddogaethau eraill
Ynghyd â bod yn gadeirydd Liverpool Victoria Financial Services Limited, rwyf hefyd yn cadeirio W.H. Ireland Group PLC.
Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2019.
Sgiliau a phrofiad
Cefais fy mhenodi’n Brif Swyddog Cyllid y Gymdeithas ym mis Gorffennaf 2022. Mae fy nghylch gwaith yn ymestyn ar draws meysydd Masnachol, Nemo, Pensaernïaeth, Strategaeth, Eiddo Corfforaethol ac Ystadau. Yn wreiddiol, ymunais â’r Gymdeithas ym mis Ionawr 2015 fel Cyfarwyddwr Cyllid Nemo (sef is-gwmni benthyciadau ail arwystl Principality) cyn dod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Nemo. Cyn fy rôl bresennol, cefais fy mhenodi’n Brif Swyddog Gweithredu ym mis Hydref 2017 ac ymunais â’r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2019. Rwy'n Gyfrifydd Siartredig gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad ym maes bancio manwerthu a busnesau newydd a busnesau gwasanaethau ariannol sy'n eiddo i ecwiti preifat yn y DU.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Fy swyddogaeth i yw sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn rheoli cyfalaf, hylifedd a chyllid y Gymdeithas er budd hirdymor ein Haelodau a chynaliadwyedd y Gymdeithas.
Ymunodd â'r Bwrdd ym mis Mai 2023. Aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol, Pwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Sgiliau a phrofiad
Rwyf wedi bod wrthi’n adeiladu a rhedeg busnesau, unedau hybu, polisi arloesi, rheoli cronfeydd, a chyfalaf menter ers dros 20 mlynedd ar draws yr Unol Daleithiau, Ewrop, a’r Dwyrain Canol, ac rwyf hefyd yn Angel Buddsoddi cynhyrchiol a gweithgar ar draws y tiriogaethau hynny yn fy rhinwedd fy hun. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi adeiladu a rheoli buddsoddiadau a phortffolios sylweddol ac wedi gwasanaethu gyda rhai o gwmnïau Ecwiti Preifat mwyaf blaenllaw Ewrop gyda buddsoddiadau mewn dros 50 o gwmnïau.
Cyfraniad at lwyddiant cynaliadwy hirdymor y Gymdeithas
Rwy'n brofiadol iawn ym maes uno a chaffael, codi arian, cynigion cychwynnol cyhoeddus ac ymadawiadau. Mae gen i brofiad helaeth ar fyrddau (o gwmnïau rhestredig i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd) ac rwy’n gwasanaethu ar dri bwrdd mewn swyddogaeth anweithredol ar hyn o bryd. Rwy’n enwog yn fyd-eang fel arbenigwr ar bolisi arloesi ac unedau hybu, ac ar lywodraethu corfforaethol, ac rwy’n darparu gwasanaethau ymgynghori yn y maes hwn i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau’r llywodraeth ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Rwyf hefyd yn uchel fy mharch ym maes gwerthusiadau ac asesiadau'r bwrdd, ac rwy'n gweithio gyda sefydliadau, swyddfeydd teuluol, ac arian i ddylunio, adeiladu ac ysgogi byrddau i ddod yn effeithiol yn eu hamcanion.
Swyddogaethau eraill
Rwyf ar fyrddau'r Bathdy Brenhinol Cyfyngedig a Carousel Solutions. Rwyf hefyd ar fyrddau cynghori ar gyfer y North East Fund (NEF), Miratech Limited a HaysMckintrye ac yn aelod gweithgar o’r Young Presidents’ Association (YPO), ac yn gwasanaethu ar Bwyllgor Siapter ar hyn o bryd.
Pwyllgorau'r Bwrdd
Mae'r Bwrdd yn cwrdd yn rheolaidd ac yn gweithredu drwy ei chwech pwyllgor:
- Pwyllgor Archwilio
Mae'r Pwyllgor Archwilio yn cynorthwyo'r Bwrdd i gyflawni ei gyfrifoldebau goruchwylio yn ymwneud ag adrodd ariannol; systemau rheoli risg a rheoli mewnol; atal twyll, osgoi trethi, llwgrwobrwyo a llygredd; archwilio mewnol ac archwilio allanol. - Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau
Arwain y broses benodiadau ar gyfer y Bwrdd a gwneud argymhellion i'r Bwrdd. - Pwyllgor Risg y Bwrdd
Swyddogaeth Pwyllgor Risg y Bwrdd yw sicrhau y ceir dull cydgysylltiedig o oruchwylio a rheoli risgiau strategol allweddol a chorfforaethol.
- Pwyllgor Cydnabyddiaeth
Cyfrifoldeb dros oruchwylio datblygiad a gweithrediad polisîau ac arferion cydnabyddiaeth ariannol y Gymdeithas. - Is-bwyllgor y Bwrdd dros Gymeradwyaeth Fasnachol
Swyddogaeth Is-bwyllgor dros Gymeradwyaeth Fasnachol y Bwrdd yw cymeradwyo Ceisiadau Masnachol yn unol â pholisi benthyca masnachol sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd. - Pwyllgor Cydnabyddiaeth Anweithredol
Swyddogaeth y Pwyllgor yw pennu ac adolygu ffioedd y Cyfarwyddwyr Anweithredol gan sicrhau eu bod yn briodol i ddenu unigolion o ansawdd uchel i'r Gymdeithas a'u cadw.
Siarter Archwilio Mewnol
Diben Archwilio Mewnol yw rhoi barn annibynnol a diduedd ar ddigonolrwydd a swyddogaethau'r system reolaeth fewnol ar gyfer y Gymdeithas.
Mae'r siarter hwn yn diffinio'n ffurfiol diben y swyddogaeth Archwilio Mewnol o fewn Cymdeithas Adeiladu Principality yn ogystal â'i awdurdod, cwmpas a'i gyfrifoldeb.
Mae'n tanlinellu pwysigrwydd annibyniaeth a gwrthrychedd Archwilio Mewnol ac yn disgrifio sut mae'r swyddogaeth Archwilio Mewnol yn rhyngweithio â'r busnes a gyda Phwyllgor Archwilio'r Bwrdd.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen Siarter Archwilio Mewnol Cymdeithas Adeiladu Principality.