Image showing a woman moving into a new home

17 May 2021

Cymru'n gosod record newydd ym mhrisiau cyfartalog tai

Mae'r galw o gamau a ysbrydolwyd gan y cyfyngiadau symud wedi cynyddu prisiau a gweithgareddau, ac mae gwerthiannau i fyny 40% ar yr un adeg y llynedd

Mae prisiau cyfartalog tai yng Nghymru yn parhau i gyrraedd uchafbwyntiau newydd wrth iddynt gyrraedd £212,751 yn Ch1 2021 (Ionawr – Mawrth), gyda chwyddiant prisiau tai blynyddol yn cynyddu i 10.1%, y cynnydd canrannol ffigur dau ddigid cyntaf ers 2005.

Mae'r ffigurau wedi'u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch1 2021, sy'n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae newidiadau yn y galw am dai yn sgil y cyfyngiadau symud ac ymyriadau polisi'r llywodraeth ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir wedi rhoi hwb i brisiau a gweithgareddau, ac mae gwerthiannau i fyny 40% ar yr un cyfnod yn 2020. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi adrodd cynnydd mewn prisiau tai yn chwarter cyntaf 2021 o'i gymharu'n flynyddol â Ch1 2020.

Ledled Cymru, mae prisiau tai ar wahân, tai pâr a thai teras 10% neu fwy yn uwch na'r un adeg yn 2020, ond mae prisiau fflatiau yn parhau yn isel.

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Cyllid Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae adferiad y farchnad dai yn ystod y pandemig wedi bod yn gryfach nag yr oedd rhai wedi'i ragweld, ac os cynhelir y momentwm hwnnw, efallai y bydd adferiad cryf y farchnad dai yn parhau drwy weddill y flwyddyn ac i 2022. Mae'r galw cynyddol oherwydd prinder tai ar y farchnad, cyfraddau llog isel parhaus, codiadau cyflogau i'r rhai sydd mewn gwaith, ynghyd â chymhelliant y Dreth Trafodiadau Tir, wedi arwain at yr uchafbwynt uchaf erioed hwn o brisiau cyfartalog tai.

“Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, gellid effeithio ar y twf hwn gan ddiwedd gwyliau'r Dreth Trafodiadau Tir a'r cynllun ffyrlo, ond bydd llawer yn dibynnu ar adferiad cyffredinol yr economi.”

Roedd yr amcangyfrif o werthiannau yn Ch1 40% yn fwy na’r un cyfnod y llynedd, er bod gwahaniaeth eglur rhwng gwerthiannau tai a fflatiau. Yn ôl data misol gan CThEM, cafwyd 3,880 o werthiannau ym mis Ionawr, 4,610 ym mis Chwefror ac 8,170 ym mis Mawrth – tystiolaeth glir o effeithiau cymhelliant gwyliau'r Dreth Trafodiadau Tir. 

Cafwyd y prisiau uchaf erioed yn ystod Ch1 mewn wyth awdurdod lleol, sef Pen-y-bont ar Ogwr (£191,810), Caerdydd (£269,826), Sir Gaerfyrddin (£196,422), Sir Ddinbych (£201,091), Casnewydd (£228, 876), Abertawe (£213,819), Bro Morgannwg (£303,807), a Wrecsam (£198,944).

Cododd prisiau tai ar y gyfradd gyflymaf yn Abertawe, gyda chynnydd blynyddol o 16.1%. Roedd Ynys Môn (14.6%), Bro Morgannwg (14.6%), a Sir Gaerfyrddin (14.2%) yn dilyn yn agos ar ei hôl hi, gan dynnu sylw at y "ras am le" a ysgogwyd gan COVID, gan fod y rhain yn ddewisiadau poblogaidd i bobl o ddinasoedd Cymru neu Loegr.

Roedd yn ddarlun cymysg o ran perfformiad chwarterol, gyda phrisiau’n is mewn saith ardal awdurdod lleol, a’r gostyngiadau mwyaf sydyn i'w gweld yn Sir Fynwy (i lawr 5.8%), Conwy (i lawr 4.5%) a Gwynedd/Castell-nedd Port Talbot (y ddau i lawr 3.5%), er bod hynny yn dilyn y prisiau uchaf erioed yn y chwarter blaenorol ym mhob achos.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.principality.co.uk/housepriceindex

Published: 17/05/2021

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig