24 June 2020
Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn Cyhoeddi Prif Weithredwr Newydd
Mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi cyhoeddi bod Julie-Ann Haines wedi’i phenodi'n Brif Weithredwr, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol.
Julie-Ann, a ymunodd â'r Gymdeithas fel Pennaeth Strategaeth a E-Sianel yn 2007, yw’r Prif Swyddog Cwsmeriaid ar hyn o bryd. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad corfforaethol ym maes manwerthu a gwasanaethau ariannol. Yn ei swydd bresennol mae hi wedi bod yn gyfrifol am bob agwedd ar wasanaethau cwsmeriaid ac mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio strategaeth y Gymdeithas a’i thrawsnewid ar gyfer y dyfodol.
Bydd y Prif Weithredwr Dros Dro, Mike Jones, yn parhau yn ei swydd tan i Julie-Ann gael ei chymeradwyo'n swyddogol gan y rheoleiddwyr ariannol, sy'n gallu cymryd hyd at dri mis.
Dywedodd Laurie Adams, Cadeirydd y Principality: "Ar ôl proses ddethol drylwyr, mae'n bleser gennyf gyhoeddi mai Julie-Ann fydd ein Prif Weithredwr newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol. Bydd ei hymrwymiad i'n gwerthoedd cydfuddiannol am fwy na degawd, pryd y dangosodd arweinyddiaeth gref, craffter ariannol a masnachol wrth helpu i ddyblu ein hasedau i fwy na £10 biliwn, yn ei helpu i sicrhau ei bod yn adeiladu ar lwyddiant y Gymdeithas.
"Yn ystod ei hamser yng Nghymdeithas Adeiladu'r Principality, mae hi wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod ein Haelodau wedi cael profiad cwsmeriaid rhagorol, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn, sef y pandemig COVID-19. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o arwain ein strategaeth drawsnewid a hi yw'r person cywir i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwerth hirdymor a gwasanaeth rhagorol i’r aelodau presennol ac aelodau’r dyfodol.
"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n Prif Weithredwr Dros Dro, Mike Jones, am helpu i lywio'r busnes hwn drwy gyfnod anodd iawn, a bydd yn parhau yn ei swydd tan y caiff Julie-Ann gymeradwyaeth reoleiddiol."
Dywedodd Julie-Ann: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd o'r mwyaf i gael fy mhenodi'n Brif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu'r Principality sydd â threftadaeth anhygoel o 160 o flynyddoedd fel sefydliad sy'n eiddo i’w Aelodau. Fel arweinydd ein sefydliad a arweinir gan ddiben, fy mlaenoriaeth fydd adeiladu ar ein sylfeini cadarn a pharhau i fuddsoddi yn y busnes, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn. Mae'n hanfodol bod gennym gymdeithas adeiladu sy'n berthnasol i aelodau, cwsmeriaid a phartneriaid masnachol y presennol a'r dyfodol.
"Mae gennyf weledigaeth glir o ran ble yr wyf i eisiau i'r Gymdeithas fod, gan ein hysgogi i gyflawni'r newidiadau parhaus sydd eu hangen arnom i barhau i fod yn berthnasol ac yn llwyddiannus. Rydym yn gartref diogel ar gyfer ein Haelodau ond rydym yn bwriadu gwneud llawer mwy i wella'r profiad gwych i gwsmeriaid y maen nhw’n gyfarwydd â'i dderbyn.
"Mae angen ein cefnogaeth ar ein Haelodau yn fwy nag erioed, i'w helpu i aros yn eu cartrefi am fwy o amser a diogelu eu cynilion. Mae ein cydweithwyr ymroddgar ledled y Gymdeithas wedi bod yn wych wrth helpu ein cymunedau drwy gydol yr argyfwng COVID-19. Y math hwn o gefnogaeth a thosturi sy'n gwneud i ni sefyll allan fel busnes gwych yma yng Nghymru a'r gororau.
"Rwy'n edrych ymlaen at fynd â'r Gymdeithas o nerth i nerth, wrth gyflawni ar ran ein Haelodau a'n cydweithwyr."
Published: 24/06/2020
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.