Image reads Annual Results 2019, with an image of Mike Jones, Interim CEO of Principality Building Society

6 February 2020

Y Principality yn cyhoeddi perfformiad blynyddol cryf

Mae’r Principality wedi cyhoeddi canlyniadau blynyddol cryf, gyda benthyciadau morgeisi manwerthu net newydd gwerth £499 miliwn yn helpu i fynd â chyfanswm yr asedau i dros £10 biliwn am y tro cyntaf yn hanes y Gymdeithas (£10.7 biliwn). I gefnogi’r twf o ran benthyciadau roedd y Gymdeithas hefyd wedi denu gwerth £596 miliwn ychwanegol o gynilion newydd. Elw sylfaenol y flwyddyn oedd £39.8 miliwn a oedd yn unol â’r disgwyliadau.

Unwaith eto, darparodd y Principality wasanaeth cwsmeriaid sydd wedi ennill gwobrau, wrth i gefnogwr cwsmeriaid Which? enwi’r Principality fel y benthyciwr â’r sgôr orau am foddhad cwsmeriaid am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae GFK Global wedi enwi’r Principality fel y darparwr cynilion a argymhellir amlaf yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn 2019, roedd Sgôr Hyrwyddwyr Net y Gymdeithas, sydd yn mesur boddhad cwsmeriaid a broceriaid sy’n argymell y Principality i bobl eraill, wedi codi i 81.5 y cant o gymharu â 78.6% yn 2018.

Mae cynhyrchion cynilo y Gymdeithas yn parhau i fod ymysg y gorau ar y Stryd Fawr. Yn 2019 rhoddodd y Principality gyfradd gyfartalog o 1.18% i gynilwyr, o gymharu â chyfartaledd y farchnad sef 0.74% dros yr un cyfnod [1].

Prif Uchafbwyntiau Perfformiad 

Click here for a text alternative to this infographic.

Infographic showing key performance highlights from Principality's 2019 annual results.


Dywedodd Mike Jones, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cymdeithas Adeiladu’r Principality:

“Rwyf yn falch iawn o’n perfformiad a’r gwasanaeth gwych yr ydym yn parhau i’w ddarparu ar gyfer ein Haelodau. Mae ein hamcanion yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol hirdymor y Gymdeithas ac mae ein helw sylfaenol a adroddwyd yn adlewyrchu cost y buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud i foderneiddio’r dechnoleg sy’n cefnogi ein busnesau morgeisi a chynilion. Bydd hyn yn gwneud ein proses o ymgeisio am forgais yn symlach ac yn fwy effeithlon ar gyfer ein cwsmeriaid a’n broceriaid morgeisi. Bydd ein cydweithwyr hefyd yn darparu cyfrwng cynilo newydd a fydd yn gwella ein gwasanaeth ar-lein ar gyfer Aelodau.

“Mae ein sylfaen cyfalaf cryf, a gefnogir gan ein model busnes risg isel, yn ein caniatáu i ystyried y tymor hir wrth fuddsoddi yn y busnes. Mae bod yn gartref cwbl ddiogel ar gyfer cynilion ein Haelodau yn hanfodol i lwyddiant parhaus ein busnes.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous yn hanes y Principality. Ein nod yw sicrhau dyfodol y busnes ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf o Aelodau. Wrth i ni fuddsoddi mewn technoleg, mae ein hymrwymiad i’r stryd fawr cymaint ag erioed. Wrth i ganghennau banciau ar y stryd fawr yng Nghymru barhau i gau, mae ein presenoldeb ni yn gryf gyda 70 o ganghennau ac asiantaethau ledled Cymru a’r Gororau. Mae ein busnes ni yn parhau i fuddsoddi mewn canghennau wrth i eraill gau eu canghennau nhw. Fel busnes mawr yng Nghymru, rydym ni eisiau i’n trefi ffynnu ac mae gan sefydliadau gwasanaethau ariannol ran i’w chwarae wrth sicrhau bod trefi a chymunedau yn ffynnu.”

Unwaith eto mae tîm Principality Masnachol wedi gwneud cyfraniad eithriadol i helpu i adeiladu cymunedau yng Nghymru a buddsoddi ynddynt. Mae hyn wedi cynnwys sicrhau bod £50 miliwn ar gael mewn benthyciadau â phrisiau cystadleuol i helpu datblygwyr tai llai o faint i adeiladu tai ledled Cymru, ynghyd â £75 miliwn o gyllid ar gyfer cymdeithasau tai i gefnogi’r gwaith o greu tai fforddiadwy. Mae eu hymdrechion yn cynrychioli cyfraniad sylweddol tuag at fodloni Agenda Tai Cymru.

Y llynedd, darparodd y Principality addysg ariannol i fwy nag 11,000 o blant. Buddsoddodd £110,000 gan helpu miloedd o blant ysgol i ennill tystysgrif cyfwerth â TGAU. Cododd cydweithwyr hefyd £156,000 i’w rannu’n gyfartal rhwng ein partneriaid elusennol Teenage Cancer Trust Cymru ac Alzheimer’s Society Cymru.
Ychwanegodd Mike: “Rwy’n disgwyl i’r amgylchedd economaidd yn 2020 barhau i fod yn heriol a chystadleuol. Fodd bynnag, mae ein sylfaen gyfalaf gref yn golygu y gall y busnes ddarparu cartref cwbl ddiogel ar gyfer cynilion ein Haelodau beth bynnag fo’r hinsawdd economaidd.

Prif Uchafbwyntiau Perfformiad

• Elw sylfaenol cyn-treth, sy’n adlewyrchu gwir berfformiad masnachol y busnes - £39.8 miliwn (2018 - £43.8 miliwn)
• Elw statudol cyn treth - £39.6 miliwn (2018 - £40.7 miliwn)
• Cynyddodd cyfanswm yr asedau i £10.7 biliwn (2018 - £9.7 biliwn)
• Tyfodd falansau cynilion yn gryf a nawr maent yn £7.6 biliwn (i fyny o £7.0 biliwn ar 31 Rhagfyr 2018)
• Wedi helpu mwy na 4,900 o brynwyr am y tro cyntaf i gamu ar yr ysgol eiddo
• Elw llog net – 1.09% (2018 – 1.26%)
• Benthyciadau morgeisi manwerthu net - £499.3 miliwn (2018 - £718.7 miliwn)
• Cymarebau cyfalaf cryf a chymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1 o 26.20% (2018: 27.06%)
• Mae gwasanaeth cwsmeriaid wedi cyflawni’n dda unwaith eto a’n sgôr hyrwyddwr net oedd 81.5% (2018 - 78.6%)
• Mae cydweithwyr wedi codi, gydag arian cyfatebol gan y Principality, £156,000 ar gyfer elusennau

[1] Ffynhonnell: Cronfa Ddata Cyfrifon Cyfredol a Chynilion CACI, cyfraddau llog cyfartalog y DU wedi’u pwysoli ar gyfer Stoc cyfradd sefydlog ac amrywiol, Ionawr-Hydref 2019 (y data diweddaraf sydd ar gael).

 

Published: 06/02/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Members can access a Member Rewards page featuring competitions, discounts and more.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig