
Mae'n gysur i wybod bod eich anwyliaid wedi'u diogelu
Principality Life Insurance and Protection Plans provided and underwritten by
Legal & General
Helpwch i ddiogelu eich anwyliaid:
✔ Mae premiymau yn dechrau am £6 yn unig
✔ Mae cyfandaliad yn daladwy
✔ Yswiriant Bywyd Morgais
✔ Yswiriant Salwch Difrifol Dewisol
✔ Budd Diogelu Incwm
- Darlun Cyffredinol
- Hawlio
Mae bywyd yn llawn ansicrwydd, felly rydym yn cynnig cynlluniau yswiriant bywyd i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer yr anhysbys. Legal & General, un o yswirwyr blaenllaw y DU sy’n ei warantu a gallai roi cyfandaliad i’ch anwyliaid petai'r gwaethaf yn digwydd.
Gall Legal & General gynnig y lefel o sicrwydd sy'n iawn i chi, gan gynnwys:
- Yswiriant bywyd morgais, sydd wedi ei gynllunio i helpu i dalu eich morgais os byddwch yn marw yn ystod cyfnod y polisi.
- Yswiriant salwch difrifol, y gellir ei ychwanegu at bolisïau yswiriant bywyd Legal & General am gost ychwanegol ar y cychwyn. Gallai dalu cyfandaliad os cewch ddiagnosis o Salwch Critigol a bennir.
- Diogelu incwm, sydd wedi ei gynllunio i dalu swm misol os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anaf sy'n arwain at golli enillion.
Cymorth i ddarparu ar gyfer dyfodol eich teulu yn ariannol.
Nid cynhyrchion cynilo neu fuddsoddi yw’r rhain ac nid oes ganddynt werth sy’n cyfateb i arian parod oni wneir hawliad dilys.
Os bydd angen i chi wneud hawliad, mae Legal & General yn deall y bydd hwn yn gyfnod anodd i chi.
Gallwn eich sicrhau y caiff pob hawliad ei drin yn unigol ac yn bersonol. Ar ôl eich galwad cyntaf, un person fydd yn gyfrifol am reoli eich hawliad o'r dechrau hyd at y diwedd. Bydd hwnnw’n egluro'r broses ichi yn fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hyn y mae angen i chi ei wneud yn awr i wneud hawliad, ffoniwch Legal & General ar 0800 137 101. Gall galwadau gael eu recordio a’u monitro.
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 150 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £10 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gwobrau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.