
Eich helpu Yn helpu i roi sicrwydd i chi
Trefnwch apwyntiad heddiwFuneral Plans are provided and underwritten by Dignity
Rydym yn cynnig Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu gan Dignity i helpu i roi sicrwydd a chysur i chi a’ch teulu.
Eisiau mwy o wybodaeth?
Yn helpu i roi sicrwydd i chi a’ch anwyliaid
Rydym yn cynnig i chi y Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu gan Dignity, un o ddarparwyr cynlluniau angladdau wedi’u rhagdalu mwyaf blaengar y DU ar gyfer unrhyw un sy’n 50 oed neu’n hŷn. Mae’r Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu yn ffordd o dalu am angladd o flaen llaw. Mae’n eich galluogi i nodi’r cynllun yr ydych wedi’i ddewis ac unrhyw geisiadau arbennig a allai fod gennych, fel bod gan eich cynrychiolydd ganllawiau clir ynghylch eich dymuniadau. Yna, pan ddaw’r amser, dim ond un alwad y bydd angen i’ch cynrychiolydd ei gwneud i Dignity i roi’r cynllun ar waith.
Y Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu:
- Ymarferol - Mae’r Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu yn ffordd o dalu o flaen llaw am y gwasanaethau angladd sydd wedi’u nodi yn y cynllun ac mae’n eich caniatáu i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch yr hyn yr ydych chi eisiau ei gynnwys yn yr angladd. Bydd trefnu Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu yn helpu i arbed eich anwyliaid rhag y pryder a’r straen o wneud holl drefniadau’r angladd ar adeg emosiynol iawn. Bydd eich anwyliaid yn dal i allu dewis ychwanegu eu teyrngedau personol pan fo angen.
- Cynllun pris penodedig - Ar ôl talu am y cynllun, ni fydd Dignity yn gofyn am geiniog arall am y gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys, felly bydd gennych dawelwch meddwl.
- Dewisiadau talu hyblyg - yn eich caniatáu i dalu mewn un taliad, neu fesul rhandaliadau rheolaidd dros gyfnod penodol. Sylwer bod tâl ychwanegol am delerau talu o fwy na 12 mis.
- •Rhwydd - Gall unrhyw un sy’n 50 neu’n hŷn drefnu Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu gan Dignity. Nid oes unrhyw gwestiynau iechyd neu feddygol.
Rhagor o Wybodaeth a Chyngor
Os ydych wedi cael profedigaeth ac yn ansicr o’r hyn y mae angen i chi ei wneud, mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn darparu gwybodaeth ddiduedd am ddim ar sut i ymdrin â’r sefyllfa ariannol ar ôl marwolaeth; o dalu am yr angladd hyd at ofalu am filiau’r cartref. Gallwch fynd at y Gwasanaeth Cynghori Ariannol drwy glicio ar y ddolen isod:
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol*
Cynigir y Cynllun Angladd wedi’i Rhagdalu gan Dignity Pre Arrangement Limited a reoleiddir gan yr Awdurdod Cynllunio Angladdau.
Nid yw Dignity Pre Arrangement Limited yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol na’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus.
*Wrth glicio ar y dolenni byddwch yn gadael gwefan y Principality - nid yw’r Principality yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £11 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gwobrau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.