16 August 2021
Gwerthiannau tai Cymru yn cynyddu wrth i’r pris cyfartalog gyrraedd uchafbwynt newydd
Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru i uchafbwynt pris cyfartalog newydd o £215,810 yn Ch2 2021 (Ebrill-Mehefin), a'r gyfradd twf gryfaf yn cael ei hadrodd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r ffigurau wedi'u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch2 2021, sy'n dangos y cynnydd a'r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.
Er gwaethaf chwyddiant ym mhrisiau tai blynyddol o 12.5%, mae rhai arwyddion bod cyflymder cryf y cynnydd a welwyd tua dechrau’r flwyddyn wedi dechrau lleihau, gyda chynnydd y gyfradd chwarterol bellach i lawr i 1.4%. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i wyliau’r Dreth Trafodiadau Tir (LTT) wedi dod i ben ym mis Mehefin a gallai fod yn arwydd y bydd twf prisiau yn arafu yn ail hanner 2021.
Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality: "Mae maint a chryfder y farchnad dai yng Nghymru hyd yma yn awgrymu y bydd y momentwm hwn yn parhau hyd at chwarteri olaf y flwyddyn. Yn amlwg, bydd effaith ysgogol rhyddhad y Dreth Trafodiadau Tir wedi diflannu erbyn hynny, ac oherwydd bod rhai pryniadau wedi’u dwyn ymlaen er mwyn manteisio ar y budd, mae’n anochel y bydd gweithgareddau yn gostwng .
"Ochr yn ochr â hyn, daw’r cynllun ffyrlo i ben ym mis Medi, gan ddatgelu’n gliriach gyflwr sylfaenol yr economi a chyflogaeth. Mae rhagolygon amrywiol yn awgrymu y bydd Cymru, ynghyd â rhannau eraill o’r DU – yn gweld chwyddiant prisiau tai yn gostwng i ychydig o dan 5% yn 2022 ac ymlaen. Bydd llawer yn dibynnu ar hynt cyfraddau llog a’r economi, ond mae’r farchnad forgeisi yn parhau i fod yn gystadleuol iawn wrth i gyfraddau ostwng yn y misoedd diwethaf ar ôl cynyddu ychydig ar waethaf y pandemig.”
Mae Mynegai Prisiau Tai Principality yn amcangyfrif y bu tua 13,400 o drafodion yn Ch2 2021, bron i draean yn fwy na’r nifer ar yr un adeg y flwyddyn flaenorol (4,800 o werthiannau) a oedd yn isel oherwydd Covid, ond hefyd yn sylweddol uwch na'r cyfnod mwy "arferol" yn Ch2 2019 (11,000 o werthiannau).
Nododd pob un o'r 22 awdurdod lleol gynnydd blynyddol yn Ch2, gan ailadrodd perfformiad y chwarter blaenorol. Cyrhaeddodd prisiau mewn wyth awdurdod – Conwy (£222,944), Merthyr Tudful (£159,101), Castell-nedd Port Talbot (£160,324), Rhondda Cynon Taf (£150,726), Bro Morgannwg (£330,396), Tor-faen (£198,476), Pen-y-bont ar Ogwr (£214,081) a Blaenau Gwent (£128,441) – uchafbwynt newydd yn Ch2.
Adroddwyd cynnydd blynyddol mewn prisiau o fwy na 15% gan naw awdurdod lleol, gyda Blaenau Gwent (19.6%), Pen-y-bont ar Ogwr (19.4%), Sir Gaerfyrddin (19.9%) a Chonwy (19.7%) i gyd yn nodi cynnydd blynyddol o bron i 20%.
Nododd llawer o’r awdurdodau lleol hyn enillion chwarterol cryf hefyd, yn enwedig Pen-y-bont ar Ogwr (11%) a Merthyr Tudful (15%). Nododd mwyafrif bach o’r awdurdodau lleol (12 o'r 22) fân ostyngiadau chwarterol, a allai fod yn arwydd arall bod cyfnod llai cyflym o chwyddiant prisiau o'n blaenau.
Nododd tair o ddinasoedd mawr Cymru - Casnewydd, Abertawe a Wrecsam - ynghyd â Phowys, brisiau chwarterol a oedd tua 5% yn is.
I gael gwybod mwy ewch i www.principality.co.uk/housepriceindex
Published: 16/08/2021
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.