11 August 2020
Principality yn lansio ap cynilo dwyieithog i addysgu plant am addysg ariannol
Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi lansio ap addysg ariannol ac adnodd ar-lein i annog plant i ymarfer eu sgiliau rhifedd a chynilo, yn rhan o’i hymrwymiad parhaus i addysg ariannol ar gyfer pobl ifanc.
Mae’r ap rhyngweithiol ac addysgol Cuddfan Dylan gan Gymdeithas Adeiladu’r Principality ar gael i unrhyw un ei ddefnyddio, nid cwsmeriaid y Principality yn unig. Mae’r ap ar gyfer plant 5-11 oed sydd yn CA1 a CA2, ac mae’n cynnwys gemau ac offer sy’n annog plant i ddysgu am gynilo a rheoli arian o oedran cynnar.
Drwy gyfrwng ar wahân, o’r enw Hwb Sgwad Safio Dylan, mae’r Principality wedi creu parthau unigol i rieni allu cefnogi plant i ddysgu gartref.
Dyma’r deunyddiau addysg ariannol ar-lein cyntaf o’u math sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r cyfyngiadau symud oherwydd pandemig y coronafeirws wedi arwain at darfu sylweddol ar addysg pobl ifanc ac at rieni ac athrawon yn defnyddio adnoddau addysgol o gartref. Mae ap ac adnodd ar-lein y Principality ar gael o gartref ac yn yr ystafell ddosbarth, gan ganiatáu i blant ddysgu am addysgu ariannol ni waeth ble maen nhw.
Mae’r ap yn cyflwyno cymeriad Dylan y Ddraig y Principality, ac mae’n cynnwys gemau fel Dal Darnau Arian i ddysgu am adnabod darnau arian, a Ffactorau’n Fflio sydd â’r bwriad o addysgu ffactorau rhifyddol mewn modd hwyl. Mae’r Hwb ar-lein yn cynnig gemau yn ymwneud â safio ar gyfer diwrnod allan, gan gynnwys taith i’r Eisteddfod, Eryri neu Stadiwm Principality, â’r nod o addysgu plant ynghylch targedau cynilo a sut i’w cyrraedd.
I annog plant a rhieni i ddefnyddio’r ap, mae’r Principality wedi cynnwys cymhelliant ychwanegol o gymryd rhan mewn raffl ar ôl chwarae nifer penodol o gemau, ac mae’r gwobrau yn cynnwys taleb rhodd gwerth £100 i’w wario yn Buy a Gift, i gael diwrnod allan llawn hwyl i’r teulu.
Dywedodd Mike Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Fel cymdeithas gydfuddiannol sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo addysg ariannol, mae’n bleser gennym lansio Sgwad Safio Dylan – ein cam nesaf i sicrhau y gall pob plentyn ddysgu gwersi hanfodol ynghylch cynilo. Trwy sicrhau bod yr ap ar gael i bawb, gall plant a rhieni ym mhobman ddefnyddio’r adnoddau hyn i wella pa mor gyfarwydd ydyn nhw ag arian a’u dealltwriaeth ohono, gan addysgu sgiliau gwerthfawr am oes. Yn fuan byddwn yn lansio hwb ar-lein i athrawon barhau i gefnogi gwaith caled ysgolion wrth addysgu addysg ariannol.”
Ers 2019, mae Cymdeithas Adeiladu'r Principality wedi cyrraedd 20,000 o bobl ifanc trwy weithgareddau addysg ariannol a gyrfaoedd.
I gael gwybod mwy, ewch i www.sgwadsafiodylan.co.uk
Mae cymryd rhan yn y raffl yn ddewisol. Mae telerau ac amodau yn berthnasol a gellir eu gweld yn www.principality.co.uk/dylan-saving-squad-prize-draw
Published: 11/08/2020
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.