Eiddo Hanesyddol ar Stryd Fawr Dinbych-y-pysgod
Mae Principality Masnachol wedi darparu cyfleuster newydd gwerth £700,000 i Alcann Limited i gynorthwyo gyda buddsoddiad hirdymor a phrynu eiddo hanesyddol yng nghanol Dinbych-y-pysgod.
Rydym wedi darparu atebion ariannu wedi'u teilwra i amrywiaeth eang o brosiectau buddsoddi a datblygu. Dyma rai enghreifftiau o'r prosiectau rydym wedi bod yn falch o'u cefnogi.
Mae Principality Masnachol wedi darparu cyfleuster newydd gwerth £700,000 i Alcann Limited i gynorthwyo gyda buddsoddiad hirdymor a phrynu eiddo hanesyddol yng nghanol Dinbych-y-pysgod.
Rydym yn falch o fod wedi cwblhau cytundeb newydd ar gyfer Caredig (Family Housing yn flaenorol), Cymdeithas Dai yn Abertawe sydd werth £26m, fydd yn eu helpu i gyflawni eu huchelgais o adeiladu 700 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ne Cymru erbyn 2030.
Bryste
Mae Principality Masnachol yn falch o fod wedi cynorthwyo A. R. & V. Properties Limited i brynu West India House, eiddo rhestredig Gradd II yng nghanol Bryste. Lleoliad delfrydol ar gyfer pobl sydd eisiau aros yng nghymuned canol dinas ffyniannus.
Sain Ffagan, Caerdydd
Rydym yn falch o gefnogi cam olaf pentref eco sy'n chwyldroi byw'n gynaliadwy yng Nghymru. Mae prosiect Great House Farm LivEco, ar gyrion Caerdydd yn Sain Ffagan, yn ddatblygiad tai preswyl carbon isel a di-garbon, sy’n cynnwys 35 o gartrefi.
Rhondda Cynon Taf
Rydym yn falch o gefnogi cymuned leol Gilfach Goch trwy ariannu datblygiad manwerthu newydd yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi ei osod ar les i’r Co-op er mwyn dod â siop groser fwy i'r ardal.
Aberdare
Mae Principality Masnachol yn falch o gefnogi prosiectau cynaliadwy, ecogyfeillgar, fel y datblygiad carbon negyddol hwn yn Aberdâr. Mae'r byngalo, a adeiladwyd gan Rosey Developments, wedi defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau cynaliadwy i leihau ei ôl troed carbon.
Llanisien, Caerdydd
Hwn oedd ail gam datblygiad Waterstone, ychydig oddi ar Heol Brynbuga yn Llanisien, lle bu Principality yn cynorthwyo ar y cam cyntaf yn ôl yn 2012; roeddem yn falch iawn o gael cais i ariannu ail gam y safle o fri hwn, yn cynnwys 20 o dai uwchraddol a 5 tŷ fforddiadwy.
Ystad Priordy Ewenni, Bro Morgannwg
Mae datblygiad tai moethus newydd ym Mro Morgannwg, taith gerdded fer o briordy hanesyddol ac yn agos at Aberogwr, bellach wedi'i gwblhau. Fe wnaethom ni helpu Westacres gyda'u datblygiad tai moethus blaenllaw ar ystad hardd a hanesyddol Priordy Ewenni. Dywedodd Ian Morgan, Rheolwr Gyfarwyddwr Morganstone Ltd a Westacres fod ein cefnogaeth yn amhrisiadwy.
Y Felin, Caerdydd
Fe wnaethom gydweithio â Tirion Homes, Cymdeithas Tai Cadwyn, Llywodraeth Cymru a Lovell ar ddatblygiad trefol arloesol gwerth £100m sy'n dod â chartrefi fforddiadwy i orllewin Caerdydd ar safle sydd wedi bod yn adfeiliedig ers 20 mlynedd.
Darparu atebion ariannu ledled y DU
Ers 2002, mae Principality Masnachol wedi ceisio datblygu yr hyn y mae'n ei gynnig i gyrraedd y safonau uchel y mae ein cwsmeriaid yn eu haeddu. Mae'r portffolio, felly, yn cael ei ehangu nid yn unig ledled Cymru ond hefyd i dde-orllewin a chanolbarth Lloegr a Llundain.