Image showing Julie-Ann Haines, Chief Executive Officer of Principality

23 February 2022

Bydd Principality yn ail-fuddsoddi elw cryf yn ei changhennau a'i thechnoleg

Mae Principality wedi cyhoeddi canlyniadau blynyddol cryf ar gyfer 2021, wrth iddi ganolbwyntio ei holl ymdrechion ar gefnogi aelodau, cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas, a chefnogi ei chydweithwyr arobryn.

Cymunedau sy’n ffynnu
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Julie-Ann Haines: "Mae wedi bod yn flwyddyn heriol arall i'n cydweithwyr, ein cwsmeriaid a'n cymunedau. Gan ddechrau'r flwyddyn yn y cyfnod clo cenedlaethol, mae’r ffordd y mae ein cydweithwyr wedi cynnal eu ffocws a'u hymrwymiad i wneud Principality yn Gymdeithas lwyddiannus a chroesawgar wedi fy nharo. Mae ein Cymdeithas yn parhau i ofalu am anghenion cynilo a morgais ein haelodau, ac rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth i ni barhau i gyflawni ein huchelgeisiau strategol.

“Bu’n gyfnod anodd iawn i'r stryd fawr ond wrth i gystadleuwyr barhau i gau eu canghennau, rwy'n falch bod gennym y presenoldeb canghennau ffisegol mwyaf o unrhyw frand gwasanaethau ariannol yng Nghymru a'r gororau. Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom addo cynnal ein presenoldeb canghennau yn yr holl drefi a dinasoedd yr ydym yn gweithredu ynddynt yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd tan o leiaf 2025, gan roi sicrwydd i'n haelodau, ein cydweithwyr a'n cymunedau.

“Fel busnes mawr yng Nghymru, rydym eisiau i'n trefi ffynnu ac yn credu bod gan sefydliadau gwasanaeth ariannol ran i'w chwarae i sicrhau bod trefi'n ffynnu, a bod gan ddefnyddwyr fynediad at arian parod. Bydd ein canghennau'n parhau i fod ar agor cyhyd ag y bydd aelodau'n parhau i'w gwerthfawrogi a'u defnyddio fel y byddant yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Cartrefi Gwell
Parhaodd Principality i helpu prynwyr tro cyntaf wrth i nifer y ceisiadau godi a 2,954 o bobl yn gallu camu ar yr ysgol eiddo er gwaethaf marchnad dai llawer mwy heriol.

Dywedodd Julie-Ann: “O ganlyniad i'r pandemig ac ymyrraeth gan y llywodraeth, rydym wedi gweld cynnydd mawr ym mhrisiau tai ac felly rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud mwy o ymdrech i helpu pobl i berchen ar eu cartref eu hunain. Roedd hyn yn cynnwys lansio ap Camau Cartref Cyntaf sef cymorth ar-lein penodol ar gyfer prynwyr tro cyntaf, yn ogystal â chynnig amrywiaeth o forgeisi ar gyfer gweithwyr proffesiynol newydd gymhwyso.

“Rhoddwyd cymorth parhaus i gwsmeriaid morgeisi gyda gwyliau talu, a gwnaethom yn siŵr bod anghenion ein haelodau yn cael eu diwallu yn ystod cyfnod ansicr i bawb.”

Er budd pawb, helpu i adeiladu Cymdeithas decach
Mewn partneriaeth â Young Enterprise, roedd Principality yn falch o noddi Her y Bumpunt ledled Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Roedd yn wych gweld dros 3,000 o ddisgyblion Cynradd yn sefydlu eu busnesau eu hunain gyda £5 o fuddsoddiad, llawer o ddysgu, pwyslais amgylcheddol mawr ac elw mawr i rai hefyd. Ers 2020, mae'r gymdeithas adeiladu hefyd wedi cefnogi 2,000 o bobl ifanc yng Nghymru i gael cymwysterau addysg ariannol gan London Institute of Banking a Finance, a chyhoeddodd y bydd yn buddsoddi £100,000 i barhau â'r cymorth hwn.

Dywedodd Julie-Ann: “Rydym eisiau sicrhau ein bod yn parhau i fod yn fusnes cyfrifol a chynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y dyfodol. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg er budd sut y caiff eich cymdeithas ei rhedeg, a byddwn hefyd yn cynyddu'r buddsoddiad i helpu mwy o brynwyr tro cyntaf i gael cartref, helpu mwy o bobl i fyw mewn cartrefi carbon niwtral, sicrhau bod gan ein haelodau ddewis o ran sut rydym yn rhedeg eu cymdeithas adeiladu, a chreu cymdeithas decach er budd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a chymunedau.

“Er enghraifft, rydym yn canolbwyntio ar ein cynaliadwyedd fel sefydliad, ac rydym wedi gosod targed uchelgeisiol i fod yn sero net carbon erbyn 2030. Cyflwynodd ein tîm masnachol arobryn gronfa benthyciadau gwyrdd i gefnogi datblygwyr sy'n adeiladu cartrefi carbon niwtral ledled Cymru. Rydym hefyd yn bartner i Sero, technoleg ariannol o Gymru, i nodi sut y gallwn gynorthwyo ein haelodau sy’n dymuno gwella cynaliadwyedd eu cartrefi.”

Dyfodol Diogel
Yn 2020 cynyddodd Principality ei darpariaethau ar gyfer colledion benthyciadau posibl yn y dyfodol oherwydd yr ansicrwydd economaidd yn sgil y pandemig. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r rhagolygon economaidd wedi gwella'n raddol, ac maen nhw’n fwy optimistaidd ar gyfer 2022. Perfformiodd y farchnad dai yn well na’r disgwyl yn ystod 2021 ac mae cyflogaeth yn fwy sefydlog na'r disgwyl ar ôl i ffyrlo ddod i ben, sydd wedi arwain at ostyngiad yn lefel gyffredinol y ddarpariaeth. Roedd elw sylfaenol cyn treth o £54.4 miliwn (2020: £24.1 miliwn) ac elw statudol cyn treth o £64.0 miliwn (£19.9 miliwn).

Dywedodd Julie-Ann: “Rydym wedi cynnal ein pwyslais ar raglen fuddsoddi a fydd yn ein galluogi i gynnig mwy o hyblygrwydd i aelodau presennol ac yn y dyfodol wrth reoli eu hanghenion cynilo a morgais. Eleni rydym wedi bod yn brysur yn gweithredu system forgais newydd a fydd o fudd i froceriaid a chwsmeriaid drwy wella cyflymder ein proses ymgeisio, a diwallu mwy o anghenion ein cwsmeriaid drwy gynnig ystod ehangach o gynhyrchion. Mae ein helw'n gryf a byddwn yn defnyddio hyn i fuddsoddi yn ein technoleg, ein canghennau a'n cydweithwyr i gynnal ein gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.”

Rhagolwg
Ynglŷn â’r rhagolygon ar gyfer 2022 ychwanegodd Julie-Ann: “Mae disgwyl i'r amgylchedd economaidd fod yn fwy optimistaidd y flwyddyn nesaf a thu hwnt, er bod pwysau ariannol fel biliau ynni cynyddol, cynnydd mewn costau byw ac yswiriant gwladol i'n haelodau ymdopi â nhw yn y flwyddyn nesaf. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar helpu aelodau i gael cartref ac aros mewn cartref yn hirach, i fod yn fusnes llawer mwy pwrpasol a chynaliadwy, ac i gadw ein hymrwymiad i ddatblygu a thyfu ein busnes mewn modd diogel a sicr. Mae disgwyliadau ein haelodau ohonom yn newid. Felly byddwn yn parhau i addasu, buddsoddi a gwella fel ein bod yn parhau i fod yn berthnasol yn y tymor hir, ac yn barod i wynebu heriau yn y dyfodol.”

DANGOSYDDION PERFFORMIAD ALLWEDDOL

  • Cyfanswm yr asedau £10,907.9 miliwn
  • Elw sylfaenol cyn treth £54.4 miliwn
  • Balansau morgais preswyl - £8,033.3 miliwn
  • Balansau cynilion - £7,934.8 miliwn
  • Sgôr Hyrwyddwr Net – 80.5%
  • Cyfalaf (cymhareb CET1) – 33.99%
  • % y morgeisi a ariennir gan gynilwyr – 89.4%
  • 8fed Lle Gwych i Weithio yn y DU
  • Mae'r Gymdeithas wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau Cymru, gyda 53 o ganghennau a 14 o asiantaethau yng Nghymru a'r gororau.

Published: 23/02/2022

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig