Image of Nigel Owens which reads 'win the ultimate clubhouse quiz'

29 April 2020

O’r clwb i’r gadair freichiau, dyfarnwr Cwpan y Byd Nigel Owens i gyflwyno rhith-gwis rygbi

Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn parhau i gefnogi clybiau llawr gwlad yn ystod blwyddyn anodd

Mae clybiau rygbi yng Nghymru yn cael cyfle i ennill y rhith-gwis gorau i glybiau, wedi’i gyflwyno gan y dyfarnwr rygbi Nigel Owens, diolch i Gymdeithas Adeiladu’r Principality. 

Mae cefnogwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr o dimau llawr gwlad yn cael eu hannog i gymryd rhan yng Nghwis Clybiau y Principality. Ar ôl i lifogydd eang effeithio ar lawer o glybiau ddechrau’r flwyddyn ac wrth i’r clybiau fod wedi cau bellach am gyfnod penagored oherwydd y coronafeirws, mae’r gymdeithas adeiladu bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi clybiau rygbi llawr gwlad yng Nghymru.

Bydd un clwb yn ennill y cwis rygbi arbennig i hyd at 100 o bobl sy’n gysylltiedig â’r tîm – fel carfannau chwaraewyr, eu teuluoedd, hyfforddwyr, cefnogwyr, staff bar, gofalwyr maes – ac mae llawer o wobrau i’w hennill. Nigel Owens, sydd â record y byd am ddyfarnu’r mwyaf o gemau prawf, fydd yn cyflwyno’r cwis drwy’r cyfrwng fideo-gynadledda Zoom, a gall y clwb a ddewisir ddisgwyl ymweliad gan un o chwaraewyr rhyngwladol Cymru.

Fel noddwyr Stadiwm Principality a’r Cynghreiriau Ieuenctid Cenedlaethol i glybiau llawr gwlad yng Nghymru, mae gan y Principality berthynas gref ag Undeb Rygbi Cymru ac mae’n gwybod pa mor bwysig yw rygbi i gymunedau ledled y wlad. Gan nad oes unrhyw gemau na chwaraeon ar hyn o bryd, mae’r gymdeithas adeiladu yn dymuno dod â bwrlwm y clwb rygbi i ystafelloedd byw.

Bydd chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr o’r clwb buddugol yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn y cwis rygbi chwe rownd, a bydd gwobrau i’r cyntaf, yr ail a’r trydydd. Bydd cwestiynau bonws ym mhob rownd hefyd, pan fydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i ennill gwobrau a roddwyd yn arbennig gan y Principality, gan gynnwys teithiau o gwmpas Stadiwm Principality a chrysau rygbi.

Dywedodd cyflwynydd Cwis y Clybiau, Nigel Owens: “Mae clybiau rygbi yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau ac ni fydd llawer o chwaraewyr wedi gweld eu cyd-chwaraewyr ers cryn amser bellach. Dyma gyfle i ddod â phobl at ei gilydd a phrofi eu gwybodaeth am rygbi ar yr un pryd. Rwyf i wedi arfer â dyfarnu 30 o chwaraewyr ar y cae chwarae, felly bydd rheoli clwb o hyd at 100 o bobl ar Zoom yn her gwbl wahanol. Bydd yn llawer o hwyl ac rwy’n siŵr na fydd yn rhaid i mi roi neb yn y gell gosb. Mae’n syniad gwych gan y Principality i ddod â’r gymuned rygbi at ei gilydd.”

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Mae llawer o glybiau rygbi ledled Cymru wedi cael blwyddyn anodd dros ben, yn dilyn difrod y llifogydd i feysydd a chlybiau, ac yna’r coronafeirws. Mae llawer o fywyd fel yr ydym ni’n ei adnabod wedi oedi i sicrhau diogelwch ein GIG, gweithwyr allweddol eraill, ffrindiau, teuluoedd a’n hunain.

“Gan nad oes gemau rygbi a chyfeillgarwch awyrgylch y clwb ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio y bydd y cwis clybiau arbennig iawn hwn i un tîm yng Nghymru yn rhoi llawer o ddifyrrwch yn y cyfnod anodd hwn.”

Gall timau gynnig eu clwb trwy wefan y Principality, a gellir cynnig y clwb sawl gwaith ond dim ond un cynnig y person. Mae’r gystadleuaeth yn agor am 9am ddydd Mercher 29 Ebrill ac yn cau ddydd Mercher 6 Mai am hanner dydd. Bydd cwestiynau’r cwis ar gael i’r cyhoedd ar ôl i’r cwis gael ei gynnal fel y gall clybiau eraill gynnal eu digwyddiad eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth a gweld y telerau ac amodau, ewch i: www.principality.co.uk/clubhousequiz

Published: 29/04/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig