24 November 2020

Cyfansoddi cerdd ‘Ni ’da chi, bois’ fel neges o’r galon i rygbi Cymru

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi gofyn am gymorth cyn Fardd Plant Cymru i gyfansoddi cerdd â’r nod o danio angerdd ledled y wlad wrth i’r tîm rygbi cenedlaethol gystadlu yn ymgyrch Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Fel prif noddwr Stadiwm Principality, mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality eisiau sicrhau nad yw’r ysbryd gwladgarol yn cael ei golli yn ystod y gemau yr hydref hwn. Wedi’i chasglu o negeseuon o’r galon gan gefnogwyr a chlybiau rygbi llawr gwlad ym mhob cwr o Gymru, mae’r bardd enwog Eurig Salisbury wedi cyfansoddi ‘Ni ‘da chi, bois’ i ddangos cefnogaeth i’r cochion y tymor hwn.

Er bod pandemig coronafeirws wedi atal gemau ym mhob camp ryngwladol eleni, mae Cwpan Cenhedloedd yr Hydref wedi cychwyn mewn gwirionedd bellach ac mae Cymru eisoes wedi chwarae yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ac ar fin mynd benben â Georgia ddydd Sadwrn nesaf.

Ar ôl casglu negeseuon gan glybiau rygbi o bob cwr o Gymru, cyfansoddwyd y gerdd i adlewyrchu synnwyr o hiraeth am y gêm a chartref rygbi Cymru. Yn gynharach eleni, trawsnewidiwyd Stadiwm Principality yn ysbyty brys yn ystod anterth argyfwng Covid-19 ac o ganlyniad bydd pob gêm gartref y tymor hwn yn cael ei chynnal ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Caiff y gerdd, ‘Ni ‘da chi, bois’, a gynhyrchwyd fel ffilm fer i ddangos y gefnogaeth gyfunol yng Nghymru, ei hadrodd gan y gantores, cyfansoddwraig, awdures a darlledwraig Cerys Matthews.

Yn ogystal â’i hymrwymiad i rygbi Cymru trwy ei phartneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, mae’r gymdeithas adeiladu bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi clybiau rygbi llawr gwlad yng Nghymru. Ar ôl i lawer o glybiau gael eu heffeithio gan lifogydd eang ar ddechrau’r flwyddyn a’u bod bellach wedi cau am gyfnod amhenodol oherwydd y coronafeirws, y gobaith yw y bydd y neges hon yn atseinio mewn cymunedau ledled Cymru.

Meddai Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Er y byddwn yn mwynhau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref o’n cartrefi eleni, yn hytrach na chartref rygbi Cymru, ein gobaith yw y bydd ein cerdd yn uno cefnogwyr rygbi ac yn dangos i’r tîm cenedlaethol bod y wlad gyfan yn eu cefnogi. Mae wedi bod yn flwyddyn galed i glybiau rygbi ledled Cymru, ond mae’r gemau rhyngwladol yn achlysuron y mae cefnogwyr rygbi yn edrych ymlaen atyn nhw bob amser, ac rydym ni’n gwybod y bydd eleni yr un fath yn union.”

Meddai’r bardd, Eurig Salisbury: “Roeddwn i eisiau i’r gerdd gyfleu meddyliau a theimladau pobl ledled Cymru i atgoffa’r wlad a thîm Cymru ein bod ni’n unedig hyd yn oed pan nad ydym ni gyda’n gilydd. Rwyf i wedi cyfansoddi’r gerdd yng nghyd-destun rhwystredigaeth pobl ar hyn o bryd o gael eu hamddifadu o gysylltiad corfforol, a gallu unigryw rygbi i leddfu rhywfaint o’r straen hwnnw. Ymddangosodd y gair 'cartref' dro ar ôl tro mewn negeseuon gan glybiau rygbi a daeth yn hollbwysig i’r gerdd. Mae’r tân hwnnw yn ein calonnau, yr angerdd yna a’r teimlad o fod yn un, yn dal i fodoli yn ein cartrefi, yn ein hystafelloedd byw ac o’n cadeiriau breichiau.”

Gwyliwch fideo llawn
Ni ‘da chi, bois.

;

 

Ni ‘da chi, bois

’Welodd neb hyn yn dod. Pawb yn codi
Eu llygaid yn un haid ac yn oedi,
A thân hawdd ein hafiaith ni – a’i wres
Yn gwanhau’n araf, ac yna’n oeri.

Beth yw stadiwm, dwed, heb dorf unedig,
A gwres ein ffwrnes heb ddau dîm ffyrnig?
Beth yw lle mewn pandemig? Beth yw cae
Heb arno chwarae, ond brwyn a cherrig?

Y stadiwm hon, mor astud ei meini,
Yw caer y tair coron, cartre’r cewri,
Lle tân o hafan oedd hi – ein draig flwydd,
Ein pryd o danwydd, ein pair dadeni.

Am heddiw, felly, oes modd, efallai,
Aileni’r dadeni gynt a daniai,
Na, nid mewn torf, ond mewn tai – bach di-sôn
O Nedd i Fôn, o Gaerdydd i Fenai?

Dewch nawr, canwn, a chodwn y to chydig,
Moriwn ein nodau dros Gymru unedig,
Ac fel parêd berwedig – trown bob rhes
O dai yn ffwrnes o danau ffyrnig.

Os heddiw ffans hawdd a hoff o’n seddau
Yn mwynhau annog yn wir ŷm ninnau,
Heb angen trin pengliniau – na chlymu
Asennau’n glasu na hen, hen gleisiau,

Fe wnawn ein rhan o’r cefn, er hynny,
A byw pob sgarmes, a’r lolfa’n c’nesu,
Fel mewn sgrym, sgwyddau’n crymu – a thynhau,
A’n holl gyhyrau fel pleth llwy garu.

A dyma wres ein neges ni – ein tân
I’r tîm o’n cartrefi:
Safwn a chanwn ’da chi
Yn y leinyp eleni.

Dewch, bob un: ni ’da chi, bois.

Eurig Salisbury

Published: 24/11/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £11 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Principality. Lle mae cartref yn bwysig.